Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

HOLOCOST

Beth yw ystyr holocost, ac a oes bosib y gallai hyn ddigwydd eto?

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2   


Fersiwn Saesneg

Nod

Dysgu beth yw gwrth-semitiaeth, a sut y gall hynny arwain at ganlyniadau erchyll.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth  

  1. Dangoswch gopi o Ddyddiadur Anne Frank, a gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n gyfarwydd â’r llyfr. Gofynnwch i’r plant ddweud rhywbeth am y llyfr wrthych. (Efallai eu bod wedi dod ar draws llyfr o’r enw The Boy in the Striped Pyjamas, gan John Boyne. Mae ffilm hefyd wedi cael ei gwneud yn seiliedig ar gynnwys y llyfr.)

    Gwnewch restr o’r pethau y mae’r plant yn eu gwybod am fywyd Anne Frank.

    Holwch y plant pam yr oedd Anne Frank a llawer o bobl eraill, yn enwedig Iddewon, yn gorfod ymguddio.

    Os nad yw’r plant heb nodi’r gair ‘erlid’ neu ‘erledigaeth’, cyfeiriwch nhw at y gair hwn a gofynnwch iddyn nhw beth yw ei ystyr.
  2. Yn fyr, trafodwch Hitler a’r hyn yr oedd yn credu ynddo.
  3. Cyflwynwch Ddydd y Cofio: 27 Ionawr 2011.
  4. Dywedwch wrth y plant yr hoffech chi adrodd stori wrthyn nhw a ysgrifennwyd gan fachgen ifanc cyn iddo gael ei ladd mewn Gwersyll Crynhoi:

    Rwyf mor ofnus fel nad wyf yn gwybod beth i’w wneud. Does gen i ddim syniad beth fydd yn digwydd i mi, nac i fy nheulu, ac rwy’n bryderus iawn amdanyn nhw.

    Nid wyf yn gwybod pam rydyn ni yma, neu beth allwn ni fod wedi ei wneud i darfu ar y bobl sydd yng ngofal y gwersyll hwn. Er y funud y daethon ni yma, rydyn ni wedi cael ein trin yn wael iawn, a’r cyfan yr ydw i wedi ei glywed ers cyrraedd yma yw pobl yn gweiddi’n groch mewn iaith nad wyf yn ei deall, neu bobl yn sgrechian a chrio wrth iddyn nhw gael eu gwahanu oddi wrth y rhai y maen nhw’n eu caru. Dydw i ddim wedi gweld fy mam na fy nhad ers dyddiau, ac rydw i’n bryderus iawn am yr hyn all fod wedi digwydd iddyn nhw.

    Rwyf innau wedi cael fy nhrin yn wael iawn, ac wedi cael fy ngorfodi i orwedd ar y bwrdd caled, oer yma, tra bod rhyw ddynion dieithr yn rhoi archwiliad manwl i mi, a chymryd fy maglau a’m caliperau oddi arnaf. (Cefais fy ngeni gyda choesau gwan.) Nid wyf wedi llwyddo i allu symud llawer ers i hynny ddigwydd, ond trwy lusgo fy hun o gwmpas. A phan rydw i’n methu symud wrth iddyn nhw fy ngalw, maen nhw’n rhoi curfa i mi o hyd. Ac maen nhw’n chwerthin ar fy mhen pan fyddaf yn gweiddi am help neu’n gofyn am fy nghaliperau a’m baglau, ac fe fyddan nhw’n fy nharo â ffon drwchus. Ar fy nghroen noeth mae’n brifo’n ofnadwy, ac rwyf wedi fy ngorchuddio â chleisiau a thoriadau. Mae’n syndod fod gen i groen o gwbl ar fy nghorff ar ôl iddyn nhw fy nghuro mor ddidrugaredd! Maen nhw’n fy ngalw’n ‘annymunol’ (beth bynnag maen nhw’n ei olygu wrth ddweud hynny, ond alla i ddim yn credu ei fod yn rhywbeth da!), ac maen nhw’n fy atgoffa yn gyson bod ganddyn nhw ‘gynlluniau’ ar fy nghyfer. Bob tro y byddaf yn holi beth maen nhw’n mynd i wneud, maen nhw’n chwerthin ac yn siarad yn eu hiaith yddfol, hyll, a dweud wrthyf am fod yn ddistaw a meindio fy musnes fy hun.

    Fe wnaethon nhw eillio fy ngwallt i gyd i ffwrdd, ac rwy’n gwisgo dillad sydd ddim yn fy ffitio; a  hefyd rydw i wedi gorfod mynd o gwmpas yn noeth lymun; a chyda phobl eraill yn edrych arna’ i, mae’n anghyfforddus, ac yn fy ngwneud i’n anhapus iawn. Mae’n oer iawn yma yn y gwersylloedd hyn, ac mae pobl wedi mynd sâl. Mae heintiau yn rhemp yma, a phobl wedi bod mor sâl nes eu bod wedi marw.  Mae’r haint teiffws o gwmpas, ac rwyf mor ofnus mai fi fydd y nesaf i ddioddef ohono (hynny yw, os na fyddaf erbyn hynny wedi cael fy nghuro i farwolaeth, neu pa gynlluniau bynnag sydd gan yr Almaenwyr ar fy nghyfer!) Dim ond ychydig iawn rydw i wedi’i fwyta, a’r hyn WNES i fwyta, roedd o’n blasu’n ffiaidd!

    Mae bywyd wedi bod yn galed iawn i bawb ohonom, a phob dydd, mae’r cyfan yn frawychus dros ben, yn enwedig i fachgen bach fel fi. (Dim ond wyth oed ydw i.) Ar adegau fel hyn y byddwn yn hoffi gweld fy mam neu fy nhad unwaith eto, a byddwn yn hoffi bod yn fy nghartref yn Warsaw! Fe hoffwn i pe byddwn i’n dal i fod gartref yn fy ngwely bach neu’n saff ym mreichiau fy mam a hithau’n canu i mi; gallaf ei chofio hi’n dweud ei bod yn fy ngharu i’n fawr, ac mae fi oedd ei hangel! Rwyf hefyd yn cofio breichiau cryfion fy nhad a’i chwerthiniad mawr, hapus; ond yna fe ddaeth y Rhyfel, a newid pob dim; ac yn awr rwyf yn y fan yma, a dydw i ddim yn gwybod beth ydw i wedi ei wneud i haeddu bod yma, yn Oswiecim [Auschwitz, fel y mae’n adnabyddus heddiw!] Bachgen bach ydw i wedi’r cyfan, a wnes i ddim gofyn am gael fy ngeni’n Iddew, ac yn sicr wnes i ddim gofyn am gael fy ngeni ag anabledd! Nawr, mae’n ymddangos i mi mai dyna’r union reswm pam fy mod i yma, yn Oswiecim, yn y gwersyll hwn, ac rwyf mor ofnus!!

    Y cyfan allaf i ei wneud yn awr yw gweddïo ar Dduw i’m cymryd oddi yma i’r Nefoedd, neu i ofyn iddo stopio’r holl ladd sy’n digwydd yma. Dydw i ddim yn credu y gallaf ddioddef fawr mwy o’r holl sgrechiadau a’r crio, a’r holl arogleuon cas sy’n llenwi’r awyr ac yn llenwi fy ffroenau!
  5. Ddiwrnod ar ôl i hwn gael ei ysgrifennu, cafodd Ruben Abraham Ostrowicz ei wenwyno i farwolaeth â nwy. Dim ond wyth oed oedd o, yn ddioddefwr ifanc diniwed o’r Holocost.

    Mewn cyfnod llai na thair blynedd, bu farw dros 1.5 miliwn o bobl yn Auschwitz; ond bu farw cyfanswm o rhwng 6,000,000 a 12,000,000 o bobl yn ystod yr Holocost.
  1. Trafodwch deimladau’r plant am y stori. Gofynnwch iddyn nhw am eu bywydau, a beth fyddai eu hadwaith o gael eu cipio’n sydyn i wersyll fel yr un yn y stori.

    Eglurwch i’r plant nad stori ddychmygol yw hon, ond stori wir.

    Parhewch i bwysleisio nad stori o hen hanes yw hon ychwaith, ond un o gyfnod 70 o flynyddoedd yn ôl.

    Gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n credu y gallai hyn ddigwydd eto.
  1. Archwiliwch y slogan ‘Fel nad anghofiwn’ (‘Lest we forget’). Eglurwch mai ystyr hyn yw y dylen ni gael cofebion, a dyddiau, i gofio am hyn, er mwyn gwneud yn siwr na fyddwn yn anghofio erchyllterau ein hanes diweddar.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll a chwaraewch gerddoriaeth rydyn ni’n ei gysylltu â rhyfel, (fe fyddai cerddoriaeth Barber, Adagio for Strings yn ddarn da i’w ddewis).

Gweddi

Helpa ni i fod yn oddefgar tuag at bawb sydd yn wahanol i ni. Helpa ni i barchu pobl sy’n wahanol o ran eu crefydd, eu tueddfryd rhywiol, neu eu gallu corfforol. Helpa ni i gofio am y plant a’r oedolion a gymerwyd o’u cartrefi a’u hanfon i wersylloedd crynhoi, pobl fel y rhai yn ein stori heddiw. Gwna ni yn ddigon cryf i ofalu nad yw hanes fel hwn yn ail adrodd ei hun.


Emyn

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

‘Imagine’ gan John Lennon (ar gael yn hawdd i’w llwytho i lawr )

Gofynnwch i’r plant feddwl am eiriau’n gân.

 


Gwasanaethau Cynradd >>