Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

BETH YW CARIAD?

Gwasanaeth Dydd Sant Ffolant

gan Stuart Kerner


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Ystyried y rhesymeg sydd y tu ôl i draddodiadau Dydd Gwyl Sant Ffolant, a beth yw natur cariad Cristnogol

Paratoad a deunyddiau  

 

Gwasanaeth        

  1. Oes gennych chi syniad beth yw ystyr yr ymadroddion canlynol?

    Ana Behibak                  (Arabeg) (wrth fachgen)
    Ami tomAy bhAlobAshi 
    (Bengaleg)
    Ik hou van jou               (Isalmaeneg)
    Je t’aime                        (Ffrangeg)
    Ich liebe Dich               
    (Almaeneg)
    Ti amo                            (Eidaleg)
    Nakupenda                    (Swahili)
    Seni seviyorum              (Twrceg)
    I love you                       (Saesneg)
    Rwy’n dy garu di           (Cymraeg)

    Ie, roeddwn i’n dweud ‘Rwy’n dy garu di’ mewn gwahanol ieithoedd. Er ei fod yn un o’r ymadroddion mwyaf cyffredin, mae’n amlwg bod modd cyfleu hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd, ac mewn nifer o wahanol fannau.
  2. 14 Chwefror, gwyl Sant Ffolant, yw’r amser pan fydd cariad yn cael ei ddathlu’n rhamantus, ac mae’n achlysur pan fyddwn ni’n dangos ein cariad a’n serch at ein gilydd drwy anfon cardiau, blodau a negeseuon arbennig at bobl rydym yn eu hoffi. Rwy’n gobeithio na chawsoch chi eich siomi ar Ddydd Sant Ffolant.

    Tybed pwy gafodd y nifer mwyaf o gardiau?
    Tybed pwy gafodd y tegan meddal mwyaf?
    Tybed a oes unrhyw rosod cochion ar ôl yn y siopau?

    Yn America, rhoddir y clod i wraig o’r enw Miss Esther Howland am anfon y cerdyn Sant Ffolant cyntaf.  Cyflwynwyd cardiau sant ffolant masnachol yn yr 1800au, a nawr, fel y Nadolig, mae’r achlysur yn un masnachol iawn.

    Mae pawb ohonom yn gobeithio cael cerdyn gan edmygydd cudd, ac mae’r papurau newydd yn llawn negeseuon i gariadon.   

    (Darllenwch ddetholiad o enghreifftiau hwyliog, a rhai mwy difrifol, fel y rhai sy’n dilyn.)

    ‘Mae fy nghalon yn wag hebot ti,
    fel aderyn heb ei gân.’

    ‘Mae dy wallt mor frown â’r siocled melysaf.
    Mae dy lygaid mor hardd â darn cain o gelf.
    Mae dy gyffyrddiad lleiaf yn gwneud i mi anghofio am fy mhryderon.
    Dyna pam mai’r unig un i mi wyt ti.’

    ‘Dy wên sydd fel y wawr, dy gusan fel y machlud.
    Diolch am fod y ffrind a’r cymar mwyaf rhyfeddol.’

    ‘Petai 36 awr yn y diwrnod, fe dreuliwn 12 awr yn casglu blodau i ti,
    Petai gennym ni 48 awr, fe fyddai bywyd yn siwr o fod yn wych,
    A phetai gennym ni 72 awr y dydd?
    Fe fyddwn i’n dringo i gopa mynydd i ddweud wrth y byd fy mod i’n dy garu di,
    Ond … dim ond 24 awr sydd gennym ni,
    Sy’n golygu y bydd yn rhaid i mi gadw’r neges yn fyr,
    A threulio pob awr werthfawr gyda thi,
    Heddiw ac am byth.’ 

    ‘FY NGHYW BACH I
    DYDD SANT FFOLANT HAPUS, GAN ANFON LLAWER O GUSANAU A PHINSIADAU BACH SLEI AR DY BEN ÔL,
    FE FYDD LLE I TI YN FY NGHALON BOB AMSER. XXXXXX’

    Gobeithio y gwnaiff hwn stopio dy swnian … Na, o ddifrif, rwyt ti’n werth y byd, cariad!’
  3. Roedd fersiwn gynnar o Ddydd Sant Ffolant yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn y Rhufain hynafol, roedd 14 Chwefror yn wyl er anrhydedd i Juno. Juno oedd brenhines duwiau a duwiesau’r Rhufeiniaid. Roedd y diwrnod canlynol, 15 Chwefror, yn nodi dechrau Gwyl Lupercalia.
  4. Fe hoffwn i, nawr, gynnal arbrawf cymdeithasol. (Codwch y tomato.)  Yn gyntaf, rwyf eisiau i fachgen ddal y tomato hwn.  (Rhowch y tomato i fyfyriwr sy’n gwirfoddoli i’ch helpu, a gofyn iddo sefyll wrth eich ymyl gyda’r tomato yn ei law.) 

    Yn nesaf, rwyf eisiau i bedair merch ysgrifennu eu henwau ar y darnau hyn o bapur. (Rhowch y papurau a’r pensiliau i’r merched.  Tra byddan nhw’n ysgrifennu eu henwau, rhowch y cyfarwyddyd nesaf.) 

    Fe hoffwn i fachgen arall ddal yr ail domato. (Rhowch yr ail domato i’r myfyriwr, a gofyn iddo yntau sefyll wrth eich ymyl gyda’r tomato yn ei law.)

    Cyn i’r merched ddychwelyd i’w lleoedd, rwyf eisiau i chi wneud un peth arall (cyfeiriwch at y ddau fachgen gyda’r ddau domato).  Fe hoffwn i chi roi’r tomato i un o’r pedair merch yma.  Fe gewch chi ddewis yr un ferch, neu fe allech chi ddewis dwy ferch wahanol.

    Pan fyddwch chi wedi gwneud hynny, fe gaiff y chwech ohonoch chi ddychwelyd i’ch llefydd. (Rhowch ddigon o amser iddyn nhw wneud hyn.)

    Da iawn.  Dyna ran gyntaf yr arbrawf wedi ei chwblhau.  Gadewch i ni symud nawr at ail ran yr arbrawf.

    Rydyn ni angen pedwar gwirfoddolwr arall, pedwar bachgen.  (Tra bydd pedwar gwirfoddolwr newydd yn dod i’r tu blaen, plygwch y darnau o bapur yr ysgrifennwyd enwau’r merched arnyn nhw, a’u rhoi nhw’n ofalus yn y cynhwysydd.)

    Fe hoffwn i bob un ohonoch chi’ch pedwar gymryd un darn o bapur o’r cynhwysydd, agorwch y papur, a darllenwch yr enw sydd wedi ei ysgrifennu arno. (Tra bod yr enwau’n cael eu darllen, cydnabyddwch y merched unigol, sydd nawr yn eistedd yn y gynulleidfa. Gofynnwch i’r rhai a gafodd y tomatos eu dal i fyny.  Cadwch y pedwar bachgen yn y blaen.)
  5. Rydyn ni newydd ail-greu rhan o wyl Lupercalia y Rhufeiniaid.  Fe wnes i hepgor yn fwriadol y rhannau lle’r oedd y Rhufeiniaid yn aberthu ci a gafr, a hefyd y rhannau pan oedd dynion ifanc, sengl yn slapio merched ifanc sengl gyda stribedi o groen gafr!

    Diben yr wyl oedd paru dynion a merched ifanc sengl ar gyfer y flwyddyn ganlynol.  Y ferch yr oedd y bachgen yn tynnu ei henw o’r cynhwysydd oedd ei gariad ar gyfer cyfnod yr wyl, ac am hyd at flwyddyn wedi hynny … a dim dadlau!  Mae hynny’n golygu y byddai (enwch un o’r bechgyn a wirfoddolodd) yn bartner i (enw merch) am y flwyddyn, ac yn y blaen.

    Adeg yr Ymerodraeth Rufeinig, roedd bechgyn a merched ifanc fel arfer yn cael eu cadw ar wahân trwy reolau llym pan oedden nhw’n tyfu, ond roedd y paru hwn drwy dynnu enwau o gynhwysydd yn draddodiad ar gyfer pobl ifanc pan oedden nhw’n hyn.  Ar noswyl Lupercalia, roedd enwau merched Rhufeinig yn cael eu hysgrifennu ar ddarnau o bapur a’u rhoi mewn jariau.  Fe fyddai pob dyn ifanc yn tynnu enw merch o’r jar, ac fe fydden nhw wedyn yn bartneriaid ar gyfer yr holl wyl ac weithiau am gyfnod hirach, hyd at flwyddyn gyfan.  Yn aml, fe fydden nhw’n ffoli ar ei gilydd ac yn ddiweddarach yn priodi.

    At y ddefod hon, fe wnes i ychwanegu traddodiad Dydd Sant Ffolant o’r Canol Oesoedd.  Doedd y tomato ddim yn cael ei fwyta. Addurn yn unig oedd hwn, ac roedd yn cael ei alw’n afal cariad.  Fe roddai bachgen ifanc afal cariad i’w gariad ar Ddydd Sant Ffolant, ac fe fyddai hithau yn ei gadw, a’i drysori, nes y byddai’r ffrwyth wedi mynd yn hen ac wedi crebachu.
  6. I’r rhan fwyaf ohonom, tipyn o hwyl yw Dydd Gwyl Sant Ffolant.  Mewn ffordd, mae’n brofiad dysgu arall: dysgu sut i ymwneud â’n gilydd fel rhywbeth mwy na dim ond bod yn ffrindiau.

    Ond beth yw cariad?  Mae’r un gair hwn, cariad, yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio amrywiaeth eang o berthnasoedd gwahanol:
    –  cariad rhwng mam a’i phlentyn
    –  cariad rhwng ffrindiau
    –  cariad aberthol
    –  cariad tuag at eich gwlad
    –  cariad dros eich tîm  
    –  cariad at anifail anwes
    –  cariad rhwng mab a merch, neu wr a gwraig..

    Cariad yw’r glud sy’n helpu i gadw perthynas gyda’i gilydd.

Ysgrifennodd Sant Paul ddisgrifiad o’r hyn yr oedd cariad yn ei olygu iddo ef fel aelod Cristnogol o’r un gymdeithas Roegaidd-rufeinig y deilliodd defod ein gwyl ohoni.  Mae’r disgrifiad i’w gael mewn llythyr a ysgrifennodd at bobl yn ninas Corinth ar arfordir gwlad Groeg. (Mae’n rhan o’r Testament Newydd yn y Beibl, pennod 13 o Lythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid, os hoffech chi edrych ar yr adnodau ryw dro eto.)

Y dyddiau hyn, mae’r darn yn cael ei ddefnyddio’n aml fel darn i’w ddarllen mewn priodasau, gan ei fod yn cynnwys llawer o synnwyr da ar gyfer rhai sy’n priodi, ond mae ei ddoethineb yn gymwys i bob perthynas.  Mae’r geiriau wedi cael eu crynhoi a’u haddasu ychydig yma, fel ein bod ni’n gallu clywed y cydbwysedd o’r hyn yw cariad, a’r hyn nad ydyw.

‘Y mae cariad yn hirymarhous; y mae cariad yn gymwynasgar;

nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo.

Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun,

nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam;

nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd.

Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.

Nid yw cariad yn darfod byth.

Mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A’r mwyaf o’r rhain yw cariad.’

 

Amser i feddwl

Annwyl Dduw,

Mae hoffi rhywun yn beth sy’n dod yn naturiol.

Mae eu caru nhw’n ymddangos fymryn yn anoddach.

Mae caru yn golygu bod yn ystyriol ohonyn nhw, a’r hyn maen nhw ei eisiau, lawn gymaint â’r hyn rydym ni ei eisiau ein hunain.

Mae caru yn golygu gadael iddyn nhw fod yn nhw eu hunain, a’u derbyn nhw am bwy ydyn nhw.

Mae caru yn golygu dysgu sut i gywiro camgymeriadau.

Gweddi

Rydym yn ddysgwyr, Arglwydd,

yn dysgu byw ac yn dysgu caru.

Helpa ni wrth i ni ymddiried yn ein gilydd, a dysgu sut i garu.

Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>