Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

GWAITH O’R TU MEWN YW HAPUSRWYDD

gan Janice Ross 

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 1/ yr Ysgol Gyfan

Nod

Deall y gallwch chi ddewis bod yn hapus.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Mae dywediadau neu ddyfyniadau’n gallu ein hysbrydoli ambell dro. Efallai bod gan rai plant addurniadau neu fagnetau bach ar yr oergell gartref gyda dywediadau arnyn nhw sy’n eu hatgoffa o wirioneddau mawr.

    Dywedwch eich bod wedi gweld un mewn siop ryw dro gyda’r dywediad yma arno ‘Gwaith o’r tu mewn yw hapusrwydd.’ Dywedwch eich bod wedi meddwl llawer am y neges honno wedyn. ‘Happiness is an inside job’ fyddai’r dywediad yn Saesneg.

    Eglurwch i’r plant y gallai’r stori rydych chi’n mynd i’w darllen iddyn nhw ein helpu i ddeall beth yw ystyr y dywediad.
  2. Darllenwch y stori.

    Aderyn du, digon drwg ei dymer, oedd Sam. Roedd yn ddrwg ei hwyl yn y bore, roedd yn ddrwg ei hwyl pan fyddai’r tywydd yn ddiflas, ac roedd yn ddrwg ei hwyl pan fyddai’n gorfod pigo yn yr ardd am fwydod. Fe fyddai’n sarrug ar ddydd Llun, ac ar ddydd Mawrth, a dydd Mercher ... a hyd yn oed ar ddydd Sadwrn hefyd. Doedd Sam ddim yn bwriadu bod yn sarrug, ond doedd ganddo ddim help. Un felly oedd Sam wedi bod erioed.

    Y peth cyntaf yn y bore y byddai ar ei waethaf. Pa mor aml y byddai’n breuddwydio’n braf am wledd o fwydod blasus, ac yn cael ei ddeffro gan gôr o adar eraill yn pyncio dros y wlad? Roedd y bore bach, cyn i’r haul godi, yn amser bywiog o drydar, switian, a thelori, ac roedd cynghanedd seiniau’r adar yn llenwi’r coed a’r gwrychoedd wrth i’r adar bach ddeffro a chanu eu gorau i groesawu’r diwrnod newydd.

    Fe allai Sam ddioddef, yn weddol, alwad frwdfrydig felly ar ddiwrnod braf, pan fyddai’r awyr yn llonydd a lliwiau oren a melyn y wawr wrth i’r haul godi yn addo diwrnod braf i ddod. Ond y broblem gyda’r adar eraill oedd eu bod yn mynnu canu dros bob man bob bore, waeth beth fyddai’r tywydd. Fe allai fod yn fore llwyd a glawog, gydag arogl llwydni tamp yn yr awyr. Fe allai hyd yn oed fod yn bwrw eira a gwynt y gogledd yn chwythu’n oer. Pa un ai glaw, cenllysg, neu hindda, fe fyddai’r adar eraill wrthi a’u holl egni.

    Un bore, roedd Sam wedi cael hen ddigon. Roedd yn fore niwlog llwydaidd, bore y byddech chi’n disgwyl i bawb aros yn eu gwelyau am sbel. Ond, na, doedd yr adar eraill ddim eisiau aros yn eu gwelyau! Dechreuodd un aderyn du, oedd ar ben to adeilad yn ymyl, ganu ar dop ei lais, ac ymunodd un arall oedd heb glirio’i wddf y bore hwnnw cyn dechrau canu ar gangen coeden. Ymunodd un arall yn y gân, ac un arall, nes roedd y gymdogaeth i gyd wrthi - yn adar duon, adar y to, adar drudwy, bronfraith, a phob dryw bach hyd yn oed - pawb ond Sam!

    Agorodd Sam un llygad ac edrych allan o’i guddfan. Roedd hi’n dal yn dywyll. Doedd dim golwg o’r haul eto hyd yn oed. ‘Twpsod!’ meddyliodd Sam a ffrwydro mewn ffit o dymer ddrwg, ac fe waeddodd arnyn nhw, ‘O! Rhowch y gorau iddi, yn wir, yr adar gwirion!’

    Dychrynodd yr aderyn du oedd â’r llais cryg, bu bron iddo syrthio oddi ar y gangen, ac fe redodd y dryw bach i guddio mewn twll yn y wal. Aeth pobman yn hollol dawel. Roedd Sam yn falch ohono’i hun, ac fe aeth yn ôl i swatio’n glyd gan geisio ailddechrau breuddwydio’n braf. Ond y drwg oedd, fe wnaeth pawb arall yr un peth wedyn. Ac oherwydd hynny, roedd nifer o bobl y pentref yn hwyr yn codi i fynd i’w gwaith y diwrnod hwnnw, a llawer o’r plant yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol. Fe sylweddolodd Sam nad oedd neb o’r adar eraill eisiau siarad ag ef wedyn ychwaith.

    Ond fe ddaeth rhuthr o wynt o rywle, ac fe laniodd yr hen dylluan ddoeth yn  ymyl Sam. ‘Wel, Sam,’ meddai wrtho, ‘sut wyt ti heddiw?’

    ‘Yn teimlo’n ofnadwy!’ meddai Sam.

    ‘Roeddwn i wedi sylwi,’ meddai’r dylluan. ‘Ac mae dy dymer ddrwg di wedi effeithio ar bawb o dy gwmpas di,’ meddai wedyn, gan gysuro dryw bach ofnus.

    ‘Wel, does gen i ddim help. Nid arnaf fi mae’r bai fy mod i mor ddrwg fy hwyl!’

    ‘O! Nage?’ gofynnodd y dylluan. ‘Yna, ar bwy mae’r bai? Doeddwn i ddim yn gwybod bod gallu gan y glaw i wneud pobl yn sarrug. Agwedd yn y galon yw tymer. Mae’n bosib i ti ddewis bod yn sarrug, neu mae’n bosib i ti ddewis bod yn hapus. Ac mae’n amlwg nad yw dy dymer ddrwg di’n dy wneud di’n hapus.

    ‘Gwrando, fy ffrind, ar ychydig o eiriau o ddoethineb, meddai’r dylluan ddoeth wrth Sam. ‘Dewis fod yn hapus. Fydd hapusrwydd ddim yn disgyn o’r awyr o dy flaen di. Mae bod yn hapus yn rhywbeth rydyn ni’n dewis ei wneud - agwedd yn y galon. Gwaith o’r tu mewn yw hapusrwydd. Felly, gwna dy ran. Hapus, neu sarrug, ti sy’n dewis sut rwyt ti eisiau bod, fy ffrind.

    ‘Beth am i ti roi cynnig ar y geiriau doeth hyn?’ meddai’r dylluan wedyn wrth Sam, a pharatoi i fynd oddi yno. ‘Efallai y byddi di’n gallu helpu rhai pobl i ddysgu’r un wers hefyd. Efallai, pan fydd y bobl yn dy glywed di’n canu’n hapus ar fore tywyll, tamp, y bydd hynny’n annog eu calon nhw hefyd i ganu. Mae hynny wedi gweithio o’r blaen, wyddost ti!’

Amser i feddwl

Gadewch i ni ddarllen yn uchel gyda’n gilydd eiriau’r hen dylluan ddoeth: ‘Gwaith o’r tu mewn yw hapusrwydd.’

Nawr, caewch eich llygaid.

Meddyliwch am rywbeth sy’n eich gwneud yn ddig, neu rywbeth sy’n gwneud i chi deimlo’n sarrug.

Nawr, penderfynwch wenu, yn araf bach. Anghofiwch am fod yn ddig. Gadewch i’r wên ledu ar eich wyneb . . . a daliwch i wenu.

Gweddi

Annwyl Dduw,

Duw llawenydd, hapusrwydd a chwerthin wyt ti.

Fe wnest ti ein creu ni i fod yn debyg i ti.

Helpa ni i gofio mai ‘gwaith o’r tu mewn yw hapusrwydd.’

Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>