Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

ALLA I YMDDIRIED YNOCH CHI?

Sul y Tadau (16 Mehefin 2013)


gan Laurence Chilcott


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Deall sut rydyn ni’n dysgu ymddiried yn y bobl rydyn ni’n eu hadnabod, y rhai rydyn ni wedi profi drosom ein hunain eu cariad a’u gofal tuag atom ni.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth 

  1. Heddiw, mae ein stori’n ymwneud â hanes botanegwr o’r enw Mr Carter-Brown. Botanegwr oedd Mr Carter-Brown. Botanegwr yw gwyddonydd sy’n astudio planhigion. Yn y stori, mae dau beth o’i le - dau beth NA DDYLAI ddigwydd. Tybed allwch chi ddarganfod beth yw’r ddau beth? Gawn ni weld ar y diwedd.
  2. Roedd Mr Carter-Brown yn ddyn penderfynol iawn. Oherwydd ei fod yn fotanegwr, roedd yn awyddus iawn i gasglu enghreifftiau o’r planhigion prin oedd yn tyfu ym Mhrydain. Fe fyddai’n astudio llyfrau a chylchgronau er mwyn cael gwybod ble roedd yn bosib dod o hyd i’r planhigion prin. Doedd dod o hyd iddyn nhw ddim yn hawdd - weithiau fe fyddai’r planhigion yn tyfu mewn llefydd pell ar y mynyddoedd, llefydd anodd mynd atyn nhw. Ac wedyn roedd hi’n anodd iawn dod o hyd iddyn nhw am fod cyn lleied ohonyn nhw’n tyfu.

    Ar y diwrnod neilltuol hwn, roedd Mr Carter-Brown yn chwilio am blanhigyn o’r enw Heboglys Eryri, (Snowdonia hawkweed yn Saesneg, a’r enw Lladin arno yw Hieracium snowdoniense). Dim ond yn ardal Eryri yng ngogledd Cymru mae’r planhigyn hwn yn tyfu - dim yn unman arall yn y byd. Mae mynyddoedd Eryri’n ardal sy’n rhai cannoedd o filltiroedd sgwâr. Felly, roedd Mr Carter-Brown yn gwybod na fyddai dod o hyd i’r planhigyn yn dasg hawdd. Fe wyddai hefyd mai dim ond mewn ambell fan ar y mynydd yr oedd i’w gael, ac nad oedd neb wedi cofnodi eu bod wedi gweld y planhigyn yn tyfu ers llawer o flynyddoedd. Fe benderfynodd y byddai ef yn chwilio am y planhigyn, ac yn dal ati nes byddai wedi dod o hyd iddo - waeth faint o amser y byddai hynny’n ei gymryd.

    Y diwrnod hwnnw, roedd Mr Carter-Brown wedi treulio’r diwrnod cyfan yn crwydro ar hyd y mynyddoedd, ac roedd ar fin rhoi’r gorau i chwilio am y tro pan edrychodd i fyny a gweld planhigyn - tebyg iawn i’r planhigyn roedd yn chwilio amdano - yn tyfu’n uchel ar silff yn y graig. Doedd dim modd iddo ddringo at y silff am fod y graig yn hollol fertigol, ac nid oedd yn ddringwr. Meddyliodd, pe bai’n cerdded yn uwch i fyny’r mynydd y byddai’n gallu dod i lawr at y silff o’r ochr arall, ac edrych i lawr ar y planhigyn, er mwyn cael ei astudio’n fanylach.

    Mewn tua deg munud roedd yn edrych dros ymyl y graig ac yn gyffro i gyd am ei fod yn siwr ei fod wedi dod o hyd i’r planhigyn, Heboglys Eryri. Gyda thrywel yn ei law, sydd fel rhaw fach bwrpasol, fe ymestynnodd Mr Carter-Brown i lawr o ben y graig i geisio codi’r planhigyn, y gwraidd a’r cwbl, er mwyn cael mynd â’r sbesimen adref gydag ef yn fuddugoliaethus. Ond yn anffodus, nid oedd yn gallu cyrraedd. Yn ofalus iawn, fe orweddodd ar ei fol ar ben y graig a gwthio’i hun ymlaen nes bod ei frest dros yr ymyl. Fe fu yno’n tuchan ac yn ymestyn, ond roedd yn dal i fod yn methu cyrraedd, o ychydig bach. Ceisiodd ymwthio ymhellach, ond roedd yn dechrau teimlo’n benysgafn, ac felly, yr un mor ofalus, fe wthiodd ei draed i’r ddaear er mwyn gallu tynnu ei hun yn ôl oddi wrth ymyl y graig.

    Gyda’i wyneb yn goch, wedi colli ei wynt, ac yn crynu rhywfaint ar ôl bod yn ymdrechu cymaint, fe sylwodd Mr Carter-Brown fod bachgen bach yn sefyll draw ychydig oddi wrtho yn edrych arno. Fel pob bachgen bach o’i oed, roedd y bachgen hwn yn chwilfrydig ac eisiau gwybod beth oedd Mr Carter-Brown yn ei wneud.

    ‘Beth ydych chi’n ei wneud?’, gofynnodd y bachgen iddo.

    Doedd ar Mr Carter-Brown fawr o awydd siarad gyda’r bachgen chwilfrydig. Roedd wedi blino, ac fe gymrodd arno nad oedd wedi ei glywed.

    ‘‘Beth ydych chi’n ei wneud?’, gofynnodd y bachgen iddo eto - ychydig yn uwch y tro hwn.
    ‘O, dim byd o bwys, dim byd i ti boeni amdano beth bynnag’, meddai Mr Carter-Brown, gan obeithio y byddai’r bachgen yn mynd ac yn gadael llonydd iddo.
    ‘Pam?’ meddai’r bachgen wedyn. Dyna beth fyddai’r bachgen yn ei ddweud bob tro pan fyddai rhywun wedi dweud wrtho am beidio â busnesu.

    Cyn iddo ddweud wrth y bachgen am fynd, cafodd Mr Carter-Brown syniad.

    ‘Hoffet ti ennill pum punt?, gofynnodd i’r bachgen.
    ‘Pum punt? Am be?, gofynnodd y bachgen yn ddrwgdybus.

Eglurodd Mr Carter-Brown i’r bachgen beth oedd yn ei wneud, ac fel roedd wedi gweld y planhigyn roedd wedi bod yn chwilio amdano, ond nad oedd yn gallu mynd ato.  Roedd fymryn bach yn rhy bell o’i gyrraedd. Fe awgrymodd y byddai’n gallu gafael yn y bachgen gerfydd ei goesau rhag iddo syrthio, a bod y bachgen yn ymestyn at y blodyn yn ei le i’w gael iddo. Roedd y bachgen yn fach ac yn ysgafn, ac roedd Mr Carter-Brown yn ddyn cryf, felly fe wnaeth sicrhau’r bachgen y byddai’n hollol saff ac na fyddai problem. Fe estynnodd y papur pum punt o’i waled a’i ddangos i’r bachgen. Fe gymrodd y bachgen yr arian, ond mewn eiliad fe redodd i ffwrdd gan adael Mr Carter-Brown yn sefyll yno’n edrych yn syn ac yn teimlo’n ddig iawn, iawn.

Ar ôl dod dros ei syndod, gadawyd Mr Carter-Brown yn sibrwd wrtho’i hun na ddylai byth eto drystio bechgyn fel y bachgen hwnnw. Ond roedd yn benderfynol o roi cynnig arni eto ei hun i gael gafael ar y blodyn prin. Aeth ar ei fol unwaith eto gan ymestyn gymaint ag a allai - efallai ei fod yn meddwl bod ei freichiau, trwy ryw ryfedd wyrth wedi tyfu yn y deg munud blaenorol - ond wrth gwrs, doedd dim wedi newid. Roedd yn dal i fod ychydig yn rhy bell oddi wrth y blodyn. Roedd ar fin codi ar ei draed i gychwyn cerdded oddi yno pan ddaeth y bachgen i’r golwg unwaith eto . . . A’r tro yma doedd o ddim ar ben ei hun.
‘Dyma fy nhad i, meddai wrth Mr Carter-Brown. ‘Fe alla i'w drystio fo.’

A heb golli dim amser, fe ollyngwyd y bachgen dros ymyl y graig gan ei dad, ac fe lwyddodd i ddadwreiddio’r planhigyn ac mewn dim o dro roedd y bachgen yn cyflwyno’r planhigyn, Heboglys Eryri, i Mr Carter-Brown a oedd yn ddiolchgar iawn iddo.
‘Wel, dyna fachgen ardderchog sydd gennych chi’, meddai wrth y tad (wedi llwyr anghofio beth roedd wedi ei ddweud o dan ei wynt am fechgyn ychydig funudau ynghynt!)

  1. Rwy’n siwr eich bod wedi sylwi ar y ddau beth yn y stori NA DDYLAI fod wedi digwydd. Yn gyntaf, fe fyddai Mr Carter-Brown wedi cael ei erlyn a’i gosbi y dyddiau hyn am gasglu neu ddiwreiddio blodau gwyllt, yn enwedig rhai prin. Gwaetha’r modd, fe fyddai pobl yn gwneud hyn ers talwm, ond mae’n drosedd erbyn hyn. Heddiw, mae blodau sy’n eithaf cyffredin hyd yn oed, fel clychau’r gog a briallu gwyllt yn rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod yn y gwyllt. Yr ail beth yn y stori na ddylai fod wedi digwydd yw y dylai’r bachgen fod yn fwy gofalus wrth siarad â rhywun dieithr, yn enwedig rhywun oedd yn cynnig arian iddo. Er yn y stori hon, doedd tad y bachgen ddim ymhell oddi wrtho, roedd yn beth annoeth iawn gadael ei fab allan o’i olwg ar ochr y mynydd.
  1. Wrth gwrs, y  pwynt pwysig yn y stori yw bod y bachgen wedi dweud y byddai’n gallu trystio ei dad. 
  2. Mae ymddiriedaeth, neu drystio rhywun, yn briodwedd bwysig, ac mae’n bwysig ein bod ni’n gwybod pwy y galwn ni ei drystio. Allwn ni ddim trystio gair rhywun dieithr neu fwli, neu rywun sydd wedi ein somi ni o’r blaen. Allwn ni ddim trystio rhywun sy’n dweud celwyddau, neu rywun rydyn ni’n gwybod ei fod yn anonest. Fe ddylen ni allu trystio ein rhieni, ein ffrindiau a’n hathrawon, yn ogystal â phobl yn ein cymuned sydd yno i’n helpu ni.
  3. Mae ymddiriedaeth y gweithio'r ddwy ffordd. Ydych chi’n rhywun y mae’n bosib ei drystio? Fydd pobl yn gallu ymddiried ynoch chi? Mae ymddiriedaeth yn briodwedd sy’n werth ei datblygu fel y bydd pawb yn gwybod eich bod yn rhywun y gallan nhw ddibynnu arnoch chi.

Amser i feddwl

Fe allech chi fanteisio ar y cyfle yma i atgyfnerthu’r ymwybyddiaeth o fod yn ofalus gyda dieithriaid - rhybuddio am ‘stranger danger’. Hefyd, fe allech chi archwilio’r berthynas rhwng ymddiriedaeth a ffydd ar wahanol lefelau. Ac fe fyddai trafodaeth am gadwraeth mewn perthynas â pharciau cenedlaethol a choedwigoedd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gwarchod bywyd gwyllt ac ati yn dilyn yn naturiol ar ôl gwrando ar y stori.

Gweddi

Annwyl Dduw Dad,
rydyn ni’n diolch i ti am harddwch ein byd – y blodau a’r coed, y mynyddoedd a’r moroedd; yr adar a’r anifeiliaid; pobl a llefydd, hefyd.
Maddau i ni os byddwn ni’n cymryd y pethau hyn yn ganiataol ac yn methu eu gwerthfawrogi fel y dylem.
Gad i ni wneud ein rhan i ofalu am ein byd wrth i ni fyw ein bywyd.

Emyn

‘He’s got the whole world, in His hand’ (Come and Praise, 19)


Gwasanaethau Cynradd >>