Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Ail Gyfle


gan Janice Ross


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Trwy edrych at stori Jona, ystyried pa mor aml y byddwn ni’n cael ail gyfle i wneud rhywbeth yn iawn.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Siaradwch gyda’r plant am amser bath. Holwch y plant ieuengaf ydyn nhw’n hoffi chwarae â theganau, fel y rhai sydd gennych chi, pan fyddan nhw’n cael bath. Dangoswch y teganau, beth bynnag fydd gennych chi.

    Holwch y plant ydyn nhw ryw dro wedi clywed rhywun yn dweud rhywbeth fel, ‘Mae’r ystafell ymolchi fel petai morfil wedi bod yma!’ Beth maen nhw’n ei olygu wrth ddweud hynny?
  2. Eglurwch ein bod yn mynd i gael stori heddiw am ddyn a physgodyn mawr. Mae’r stori’n hen, hen stori o’r Beibl, felly mae Cristnogion, Iddewon a phobl o grefyddau eraill hefyd yn meddwl fod gan y stori rywbeth i’w ddweud wrthym ni am sut y dylem ni fyw ein bywydau.

    Jona a’r Pysgodyn Mawr
    (addasiad o stori Jona)

    Mae’r stori yma am ddyn o’r enw Jona, a physgodyn mawr o’r enw … wel, wyddon ni ddim beth oedd enw’r pysgodyn. Mae rhai pobl yn meddwl mai morfil oedd o, wyddom ni ddim yn iawn beth am hynny ychwaith. Beth bynnag, roedd yn greadur mawr a oedd yn byw yn y môr! Nawr, roedd y tebygolrwydd o Jona’n cwrdd â’r pysgodyn mawr yma’n debygolrwydd bychan iawn, yn enwedig yn nyfnder môr mawr y Canoldir. Ond fe wnaethon nhw gwrdd, yn wir - a dyma’r stori.

    Pregethwr oedd Jona, ac yn ôl y stori, roedd Duw Abraham, Isaac a Jacob wedi ei ddewis i fod yn negesydd iddo. Roedd bod yn negesydd i Dduw yn swydd arbennig iawn. Roedd pobl yn ei barchu. Roedd pobl yn gwrando arno. Roedd Jona’n ddyn pwysig yn y gymdeithas. Ac roedd Jona’n hapus iawn yn gwneud y gwaith hefyd. Yn hapus iawn ... hynny yw ... nes i Dduw, un diwrnod, ofyn iddo fynd i le o’r enw Ninife. Doedd dim gwahaniaeth gan Jona deithio yno, doedd hynny ddim yn broblem o gwbl. Roedd wedi arfer teithio o le i le, a hynny dros bellteroedd mawr hefyd. Y neges oedd yn poeni Jona.

    Dyma beth oedd Duw wedi’i ddweud wrtho: ‘Dos i ddweud wrth bobl Ninife fy mod i’n ddig iawn wrthyn nhw. Maen nhw wedi bod yn ymddwyn yn ddrwg iawn. Rhaid i ti fynd yno i ddweud wrthyn nhw fod eisiau iddyn nhw newid eu ffordd o fyw, a bod yn dda.’

    Nawr, pwy fyddai eisiau clywed neges felly? Fe wyddai Jona na fyddai llawer o groeso iddo yno, os mai dyna oedd ei neges. A’r mwyaf yn y byd yr oedd Jona’n meddwl am y neges anodd yma, mwyaf yn y byd y byddai’n dychmygu beth allai ddigwydd iddo. Efallai y byddai’r bobl yn gweiddi arno. Efallai y  bydden nhw’n taflu pethau ato i’w ddychryn. Efallai y byddai’r bobl yn rhedeg ar ei ôl er mwyn ei anfon oddi yno. Yn sicr, fe fydden nhw’n chwerthin am ei ben, ac yn amharod iawn i wrando arno. Na! Doedd hi ddim yn dasg yr oedd Jona’n edrych ymlaen at ei chyflawni. Felly, fe benderfynodd nad oedd am fynd i Ninife.

    Un noson wedi iddi dywyllu, fe ddihangodd Jona i lawr i’r harbwr gyda’i glogyn dros ei ben rhag i Dduw ei weld. Fe ddringodd i mewn i long oedd ar fin hwylio i wlad arall, ac fe guddiodd yng ngwaelod y llong. Cuddio oddi wrth Dduw? Mae hynny’n dipyn o gamp - Jona wirion!

    Wel, yn y bore, fe hwyliodd y llong. Ond cyn hir fe gododd yn storm fawr ar y môr. Roedd y morwyr ar y llong wedi hen arfer â thywydd garw ar y môr, ac roedden nhw’n ddynion dewr iawn ... fel arfer. Ond, roedd y storm yma’n wahanol. Roedd cymaint o ofn ar bawb fel eu bod ar eu gliniau yn gweddïo ar eu gwahanol dduwiau. Fe wyddai Jona mai fo oedd achos y storm fawr. Fe welodd y morwyr yn taflu popeth oedd yn bosib ei daflu dros ochr y llong er mwyn ceisio gwneud y llong yn ysgafnach. Yn y diwedd aeth Jona at y capten a dweud.

    ‘Arnaf fi mae’r bai. Taflwch fi i’r môr.’

    Ac yn wir, wnaeth y morwyr ddim dadlau â Jona. Roedd hi’n fater o naill ai Jona neu nhw yn cael eu taflu i’r môr, ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn gallu bod yn hunanol mewn achosion enbydus fel hyn!

    Ac ar yr union foment y taflwyd Jona dros ochr y llong i’r môr fe dawelodd y storm. Fe suddodd Jona yn is ac yn is yn nwr y môr, ond fe anfonodd Duw bysgodyn mawr, neu efallai mai morfil oedd o, i nofio heibio. Agorodd y pysgodyn mawr ei geg a llyncu Jona.

    Tybed sut le oedd ym mol y pysgodyn? Lle tywyll yn sicr, ac o bosib yn ddigon drewllyd hefyd, a Jona’n cael ei daflu o’r naill ochr i’r llall wrth i’r pysgodyn nofio yn ôl ac ymlaen. Yn ôl y sôn, fe fu Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson. Digon o amser i feddwl, a digon o amser i edifarhau, a digon o amser i weddïo hefyd. Ac yn wir, fe weddïodd Jona.

    ‘Mae’n wir ddrwg gen i, Dduw, am fod yn anufudd i ti,’ meddai. ‘Roedd gen ti neges arbennig i bobl Ninife - pobl rwyt ti’n eu caru nhw - ac fe wnest ti ofyn i mi fynd â’r neges iddyn nhw. Ond wnes i ddim! Maddau i mi, plîs. Os gwnei di roi ail gyfle i mi fe af fi yno, i Ninife, a dweud wrth y bobl yno beth yw dy neges.’

    Doedd Jona ddim yn debygol o gael ail gyfle yn nag oedd, ac yntau wedi cael ei lyncu gan y pysgodyn mawr? Ond y funud honno, wn i ddim gafodd y pysgodyn boen yn ei fol ai peidio, ond fe nofiodd tua’r lan a thaflu Jona i fyny ar y traeth. Fe gafodd Jona’i hun yn ôl ar y traeth heb fod ymhell o’r harbwr lle’r aeth i’r llong ychydig ddyddiau ynghynt. Roedd dipyn yn syn, a braidd yn wlyb, ond roedd yn fyw ac yn iach.

    A dyna sut y cafodd Jona ail gyfle. Yn wir, fe aeth i Ninife ar ei union, a'r tro yma fe aeth â’r neges anodd at y bobl yno, sef y neges gan Dduw. Roedd Duw eisiau i ddyn nhw beidio â bod yn bobl ddrwg, ond newid eu ffordd o fyw a bod yn bobl dda. Wnaeth pobl Ninife ddim anwybyddu Jona, na chwerthin am ei ben. Fe wnaethon nhw wrando ar ei neges. Roedden nhw’n gwybod eu bod wedi bod yn bobl ddrwg, ac roedden nhw’n benderfynol o edifarhau a bod yn bobl well o hynny ymlaen.
  3. Yn union fel Jona, rydyn ninnau i gyd yn gwneud camgymeriadau o dro i dro. Weithiau, rydyn ni’n methu gwneud rhywbeth mae rhywun wedi gofyn i ni ei wneud, gartref neu yn yr ysgol. Weithiau, rydyn ni’n gwybod na ddylem ni fod wedi ymddwyn yn y ffordd y gwnaethom ni, neu ddweud rhywbeth mewn ffordd neilltuol. Ac weithiau, fe fyddwn ni’n cael ail gyfle, ac fe allwn ni wneud pethau’n iawn unwaith eto. Dim ond dweud un gair bach sydd eisiau, efallai, sef ‘sori’ neu ‘mae’n ddrwg gen i’.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Ydw i, yn ddiweddar, wedi methu gwneud rhywbeth y gofynnodd rhywun i mi ei wneud?
Sut y gallaf fi wneud iawn am hynny?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti yn ein caru, hyd yn oed pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau.
Helpa ni i wneud yn fawr o ail gyfle.

Amen.


Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>