Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Momentau Eureka

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Adnabod y gwahanol ffyrdd y mae’r meddwl yn gallu gweithio.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

        

  1. Mae hen, hen stori am y diwinydd a’r mathemategydd Groegaidd, Archimedes. Roedd yn ceisio datrys pam fod pethau yn ymddangos yn ysgafnach pan fyddan nhw mewn dwr, a hefyd roedd yn ceisio gweld faint yn ysgafnach oedden nhw.  Mae llong sydd â’i chorff wedi’i wneud o ddur, er enghraifft, mor drwm fe ddylai suddo - ond dydi hynny ddim yn digwydd os yw’r cwch wedi’i lunio’n gywir. Fe fyddwch chi’n gyfarwydd â’r ffaith bod pobl yn ymddangos fel pe bydden nhw’n ysgafnach  mewn dwr - fe allwch chi ddal pobl i fyny mewn dwr a fyddai’n solet ar y llawr pe bydden nhw ar dir sych!

    Yn ôl y stori, fe orweddodd Archimedes yn y bath un diwrnod yn meddwl am y broblem yma, ac yn sydyn fe ddaeth yr ateb iddo. Roedd lefel dwr y bath wedi codi wrth iddo fynd i mewn iddo! Fe ddaeth i’r casgliad bod y lleihad oedd i’w weld ym mhwysau rhywbeth mewn dwr yn gyfartal â phwysau’r dwr oedd wedi’i ddadleoli. Roedd wedi cynhyrfu cymaint, fe neidiodd allan o’r bath gan weiddi ‘Eureka!’ sef y gair Groeg am ‘Mae o gen i!’ neu ‘Rydw i wedi dod o hyd i’r ateb!’ Yna, fe redodd o gwmpas strydoedd tref  Syracuse, lle’r oedd yn byw, yn llawn cyffro, yn noethlymun, heb gymaint â thywel am ei ganol!

    Erbyn hyn rydyn ni’n defnyddio’r dywediad, ‘moment eureka’, i ddisgrifio’r foment pan fyddwn ni wedi datrys problem a’r cyfan yn gwneud synnwyr ar ôl i ni bendroni’n hir, efallai.

    Mae stori arall hefyd yr hoffwn ei hadrodd - ac mae hon yn hollol wir - mae’n stori hanesyddol gywir.
  2. Stori yw hi o bedwardegau’r ganrif cyn diwethaf, tua 1846, am Elias Howe, peiriannydd a weithiodd yn ddyfal i ddyfeisio’r peiriant gwnïo cyntaf yn y byd. Fe geisiodd bob ffordd i ddatrys y broblem oedd ganddo, ac roedd yn methu’n glir â chael y peiriant i weithio’n iawn ar y dechrau. Dechreuodd bryderu y byddai rhywun arall yn achub y blaen arno ac yn dyfeisio’r peiriant gwnio o’i flaen.

    Un diwrnod roedd Elias wedi bod yn gweithio’n galed drwy’r dydd, gan ei fod yn gwybod y byddai’n dod yn enwog ac yn gyfoethog pe byddai’n gallu dyfeisio peiriant arbennig i wnïo. Ond nid oedd Elias yn gallu cael ei beiriant i weithio’n iawn.  Naill ai roedd y deunydd yn crychu neu’n rhwygo, neu fe fyddai’r nodwydd yn torri.  Roedd yn obsesiwn ganddo gael ateb i’w broblem. Yn flinedig iawn, un noson, aeth adref ar ôl gweithio ar hyd y dydd yn ceisio gwneud y peth yma a’r peth arall.  Aeth i’w wely, ceisiai gysgu, ond roedd ei feddwl yn dal yn effro.  Roedd yn dal i geisio meddwl am ffordd o gael y peiriant i weithio. Roedd yn benderfynol o’i gael yn iawn. Ymhen peth amser, rhaid ei fod wedi cysgu, ond fe ddechreuodd freuddwydio.

    Yn ei freuddwyd, roedd yn rhedeg am ei fywyd.  Roedd criw o ddynion ffyrnig yn rhedeg ar ei ôl, ac ni allai ddianc.  Fe redodd, ond fe wyddai nad oedd ganddo obaith. Wrth iddo redeg, roedd y dynion yn dod yn nes ac yn nes. Ar funud nesaf, roedden nhw wedi ei ddal, ac yntau’n methu dianc rhag eu picellau miniog.

    Roedden nhw’n ei brocio’n ac yn ei wanu â’r picellau.  Ceisiodd ei orau glas i ddianc - ond roedden nhw’n dal i’w brocio a’i bigo ... i fyny ac i lawr ... drosodd a throsodd gyda’u picellau.  Mewn anobaith llwyr ceisiodd wneud un ymdrech fawr i ddianc, ond roedd y picellau yn ei wanu drosodd a throsodd. Meddyliodd ei fod yn marw.
     “Mae hyn yn ormod,” meddai, wedi diffygio’n lân; ond fe ddeffrodd.  Roedd wedi deffro o’i freuddwyd.  Roedd yn falch, ond roedd ei galon yn dal i guro fel gordd.

    “O! Breuddwyd oedd y cyfan, diolch byth,” meddai.  Wedi iddo gael ei wynt ato, dechreuodd feddwl.  Yng nghefn ei feddwl roedd yn dal i weld y picellau yn gwanu i’w gyfeiriad, yn ôl ac ymlaen yn ddiddiwedd.  Fe welai fod symudiad y bicell yr un fath â symudiad y nodwydd yn ei gynllun ar gyfer y peiriant gwnïo, yn gwanu i fyny ac i lawr. Ond yn ei feddwl hefyd, fe welodd fanylyn arall - roedd twll ym mlaen pigog pob picell.  A dyma oedd yr union beth roedd wedi bod yn chwilio amdano er mwyn datrys problem ei beiriant gwnïo.

    Roedd pob ymgais flaenorol i greu’r peiriant gwnïo wedi methu am ei fod yn defnyddio nodwydd fel y byddwn ni’n ei defnyddio i wnïo â llaw.  Mae nodwydd felly â chrau'r nodwydd, neu’r twll, ym mhen arall y nodwydd, nid ar flaen pigog y nodwydd.  Fe sylweddolodd Elias Howe yn sydyn y gallai ddyfeisio mecanwaith fyddai’n galluogi’r edau gael ei gwthio trwy’r defnydd gan nodwydd oedd â’r crau yn y blaen pigog.  Fe fyddai'r edau honno wedyn yn cael ei dal yn ei lle gan edau arall oedd yn dod o dan y defnydd. A  dyna sut y dyfeisiwyd y peiriant gwnïo.
  3. Tybed pam mai mewn breuddwyd y cafodd Elias Howe y syniad oedd yn fodd iddo ddatrys ei broblem - pam na fyddai wedi meddwl am hyn yn ystod y dydd yn ei weithdy? Efallai, am ei fod wedi bod yn ymdrechu’n rhy galed, yn canolbwyntio cymaint ar ddefnyddio nodwyddau cyffredin, fel nad oedd yn gweld unrhyw ffordd arall oedd yn bosib ei defnyddio i greu’r peiriant. Fe gymrodd hi un freuddwyd gas oedd yn llawn o ddelweddau yn ei ddychymyg, a stori arswyd, i helpu Elias Howe i weld y broblem mewn ffordd newydd.
  4. Weithiau rydyn ni’n rhy agos at rywbeth fel ein bod yn methu ei weld.  Rydyn ni’n methu mynd yn ein blaen â rhywbeth am ein bod yn meddwl yr un fath bob amser, ac yn methu meddwl mewn ffordd wahanol. Beth allwn ni ei wneud i weld pethau mewn ffordd wahanol? Dyma rai syniadau:

    Trafod â phobl eraill, a gwrnado ar beth sydd gan rywun arall i’w ddweud.
    Mynd i wneud rhywbeth arall am ddeg munud, a dod yn ôl at y gwaith wedyn.
    Ysgrifennu i lawr beth yw’r broblem, fel ei bod hi’n bosib gweld beth sy’n peri dryswch mewn brawddeg neu ddwy.
    Aros a meddwl, gan holi eich hun, ‘Ydw i wedi dod ar draws y math yma o broblem o’r blaen – sut y gwnes i ddelio â’r broblem honno, bryd hynny?’

    Y tric yw rhoi saib i’ch ymennydd, yna fe allwch chi ddod yn ôl at y broblem ac edrych arni o’r newydd - a’i datrys, gobeithio. Ond, peidiwch â rhedeg yn noethlymun trwy’r strydoedd pan fyddwch chi wedi cael yr ateb .…

Amser i feddwl

Myfyrdod

Pa fath o broblemau rydw i’n eu cael yn anodd: problemau rhif, geiriau, y cof, pobl?

Beth allaf i ei wneud pan fyddaf yn cael problemau?

Siarad â phobl eraill, a gwrando ar beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud;

Gwneud rhywbeth arall am ddeg munud, yna mynd yn ôl at y broblem;

Ysgrifennu i lawr beth yw’r broblem fel y gallaf weld y broblem mewn brawddeg fer;

Aros a meddwl: ‘Ydw i wedi dod ar draws y math yma o broblem o’r blaen – sut y gwnes i ddelio â’r broblem honno, bryd hynny?’

Gweddi

Annwyl Dduw,

Pan fydd fy meddwl yn cloi,

Pan fyddaf yn methu meddwl yn glir, o gwbl,

Pan fyddaf yn ddrwg fy hwyl am fy mod yn methu gwneud rhywbeth …

Helpa fi i gymryd cam yn ôl, meddwl o’r newydd a dod yn ôl at y broblem wedyn,

A thrwy hynny ddod o hyd i’r ateb.

Amen.


Gwasanaethau Uwchradd >>