Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

ESGYNIAD BAHA’ ULLAH

(29 Mai 2013)


gan Jenny Tuxford


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Nod


Deall credoau sylfaenol y ffydd Baha’i trwy ystyried hanes bywyd a marwolaeth Baha’ Ullah, a meddwl am ein hymddygiad ein hunain tuag at bobl eraill a’n hagwedd tuag atyn nhw.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth 

  1. Gadewch i’r plant wybod eich bod yn mynd i sôn wrthyn nhw heddiw am ddyn enwog o’r enw Baha’ Ullah, a oedd yn negesydd i Dduw - yr un yr oedd y Bab wedi cyhoeddi i’r bobl ei fod yn mynd i ddod atyn nhw. Er nad oedd y ddau wedi cwrdd â’i gilydd erioed, roedd Baha’ Ullah yn un o ddilynwyr y Bab.
  2. Yn 1817, cafodd rhywun o’r enw Mirza Hoseyn ‘Ali Nuri ei eni yng ngwlad Persia. Roedd ei deulu’n bobl gyfoethog, a phan oedd Mirza Hoseyn ‘Ali Nuri yn fachgen ifanc roedd yn byw bywyd fel tywysog. Roedd yn fachgen clyfar iawn ac yn ddoeth. O’r adeg pan oedd yn blentyn roedd yn gwybod mai ei waith fyddai lledaenu neges o heddwch ac undod, neges oedd yn dweud y dylai pawb weithio gyda’i gilydd er mwyn y ddynoliaeth. Roedd hynny’n golygu y byddai’n gorfod ffarwelio â’i holl gyfoeth bydol, ac fe aeth yr awdurdodau a’i holl gyfoeth a’i eiddo oddi arno a’i anfon i fyw i ddinas Baghdad.

    Fe newidiodd Mirza Hoseyn ‘Ali Nuri ei enw i Baha’ Ullah - neu, yn fyr, Baha. Ystyr yr enw Baha’ Ullah yw ‘Gogoniant Duw’. Fe dreuliodd Baha weddill ei oes yn helpu pobl eraill. Oherwydd ei waith elusennol fe enillodd iddo’i hun y llysenw ‘Tad y Tlawd’.

    Ond, a oedd pawb yn hapus i wrando ar ei syniadau? Na, doedden nhw ddim. Roedd hynny am fod yr hyn yr oedd Baha’n ei gredu’n wahanol i syniadau’r Mwslimiaid a oedd yn byw yn Baghdad ar y pryd, Ac ar ben hynny, roedd llawer gormod o bobl wedi dechrau gwrando arno - roedd pobl o sawl tref a dinas arall yn dod i wrando ar ei ddoethineb ac yn cael eu denu at ei sancteiddrwydd - ac roedd rhai pobl mewn awdurdod yn mynd yn genfigennus ohono.

    Am ei ymdrechion i geisio helpu pobl eraill, fe gafodd Baha ei daflu i garchar fwy nag unwaith. Fe gafodd ei arteithio, ac fe fu bron iddo gael ei ddedfrydu i farwolaeth wedi i rywun ddweud celwydd amdano a dweud ei fod wedi ceisio lladd rheolwr gwlad Persia. Roedd hyd yn oed ei frawd ei hun wedi ceisio lladd Baha’ Ullah trwy roi gwenwyn iddo.

    Tra roedd yn gaeth mewn cadwyni mewn carchar ofnadwy a oedd yn cael ei alw ‘ Y Pwll Du’, roedd Baha wedi ei amgylchynu â drwgweithredwyr o bob math, y rhai gwaethaf erioed. Ond, yno, fe gafodd ddwy weledigaeth - negeseuon wedi eu hanfon gan Dduw, fe gredai - yn dweud wrtho mai ef oedd yr ‘Un sydd wedi’i addo’. Yno hefyd yn y carchar dychrynllyd hwnnw, fe ysgrifennodd Baha gant o lyfrau.

    Bu farw Baha’ Ullah yn heddychlon ar 29 Mai 1892, yn 75 oed. Roedd yn dal i fod yn garcharor bryd hynny hefyd, ond roedd wedi cael caniatâd  fyw y tu allan i furiau’r carchar. Cariad a chwerthin oedd dwy o’i ddoniau gwerthfawr.

    Bob blwyddyn, ar 29 Mai, mae pobl sy’n dilyn y ffydd Baha’i yn dathlu esgyniad Baha’ Ullah, yr adeg pan aeth y dyn nodedig hwn i gwrdd â’i Dduw. Cafodd ei gorff ei gladdu yn Bahji, yng ngwlad Israel, mewn cysegrfa sydd wedi ei hamgylchynu â gardd hyfryd iawn.

Amser i feddwl

Treuliwch ychydig o amser yn cofio sut y gwnaeth Baha ddioddef oherwydd yr hyn a gredai ef oedd y ffordd iawn o fyw – mewn heddwch a charedigrwydd. Sut y gallen ni ddilyn ei esiampl, heddiw?

Gweddi

Annwyl Dduw Dad,
helpa bob un ohonom i fod mor garedig a chariadlon ag y gallwn ni, gan fyw ag eraill mewn undod, yn gymuned fyd-eang gref.
Amen.

Gweddi Baha’i

Planhigion dy berllan ydym ni;
Blodau dy weirglodd;
Rhosynnau dy ardd.
Boed i’r glaw ddisgyn arnom ni;
Boed i haul realiti dywynnu arnom ni,
Ti yw’r un sy’n rhoi.

Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>