Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

PEIDIWCH Â BARNU LLYFR ODDI WRTH EI GLAWR

gan Kimberley Jones  


Addas ar gyfer Ysgolion Arbennig

Nod

Annog y myfyrwyr i beidio â barnu pobl ar yr olwg gyntaf.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth       

  1. Pwy ohonoch chi yma sy’n hoffi creision? 
  2. Dyma rai ffeithiau diddorol ac anarferol am greision.

    -  Yn ôl y sôn, un diwrnod yn 1853, fe wylltiodd cogydd o’r enw George Crum, pan anfonodd cwsmer ei sglodion tatws yn ôl i’r gegin gan gwyno eu bod wedi eu torri’n rhy dew. Roedd Crum yn ddyn sarcastig iawn, ac fe ymatebodd i’r sefyllfa drwy dafellu’r tatws mor denau ag y gallai a’u ffrio wedyn mewn saim poeth a gweini’r sglodion tenau brown brau rheini ar blât y cwsmer. Roedden nhw’n llwyddiant ysgubol!

    -  Mae cwmni Walkers yn cynhyrchu dros 11 miliwn bag o greision bob dydd, a phob dydd mae dros 10 miliwn o bobl yn eu bwyta.

    -  Mae cwmni Walkers yn werth tua £436 miliwn. Yn Chwefror 2012, fe brynwyd Pringles gan gwmni Kellogg’s am $2.7 biliwn.

    -  Caiff holl greision Walkers eu gwneud o datws Prydeinig, 100 y cant. Mae hynny’n beth da oherwydd ei bod yn bwrw glaw am o leiaf 154 diwrnod bob blwyddyn ym Mhrydain (ar gyfartaledd) - tywydd delfrydol ar gyfer tyfu tatws!

    -  Roedd y fwyaf o’r holl greision a gynhyrchwyd erioed yn mesur 25 modfedd wrth 14 modfedd, ac yn pwyso 5.4 owns. Mae hyn yn gyfwerth a phaced cyfan o Pringles wedi eu gludio ochr yn ochr gyda’i gilydd.

    -  Cafodd y casgliad mwyaf yn y byd o bacedi creision eu harddangos yn y flwyddyn 2008 yn Amgueddfa Hamaland yng ngogledd orllewin yr Almaen. Roedd yno 2,000 o bacedi creision.

    -  Daw’r enw ‘Pringles’ o America. Pan oedd y cynhyrchwyr yn ceisio meddwl am enw i’r cwmni, fe wnaethon nhw edrych trwy lyfr ffôn Americanaidd a gweld yr enw Pringle Avenue, a phenderfynu bod yr enw hwnnw’n swnio’n dda.
  3. Ar hyn o bryd, mae gan Walkers 15 blas gwahanol yn eu pacedi creision arferol. Yn y gorffennol, mae’r cwmni wedi rhoi cynnig ar greu 45 mwy o wahanol flasau, yn cynnwys Irish Stew, Scotch Haggis, Stephen Fry Up (sef y ‘full English breakfast’). 

    Beth yn eich barn chi yw’r blas gorau ar gorau ar greision? 
  4. Her blasu

    Gofynnwch am wirfoddolwr sy’n arbenigwr ar flas creision. Rhowch fwgwd am lygaid y gwirfoddolwr a gofyn iddo ef neu hi ddyfalu pa flas yw’r tri math gwahanol o greision sydd gennych chi (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’). Fe fydd eich cynulleidfa’n gallu gweld y pacedi ac yn credu eich bod yn rhoi i’r gwirfoddolwr y creision sy’n cael eu disgrifio ar y paced. Fe fydd y myfyriwr sy’n blasu’r creision yn rhoi atebion gwahanol (gobeithio).

    Trafodwch ganlyniadau’r prawf blasu. Pwy ydych chi’n ymddiried ynddo: y myfyriwr neu’r pacedi creision?

    Mae’n rhaid i ni flasu’r creision ein hunain i wybod yn iawn beth sydd yn y pacedi. Fe all y wybodaeth ar y tu allan fod yn gamarweiniol.
  5. Yn yr un modd, gyda phobl, fe all yr olwg allanol fod yn gamarweiniol. Mae pob math o bobl i’w cael yn y byd - pobl dal a rhai byr, rhai tew a rhai tenau, pobl sydd â chroen gwyn, eraill yn ddu. Mae pobl yn gwisgo’n wahanol hefyd, yn bwyta bwydydd gwahanol, ac mae pobl yn siarad mewn gwahanol ieithoedd.

    Ambell dro, fe fyddwn ni’n barnu pobl yn ôl y ffordd maen nhw’n gwisgo. Edrychwch ar y llun yma, er enghraifft. Beth sy’n mynd trwy eich meddwl wrth i chi edrych ar y llun? (Yn eu tro, dangoswch dri neu bedwar o luniau pobl o wahanol grwpiau, er enghraifft, Goth, Rockers, ac ati.)

    Pan fyddwn ni’n cwrdd â phobl sy’n wahanol i ni, mae’n werth dod i’w hadnabod, a dod i wybod sut bobl ydyn nhw mewn gwirionedd, yn hytrach na neidio i gasgliad ar unwaith.

    Mae hyn yn cael ei fynegi mewn hen ddihareb Americanaidd: ‘Never judge a book by its cover’. Rhaid i ni beidio â barnu llyfr oddi wrth ei glawr.
  6. Peidiwch â barnu llyfr oddi wrth ei glawr

    Mae stori am ddyn a dynes, a oedd â golwg blêr iawn arnyn nhw yn dod oddi ar y trên yn Boston yn America. Fe gerddodd y ddau i Brifysgol Harvard. Fe aethon nhw ar eu hunion i Swyddfa’r Prifathro yno er nad oedd ganddyn nhw apwyntiad wedi ei drefnu i weld unrhyw un. 

    Edrychodd yr ysgrifenyddes ar y ddau gan sylwi pa mor flêr roedden nhw wedi gwisgo. Roedd hi’n gwybod nad oedd lle i bobl gyffredin dlawd o gefn gwlad fel hyn ym Mhrifysgol  Harvard, a theimlai eu bod allan o le yma yn Cambridge, Massachusetts.

    ‘Fe hoffen ni weld y Prifathro,’ meddai’r dyn yn bwyllog a thawel wrth yr ysgrifenyddes.

    ‘Mae’r Prifathro’n brysur trwy’r dydd,’ atebodd hithau’n gyflym a diamynedd.

    ‘Fe arhoswn ni,’ meddai’r ddynes.

    Am oriau, fe geisiodd yr ysgrifenyddes eu hanwybyddu, gan obeithio y byddai’r cwpl yn blino aros ac yn mynd oddi yno. Ond wnaethon nhw ddim. Teimlai’r ysgrifenyddes yn fwyfwy rhwystredig ac yn y diwedd fe benderfynodd y byddai’n cysylltu â’r Prifathro’r Coleg.

    ‘Pe byddech chi ddim ond yn gallu eu gweld am ychydig funudau’n unig, efallai y bydden nhw’n fodlon wedyn ac yn mynd oddi yma,’ plediodd yr ysgrifenyddes ar y Prifathro.

    Roedd y Prifathro’n ddig bod ei ysgrifenyddes wedi torri ar draws ei drefniadau. Ond, am ei fod yntau hefyd yn awyddus i gael gwared â’r dyn a’r ddynes, fe gytunodd i’w gweld am ychydig funudau. Doedd gan rywun mor bwysig ag ef ddim amser i’w wastraffu ar rai fel nhw. Ond am ei fod yn casáu gweld pobl flêr fel nhw’n gwneud y lle’n anniben fe aeth i weld beth oedd arnyn nhw ei eisiau.

    Dywedodd y wraig wrtho fod eu mab wedi bod ym Mhrifysgol Harvard am flwyddyn, a’i fod wrth ei fodd yno. Ond tua blwyddyn yn ôl roedd wedi cael ei ladd mewn damwain. Fe ddywedodd wrth y Pennaeth bod y teulu’n dymuno codi cofeb i’r mab rywle ar gampws y coleg.

    Roedd y Prifathro wedi rhyfeddu. ‘Na, yn wir, madam,’ meddai’n gwta, ‘allwn ni ddim gosod cerflun am bob un sydd wedi bod yn y coleg yma, ac sydd wedi marw. Fe fyddai’r lle’n edrych yn debycach i fynwent.’

    ‘O, na,’ eglurodd y wraig ar unwaith, ‘nid gosod carreg neu gerflun oedd gennym ni mewn golwg. Roedden ni’n meddwl y gallen ni godi adeilad i chi yma yng Ngholeg Harvard.’

    Rowliodd y Prifathro ei lygaid a chodi ei aeliau, a chan edrych yn fawreddog ar y ddau fe ebychodd, ‘Adeilad! Oes gennych chi unrhyw fath o syniad faint fyddai’n ei gostio i godi adeilad? Mae gennym ni swm o dros saith miliwm a hanner o ddoleri wedi ei fuddsoddi ar yn o bryd yn yr Adran Addysg Gorfforol.

    Bu’r ddynes yn dawel am eiliad.

    Roedd y Prifathro’n falch. Nawr, efallai y cai wared â’r ddau ddiolwg yma.

    Trodd y wraig at ei gwr a dweud yn dawel wrtho, ‘Ai dyna faint mae’n ei  gostio i sefydlu prifysgol? Pam na wnawn ni sefydlu un ein hunain?’ 

    Nodiodd ei gwr.

    Edrychodd y Prifathro’n ddryslyd.

    Cerddodd Mr a Mrs (Leland) Stanford oddi yno. Fe aethon nhw’n ôl i’w cartref yn Palo Alto, California, lle gwnaethon nhw sefydlu’r brifysgol enwog sydd yno, y brifysgol sy’n cario’u henw - cofeb i’r mab doedd coleg Havard ddim eisiau gwybod dim amdano!

Amser i feddwl

Meddyliwch am yr adegau rydych chi wedi edrych ar rywun diarth ac wedi meddwl - dydi hwn neu hon ddim yr un fath â fi.

Oedd hynny’n beth doeth i’w feddwl?

Fyddech chi’n hoffi i bobl eraill feddwl hynny amdanoch chi?

Gweddi

Arglwydd Dduw,

helpa fi i beidio â barnu pobl yn ôl eu golwg

ond i’w derbyn am bwy ydyn nhw,

a’u derbyn oherwydd fy mod yn gwybod dy fod ti yn eu caru.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>