Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

FFOADURIAID TREFOL 2

Ar goll yn y dyrfa . . .


gan Helen Redfern


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod 

Defnyddio ffotograffau o ffoaduriaid trefol gan y ffotograffydd a wobrwywyd, Andrew McConnell, er mwyn annog y myfyrwyr i ystyried sut mae’n teimlo i fod ar goll mewn tyrfa.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth 

  1. Ar dudalen gartref gwefan Hidden Lives (gwelwch y cyfeiriad uchod) mae sioe sleidiau ddi-dor o ffotograffau Andrew McConnell, y gallech chi eu taflunio ar sgrin yn ystod y cyflwyniad canlynol.

    Arweinydd  Llundain, Birmingham, Efrog Newydd, Nairobi, Bangkok, Kuala Lumpur, Port au Prince …. Dyma rai yn unig o’r dinasoedd mawr ledled y byd y bu’r ffotograffydd llwyddiannus, Andrew McConnell, yn ymweld â nhw wrth weithio ar ei broject o dynnu lluniau ffoaduriaid trefol.

    Roedd y bobl hyn wedi gadael eu teuluoedd, eu swyddi a’u cartrefi. Roedden nhw wedi dianc o’u gwlad am eu bod yn byw mewn ofn. Roedden nhw wedi gadael eu gwlad eu hunain am eu bod wedi cael eu brifo, neu wedi cael eu rhoi mewn carchar, neu wedi cael eu bygwth.

    Roedden nhw wedi ffoi i’r ddinas fawr er mwyn gallu dod o hyd i rywle lle bydden nhw’n gallu bod yn ddiogel. Roedden nhw eisiau dod o hyd i waith a chartref newydd.

    Tybed beth wnaethon nhw ei ddarganfod, o ddifrif, pan wnaethon nhw gyrraedd y ddinas fawr? Tybed sut fath o fywyd oedd ganddyn nhw wedyn?

    Daliwch y sioe sleidiau ar saib tra bydd y rhai sy’n darllen yn cyflwyno’u rhannau. 
  2. Beth amdanoch chi? Sut byddwch chi’n teimlo pan fyddwch chi’n ymweld â dinas fawr? Ym mis Ionawr, fe aeth plant Blwyddyn 6 o ysgol gynradd Lobley Hill yn Gateshead, yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, ar drip ysgol i Lundain. Dyma sut roedd un o’r plant yn teimlo.

    Plentyn  Fy enw i yw Jordan ac rwy’n 11 oed. Fe wnes i fynd i Lundain gyda fy nosbarth ysgol. Fe aethon ni ar y trên. Doedd rhai o fy ffrindiau ddim wedi bod ar drên erioed cyn hynny. Roedd rhai yn ofnus am fod y trên yn mynd y gyflym, ac roedden nhw’n meddwl y byddai’r trên yn crashio. Doedd y rhan fwyaf o blant y dosbarth ddim wedi bod yn Llundain o’r blaen. Roedden nhw’n teimlo braidd yn nerfus. Doeddwn i ddim yn hoffi’r trên tanddaearol. Roedd braidd yn fudr ac roedd yn drewi rhywfaint, ac roedd yno lawer gormod o bobl! Roedd arna i ofn mynd ar goll. Roeddwn i’n gweld Llundain yn lle enfawr ac yn lle prysur iawn, iawn. Roedd llawer iawn o geir a bysiau a thacsis ym mhob man, a doeddwn i ddim yn hoffi croesi’r ffyrdd yno. Er hynny, roedd llawer o bethau diddorol i’w gweld, ac mae Llundain yn lle rhyfeddol. Fe wnes i fwynhau fy hun, ond roeddwn i’n falch o gyrraedd adref yn saff yn y diwedd.

    Ail ddechreuwch y sioe sleidiau.
  3. Arweinydd Gall dinas fawr fod yn lle brawychus. Mae pobl o’ch cwmpas ym mhob man, ond eto fe allwch chi deimlo’n unig iawn yno. Dyna sut mae llawer o’r ffoaduriaid sydd i’w gweld yn y ffotograffau’n teimlo. Dydyn nhw ddim yn adnabod unrhyw un yno, ac maen nhw’n teimlo’n unig. Dydyn nhw ddim yn gallu siarad iaith y bobl sydd o’u cwmpas. Maen nhw’n byw dan amodau cyfyng iawn. Does ganddyn nhw fawr ddim arian, ac maen nhw’n byw mewn ofn yn barhaus.

    Fe dynnodd Andrew McConnell y ffotograffau hyn er mwyn dangos sut mae’r ffoaduriaid trefol yn byw, ac i ddangos pa mor anodd yw bywyd iddyn nhw.

    Mae’r lluniau’n dangos y goleuadau a’r traffig a’r adeiladau mewn dinas fawr. Dyma sy’n dal eich sylw pan fyddwch chi’n edrych gyntaf ar y lluniau, ond mae unigolyn i’w weld ym mhob llun hefyd. Mae’n hawdd peidio â sylwi ar yr unigolyn yn y llun. Mae’n hawdd peidio â sylwi ar unigolion mewn dinas brysur hefyd.

    Tra roedd Andrew McConnell yn siarad gyda’r ffoaduriaid, fe wnaeth ddarganfod i ba raddau yr oedd y bobl hyn yn cael eu hanwybyddu a’u hanghofio yn y dinasoedd. Maen nhw’n aml yn rhy ofnus i fynd allan o’u cuddfannau. Mae’n anodd iawn iddyn nhw ddod o hyd i waith. A’r unig beth maen nhw’n gallu ei wneud yw cuddio eu hunain allan o olwg pobl.
  4. Stopiwch y sioe sleidiau unwaith eto a dangoswch y llun o Datt Cung.

    Dyna i chi ddelwedd ryfeddol! Dyma olygfa ardderchog o ddinas Kuala Lumpur yng ngwlad Malaysia, yn y nos. Allwch chi weld y ddau dwr enwog - y Petronas Towers - yn y cefndir wedi eu goleuo i bawb eu gweld.

    Allwch chi weld dyn yn sefyll ar ben ei hun? Dydi o ddim yn hawdd ei weld.

    Mae stori y tu ôl i’r ffotograff hwn. Pan geisiodd y ffotograffydd gael llun da ar lefel y stryd, roedd goleuadau llachar y ddinas yn ei gwneud hi’n anodd iddo. Fe chwiliodd yma ac acw am le addas i dynnu’r llun, ac yn y diwedd fe ddewisodd fynd i ben to’r adeilad i wneud hynny, lle doedd dim gormod o oleuadau stryd yn agos iawn ato. Fe lwyddodd McConnell i dynnu’r llun rhyfeddol yma, a thrwy hynny gyfleu’n berffaith y synnwyr o ba mor llethol yw’r ddinas fawr yng ngolwg y ffoadur.

    Mae stori arall y tu ôl i’r ffotograff hwn hefyd, sef y llun o Datt Cung. Dyn o wlad Burma yw Datt Cung, ond sydd erbyn hyn wedi dianc i fyw yn Kuala Lumpur. Un diwrnod, pan oedd yn byw yn ei gartref iawn, fe’i harestiwyd am helpu dau o bobl o’i bentref genedigol gyda’u bagiau siopa. Mae’n debyg bod y ddau yn aelodau o Ffrynt Genedlaethol Chin. Cafodd Datt Cung ei holi a’i boenydio am ddau fis. Cafodd ei guro a’i arteithio. Ac yna fe gafodd ei orfodi i fyw mewn gwersyll llafur am dros wyth mlynedd. Pan gafodd ei ryddhau roedd arno gymaint o ofn cael ei arestio unwaith eto, felly fe ddihangodd i wlad Malaysia.

    Mae bywyd ym Malaysia yn parhau i fod yn anodd i Datt gan nad yw’n gallu siarad iaith pobl y wlad honno. Mae arno ofn mynd allan. Mae arno eisiau mynd adref i’w wlad ei hun.

Amser i feddwl

Arweinydd  Gall symud i ddinas newydd fod yn beth digon brawychus. Gall dechrau mewn ysgol newydd fod yn beth digon brawychus. Gall ymuno â dosbarth dawns neu dim pêl-droed fod yn beth digon brawychus hefyd. Mae pawb yn teimlo ychydig yn ofnus, ac ychydig ar goll, ar ryw bwynt yn eu bywyd.

Gadewch i ni feddwl am yr hyn rydyn ni wedi bod yn sôn amdano heddiw. Fe allech chi wneud geiriau ein gweddi’n eiriau i chi eich hun os hoffech chi.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Mewn dinas, mae pob wyneb yn unigolyn.
Mewn tyrfa, mae gan bob unigolyn ei stori.
Rydyn ni’n byw gyda ffoaduriaid o’n cwmpas ni yn ein dinasoedd, ond dydyn ni ddim yn sylwi arnyn nhw.
Gad i ni gofio bod pobl fel Datt Cung yn byw yn ein dinasoedd.
Gad i ni drin pob unigolyn â pharch.

Mewn ysgol, mae gan bob plentyn enw.
Mewn dosbarth, mae gan bob unigolyn stori.
Mae unigolion o’n cwmpas ni bob amser yn ein bywyd prysur o ddydd i ddydd, ond dydyn ni ddim yn sylwi arnyn nhw.
Gad i ni gofio bod gan ein ffrindiau anghenion.
Gad i ni drin pawb â charedigrwydd.

Efallai mai chi yw’r unigolyn hwnnw ar y foment hon.
Efallai eich bod chi’n teimlo ar goll ac yn drist.
Boed i chi gofio bod cael rhywun i siarad ag ef neu hi yn gallu eich helpu chi.
Boed i bobl eraill eich trin chi â gofal.

Emyn

 

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>