Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

RHODDION GWERTHFAWR

gan Rebecca Parkinson

 

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Fersiwn Saesneg

Nod

Myfyrio ar beth sy’n gwneud rhywbeth yn rhodd werthfawr.

Paratoad a deunyddiau 

Gwasanaeth    

  1. Wrth i’r Nadolig nesu, fe fydd llawer ohonom yn cerdded y siopau i brynu anrhegion i aelodau ein teulu a’n ffrindiau. Mae llawer ohonom yn treulio oriau’n meddwl tybed beth i’w brynu, gan obeithio y byddwn ni’n dod o hyd i rywbeth y bydd rhywun neilltuol wrth ei fodd yn ei dderbyn. Yn y flwyddyn 2009, amcangyfrifir bod hyd at £34.6 biliwn wedi ei wario ar siopa Nadolig. Ond beth sy’n gwneud anrheg yn anrheg arbennig iawn?
  2. Mewn arolwg diweddar daethpwyd i gasgliad fod pobl yn meddwl bod anrheg yn arbennig os oedd yr anrheg:
    yn rhywbeth yr oedd y derbynnydd eisiau o ddifrif,
    yn costio llawer o arian,
    wedi cael ei wneud gan yr un oedd yn ei roi (doedd dim sôn am siwmperi erchyll y bydd neiniau yn eu gwau ambell dro!),
    yn rhywbeth yr oedd rhywun wedi meddwl llawer wrth ddewis yr anrheg.

    Beth ydych chi’n ei ystyried sy’n anrheg arbennig? Efallai yr hoffech chi bleidleisio (trwy godi’ch dwylo) wrth ystyried pa un o’r rhesymau uchod y mae’r myfyrwyr yn teimlo sydd bwysicaf wrth ddewis anrhegion.
  3. Fe fydd llawer ohonoch yn gwybod am y cadoediad a fu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr enwog ‘Christmas Truce’. (Os nad yw’r myfyrwyr yn gyfarwydd â’r hanes, eglurwch iddyn nhw am y stopio tanio a ddigwyddodd yn y ffosydd ar Noswyl y Nadolig ac ar Ddydd Nadolig yn y flwyddyn 1914. Eglurwch fod y ddwy ochr wedi cwrdd, a bod rhai o’r milwyr wedi cyfnewid anrhegion bach fel botymau, ac wedi chwarae gem bêl-droed, ac ati.)
  4. Fe hoffwn adrodd stori am un bachgen ifanc oedd yno ar adeg Cadoediad y Nadolig, ac a gafodd anrheg arbennig arall y Nadolig hwnnw.

    Mis Medi 1914 oedd hi pan ffarweliodd bachgen ifanc 18 oed, o’r enw Alfred, â’i rieni ac ymuno â’r rhai oedd yn mynd i ymladd yn ffosydd Ffrainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wrth iddo ymadael rhoddodd ei fam barsel bach iddo. Pan agorodd Alfred y parsel gwelodd mai Beibl bach oedd ynddo. Y tu mewn i glawr y Beibl roedd y geiriau ‘September 5, 1914. Alfred Anderson. A Present from Mother.’

    Pan gyrhaeddodd Alfred Ffrainc roedd yr amgylchiadau yn y ffosydd yn ofnadwy. Bu’n bwrw glaw am fisoedd ac roedd popeth a oedd yn eiddo i’r milwyr wedi’u gorchuddio â mwd. Roedd Alfred yn trysori’r Beibl bach, a cheisiai ei orau i’w gadw’n ddiogel. Roedd y Beibl yn rhoi gobaith iddo mewn rhyw ffordd, ac roedd yn ei atgoffa am ei deulu’n ddiogel gartref. Wrth i’r Nadolig nesu roedd y milwyr yn hiraethu’n fawr am eu cartrefi a’u teuluoedd. Ond ychydig o ddyddiau cyn y Nadolig fe ddaeth parsel bach i bob un o’r dynion. Ym mhob parsel roedd bocs bach metel pres gyda llun y dywysoges Mary arno. Roedd pob bocs yn llawn o sigaréts! Yn y bocs hefyd roedd cerdyn a’r geiriau canlynol arno, ‘With best wishes for a happy Christmas and a victorious New Year, from the Princess Mary and friends at home.’ Doedd Alfred ddim yn ysmygu, felly doedd y sigaréts yn fawr o werth iddo, ond roedd yn falch o weld bod Beibl bach ei fam yn ffitio’n berffaith i’r bocs! Roedd rhai o’r dynion eraill yn falch o’r sigaréts ond ddim yn gweld bod unrhyw ddefnydd i’r bocs. Yn achos Alfred, roedd y bocs yn anrheg Nadolig arbennig iawn! Cadwodd Alfred y bocs a’r Beibl ynddo ym mhoced ei frest trwy gydol yr amser y  bu yn y rhyfel. Oherwydd ei fod yn y bocs metel fe gadwodd y Beibl bach yn lan, hyd yn oed pan glwyfwyd Alfred. Wedi hynny cafodd Alfred ei anfon adref.

    Ymhen amser dychwelodd Alfred i’r Alban, lle bu’n byw hyd 2005. Bu farw yno, ac ef oedd y milwr olaf o’r rhai a oedd yn bresennol yn y ‘Christmas Truce’. Bryd hynny roedd Alfred wedi’i leoli ychydig bellter o’r hyn a ddigwyddai yn y rheng flaen, a’r hyn a gofiai am y cadoediad oedd y distawrwydd llethol trwy’r dydd! Ac yntau wedi clywed dim ond swn gynnau’n tanio a dynion yn gweiddi am help ers misoedd, roedd y tawelwch a brofwyd y diwrnod hwnnw’n glir yn ei gof.
  5. Fe oroesodd Alfred y rhyfel, ac fe dderbyniodd yr anrheg fwyaf gwerthfawr erioed - sef y rhodd o fywyd. Doedd llawer o’r dynion ddim mor ffodus ag Alfred. Ar adeg y Nadolig, waeth beth fydd yr anrhegion a gawn ni, gadewch i ni  gofio bod yn ddiolchgar am y rhodd o fywyd yr ydym wedi ei chael, bob un ohonom.

    Ar adeg y Nadolig, mae Cristnogion yn cofio beth maen nhw’n ei ystyried oedd yr anrheg gorau a roddwyd erioed - Iesu, yr anrheg a roddwyd i’r byd.

 

Amser i feddwl

Mae pob un ohonom wedi cael y rhodd o fywyd. Gadewch i ni oedi am foment i feddwl am y rhai hynny sydd ddim mor ffodus â ni. Mae llawer o bobl, hyd yn oed heddiw, yn byw mewn mannau sydd wedi cael eu rhwygo gan ryfel; mannau sydd wedi cael eu chwalu oherwydd trychinebau; mannau sy’n ymddangos fel llefydd sydd heb fawr o obaith iddyn nhw. Gadewch i ni beidio ag anghofio’r bobl hynny, a bod yn ddiolchgar am yr hyn sydd gennym ni.

Gweddi
Annwyl Dduw, helpa ni i beidio ag anghofio ein bod, ar adeg y Nadolig,
yn dathlu’r rhodd fwyaf a roddwyd erioed i’r byd – y rhodd o fywyd.
Diolch  ti am neges y Nadolig a’r rhodd werthfawr a gafwyd, sef Iesu.

Emyn

Canwch un o hoff garolau myfyrwyr yr ysgol.

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>