Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Amheuon a Chwestiynau

gan Ronni Lamont


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Edrych ar ochr ddefnyddiol amau a chwestiynu.

Gwasanaeth

        

  1. Mae plant bach yn rhai da am holi cant a mil o gwestiynau. Pe byddech chi’n gwrando ar blentyn bach yn siarad, fe fyddech chi’n sylwi bod llawer o’u sylwadau ar ffurf cwestiynau:

    Pam mae’r awyr yn las?
    Alla i gael peth o hwnna?
    O ble mae hwn wedi dod?
    Ydyn ni yno eto?
  2. Mae’n bwysig bod plant bach yn holi - dyna sut maen nhw’n dysgu am fywyd. Fel rydyn ni’n tyfu’n hyn, mae’r math o gwestiynau rydyn ni’n eu gofyn yn newid ac yn mynd yn fwy soffistigedig. Mae’r math gorau o’r cwestiynau soffistigedig hyn yn greiddiol i’r cwricwlwm gwyddoniaeth y byddwn ni’n ei ddysgu wrth fynd trwy’r ysgol. A phe na bai gwyddonwyr a phobl eraill yn y gorffennol wedi gofyn y cwestiynau, fyddai ein gwareiddiad ddim wedi datblygu fel y gwnaeth.
  3. Yr unig ddrwg yw, fel rydyn ni’n tyfu’n hyn, rydyn ni’n peidio â gofyn y cwestiynau am fod arnom ni ofn i bobl feddwl ein bod yn llai deallus na nhw. Felly, er ein bod efallai yn awyddus i ofyn rhywbeth fel, ‘Allwch chi egluro hwn i mi eto, plîs?’ neu, ‘Beth yw ystyr y gair yma?’ mae’n debygol na fyddwn ni’n gofyn, ran amlaf.
  4. Trwy’r oesau mae pobl wedi’i chael hi’n anodd cwestiynu systemau cred neu eu ffydd, rhag ofn i bobl feddwl eu bod ddim yn gwir gredu. Mae stori yn ail ran y Beibl, sef y Testament Newydd, y bydd Cristnogion yn aml yn meddwl amdani yn ystod y cyfnod hwn ar ôl y Pasg. Maen nhw’n dyfynnu stori ac yn sôn am un o’r enw Thomas, sy’n amau gwirionedd yr atgyfodiad. Efallai eich bod chi wedi clywed y dywediad ‘doubting Thomas’ heb wybod yn iawn o ble daw’r hanes.

    Un o ddisgyblion Iesu oedd Thomas, ac roedd yn un o’i ffrindiau gorau. Pan fu farw Iesu, roedd Thomas, fel y disgyblion eraill, yn teimlo mewn anobaith llwyr. Fodd bynnag, dridiau yn ddiweddarach, roedd ei ddisgyblion yn dweud eu bod wedi’i weld - ond doedd Thomas ddim yno! A phan soniodd y lleill wrtho fod Iesu wedi bod gyda nhw, ac wedi cerdded i mewn trwy ddrws oedd ar gau, doedd Thomas ddim yn eu credu, ac fe ddywedodd:

    ‘Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a’m llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth.’ (Ioan 20.25: Efallai yr hoffech chi ddarllen gweddill y stori hyd at adnod 29 yn uniongyrchol o’r Beibl, neu defnyddiwch yr aralleiriad yma sy’n dilyn.)

    Wythnos yn ddiweddarach, roedden nhw ynghyd yn yr un ystafell, ac yn sydyn fe ymddangosodd Iesu eto iddyn nhw. Y tro yma roedd Thomas yno gyda nhw. Fe siaradodd Iesu â Thomas, gan ailadrodd yr union eiriau yr oedd Thomas wedi’u dweud cyn hynny ynghylch rhoi ei fys yn ôl yr hoelion a’i law yn yr anaf ar ei ochr. Roedd Thomas dan deimlad mawr, ac nid oedd eisiau gwneud hynny wedyn, mewn gwirionedd. Syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu gan ddatgan mai Iesu oedd ei Arglwydd a’i Dduw.

    Atebodd Iesu: ‘Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld.’

    Wnaeth Thomas byth amau Iesu wedi hynny, ac fe farw’n ferthyr ymhen llawer o flynyddoedd wedyn.
  5. Ond, a oedd Thomas yn gwneud rhywbeth anghywir wrth gwestiynu’r hyn roedd y lleill wedi’i ddweud wrtho? Mae’n debyg ei fod wedi gwneud yr union beth y byddai pob un ohonom ninnau wedi’i wneud. Pe byddai rhywun wedi dweud wrthych chi bod eich arweinydd wedi dod yn ôl o farw’n fyw, ac yn gallu cerdded trwy ddrysau oedd ar gau, mae’n sicr y byddech chithau wedi dweud yr un math o beth. Rwy’n bendant mai dyna fyddwn i wedi’i wneud. Mae’n rhan o’n diwylliant ni i ofyn cwestiynau, ac mae’n rhywbeth y mae ei hysgolion a’n sefydliadau addysg bellach yn ei annog.
  6. Felly, a yw’n iawn i ni ofyn cwestiynau am ein ffydd a’n cred? Rwy’n meddwl bod hynny’n iawn; rhaid i ni allu holi os ydyn ni am ddeall ein ffydd yn well, a meddwl yn ddwys am y cwestiynau gan weithio tuag at yr atebion. Mae  Cristnogion yn meddwl yn barhaus am eu ffydd wrth iddyn nhw aeddfedu a thyfu’n hyn. Mae’r rhan fwyaf o Gristnogion yn disgrifio’u bywyd o ffydd fel taith - rhywbeth sy’n newid ac yn mynd yn ei flaen - fe maen nhw’n tyfu’n hyn ac yn dod yn fwy profiadol o’r byd.

    Felly, pan fyddwch chi’n meddwl am ffydd, os oes gennych chi lawer o gwestiynau i’w gofyn, gofynnwch nhw! Fe allwch chi holi eich athro neu eich athrawes Addysg Grefyddol, neu weinidog lleol. Fe allwch chi siarad â ffrindiau, sydd efallai eisiau gofyn yr un cwestiynau. Ond peidiwch byth â bod ofn y bydd pobl yn meddwl llai ohonoch chi am holi neu fynegi amheuaeth - bydd y rhan fwyaf o bobl yn eich edmygu am fod yn onest.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y cwestiynau sydd gennych chi am eich ffydd, neu am ffydd y bobl rydych chi’n eu hadnabod. Pa un cwestiwn neilltuol y byddech chi’n hoffi ei ofyn?

Gweddi

Mae adegau pan fyddaf yn meddwl o ddifrif:

Meddwl am y byd, a sut mae’r byd yn gweithio,
Meddwl amdanaf fy hun a ble rydw i’n ffitio,
Meddwl am yr holl wahanol grefyddau rydw i’n eu gweld o’n cwmpas.

Helpa fi, ar fy nhaith trwy fywyd,

i ofyn y cwestiynau iawn, ac i wrando, wrth i mi geisio clywed yr atebion.


Gwasanaethau Uwchradd >>