Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

CYFOETH

gan Janice Ross  


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Nod

Ystyried beth yw gwir ystyr cyfoeth.


Paratoad a deunyddiau 

Gwasanaeth

        

Adroddwch y stori:

Safodd ffermwr cyfoethog ar ben drws ei gartref gwych, gan edrych dros yr aceri lawer o dir ffrwythlon oedd ganddo. Roedd defaid yn pori’n braf ar ochr y bryniau, roedd dwr y llyn yn disgleirio yng ngolau haul y bore, ac roedd y coed yn llawn dail. Doedd o ddim erioed wedi gallu mwynhau golygfa harddach na’r olygfa a welai o’i flaen y bore hwnnw. Fe ddaeth un o’i weision i’r golwg yn tywys ei geffyl marchogaeth iddo, ac ymhen dim roedd y ffermwr yn carlamu i lawr y lôn.

Wedi iddo farchogaeth am dipyn, fe welodd un o’i hen weision yn eistedd yng nghysgod coeden, Hans oedd ei enw. Roedd Hans wedi eistedd yno i orffwys, ac roedd yn agor pecyn o fwyd i’w fwyta fel ei ginio. Roedd wedi tynnu ei het ac roedd wrthi’n diolch i Dduw am ei ddaioni yn darparu ar gyfer ei anghenion pan glywodd lais ei feistr.

‘Dydd da, Hans,’ meddai’r ffermwr cyfoethog. ‘Sut wyt ti heddiw?’

‘O, chi sydd yna, syr,’ atebodd Hans, gan edrych i fyny a gwenu. ‘Wnes i ddim eich clywed chi’n dod. Rydw i wedi mynd dipyn yn drwm fy nghlyw yn ddiweddar, a dydi ngolwg i ddim cystal ag y bu ychwaith.’

‘Ond rwyt ti’n ymddangos yn hapus, Hans.’

‘Hapus? Ydw, wir, syr. Mae gen i lawer o resymau dros fod yn hapus. Mae fy Nhad Nefol i’n rhoi i mi bopeth rydw i ei angen. Mae gen i do uwch fy mhen, ac aelwyd gynnes glyd i eistedd arni, mae gen i ddillad cynnes a bwyd da i’w fwyta. Dyna oeddwn i’n ei wneud rwan pan ddaethoch chi - adrodd gweddi fach o ddiolch.’

Edrychodd y ffermwr ar ginio tlodaidd Hans – tafell neu ddwy o fara a darn o gaws. ‘Mae gen i ofn y byddwn i’n teimlo’n ddigon anfodlon fy myd pe mai dyna’n unig fyddwn i’n ei gael i ginio!’ meddai’r ffermwr wedyn yn ddigon miniog.

‘Ond syr,’ atebodd Hans, ‘rydw i mor ddiolchgar i Dduw, nid yn unig am y bwyd mae’n ei ddarparu i mi, ond hefyd am ei gwmni drwy’r dydd. Gadewch i mi ddweud wrthych chi am freuddwyd gefais i neithiwr ddiwethaf.’

Eisteddodd y ffermwr yn ymyl Hans a gwrando ar lais breuddwydiol yr hen wr.

‘Wrth i mi fynd i gysgu, roeddwn i’n meddwl am y nefoedd a meddwl pa mor hapus y byddaf ar ôl i mi gyrraedd yno. Yn sydyn, teimlais fy hun yn cael fy nghario at y porth nefol. Roeddwn i’n gallu gweld i mewn i’r ddinas nefol. Dyna le hardd! Wrth gwrs, dim ond breuddwyd oedd hi, ond mae un peth yr hoffwn i ei ddweud wrthych chi, a dyna pam rydw i mor falch o’ch gweld chi heddiw.’

Edrychodd y ffermwr braidd yn bryderus, ond wnaeth Hans ddim sylwi ar hynny, ac aeth ymlaen â’i stori. ‘Fe glywais i lais yn dweud, “Heno, fe fydd y dyn cyfoethocaf yn y dyffryn yn marw.” Ac yna fe wnes i ddeffro. Wyddoch chi, syr, fy mod i wedi clywed y geiriau difrifol hynny mor glir fel na fedra i eu hanghofio. Rwy’n teimlo ei bod hi’n ddyletswydd arna i sôn wrthych chi am hyn. Tybed ai rhybudd oedd y geiriau?’

Aeth wyneb y ffermwr yn welw, ond fe geisiodd guddio’i fraw dychrynllyd. ‘Nonsens!’ gwaeddodd. ‘Efallai dy fod ti’n un sy’n credu breuddwydion, ond dydw i ddim!’ A chyda hynny, fe ffarweliodd y ffermwr â’r hen wr yn sydyn a charlamu ymlaen ar gefn ei geffyl.

Wedi iddo gyrraedd adref, fe deimlodd y ffermwr yn flinedig iawn. ‘Dyna ffwl ydw i,’ meddyliodd, ‘yn gadael i stori hen wr gwirion fy mhoeni i!’ Wrth gwrs, mae pawb yn gwybod mai fi yw dyn cyfoethocaf y dyffryn, ond does gen i ddim bwriad marw heno! Dydw i erioed wedi teimlo’n well yn fy mywyd – wel, o leiaf tan rwan!’

Ond, yn wir, roedd y ffermwr yn teimlo’n anarferol o flinedig, ac yn hwyrach y prynhawn hwnnw roedd ganddo gur mawr yn ei ben. ‘Dydi fy nghalon i ddim fel petai’n curo’n rheolaidd ychwaith,’ meddai. Efallai y byddai’n well i mi alw’r doctor.’

Gyda’r nos, fe ddaeth y doctor. Erbyn hyn roedd y ffermwr yn teimlo’n anwydog, fel pe bai â thwymyn, a’i wres yn uchel, ac roedd yn ddrwg iawn ei hwyl. Rhoddodd y doctor archwiliad trylwyr iddo, ond ni allai ddod o hyd i unrhyw beth o’i le arno. Arhosodd y doctor gyda’r ffermwr am sbel gan geisio tawelu ei ofnau trist. Roedd bron yn un ar ddeg o’r gloch y nos erbyn i’r doctor godi ar ei draed i fynd oddi yno. Ar yr un pryd, clywodd y ddau ohonyn nhw gloch y drws yn canu.

Roedd y ffermwr yn bryderus iawn. Pwy allai fod yn galw, yr adeg hon o’r nos?

Un o’r gweision oedd yno. ‘Mae’n ddrwg gen i darfu arnoch chi, syr,’ meddai. ‘Dim ond wedi dod i ddweud wrthych chi bod yr hen Hans wedi marw heno yr ydw i, a gofyn i chi tybed allech chi wneud trefniadau ar gyfer ei angladd, os gwelwch chi’n dda?’

Felly, roedd breuddwyd yr hen wr wedi dod yn wir! Y gwas tlawd, Hans, ac nid ei feistr cyfoethog oedd y dyn mwyaf cyfoethog yn y dyffryn wedi’r cwbl.

Amser i feddwl

Roedd yr hen wr, Hans, yn gyfoethog oherwydd y gwahaniaeth yr oedd ei ffydd yn ei wneud yn ei fywyd.

Mae llawer o bobl yn darganfod bod eu ffydd yn eu galluogi i ddatrys problemau bywyd. Maen nhw’n credu bod Duw’n eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw.

Mae’n debyg y byddai llawer o bobl dlawd, waeth beth yw eu crefydd a’u cred, ac yn enwedig yn y byd sy'n datblygu, yn gallu ein synnu gyda’r fath gyfoeth sydd ganddyn nhw mewn bywyd. Efallai eu bod yn dlawd yn ariannol, ond maen nhw’n gyfoethog o ran bodlonrwydd, yn gyfoethog o ran bywyd teuluol a chymunedol, ac yn gyfoethog o ran ffydd.

Gadewch i ni dreulio moment neu ddwy yn meddwl ym mha ffordd  rydyn ni’n gyfoethog.

Gweddi

Annwyl Dduw,

Diolch i ti am yr holl gyfoeth sydd gennym ni mewn bywyd.

Gad i ni dderbyn gyda diolch yr holl bethau rwyt ti wedi eu rhoi i ni.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>