Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Disgwyliwch yr Annisgwyl!

gan Lee Jennings

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Nod

Mae Duw’n addo bod gyda ni bob amser. Disgwyliwch yr annisgwyl!

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

       

  1. Gwahoddwch nifer o wirfoddolwyr i ddod atoch chi i’r tu blaen, a gofynnwch iddyn nhw ddewis anrheg. Holwch bob un pam eu bod wedi dewis yr anrheg benodol honno.
  2. Fesul un, rhowch gyfle iddyn nhw agor yr anrhegion,  gan ofyn iddyn nhw sut roedden nhw’n teimlo wrth agor yr anrheg. Mae’n debyg y bydd pob un yn dweud eu bod wedi cael rhywfaint o siom. Neu efallai y bydd rhai ohonyn nhw’n teimlo’n ddig wrthych chi am chwarae tric â nhw!!! Yn olaf, rhowch gyfle i’r un sydd wedi cael y bocs blêr agor ei anrheg. Holwch yr un hwnnw sut roedd yn teimlo, a oedd ef neu hi wedi cael ei siomi o’r ochr orau?

    Diolchwch i’r gwirfoddolwyr am eu help.
  3. Un diwrnod, roedd Iesu yn mynd i ddinas Jerwsalem, ac roedd yn marchogaeth ar gefn ebol asyn. Roedd y bobl yn llawn cyffro am fod Iesu’n dod yno; fe aethon nhw allan i’r strydoedd i’w gyfarfod, ac roedden nhw’n chwifio dail palmwydd wrth ei groesawu.

    Yr unig broblem oedd, roedd yr Iddewon yn disgwyl brenin a fyddai’n dod i’w rhyddhau o afael llywodraeth y Rhufeiniaid. A doedden nhw ddim yn meddwl fod Iesu yn edrych fel yr un a fyddai’n gallu eu hachub. Ac am hynny, doedden nhw ddim yn meddwl ei fod yn dweud y gwir, ac fe aeth rhai o’r bobl â Iesu i’r llys o flaen barnwr. Roddwyd ef ar brawf, a’r ddedfryd oedd cael ei ladd trwy gael ei groeshoelio. Roedden nhw’n disgwyl rhywbeth neilltuol, ond fe gawson nhw’u siomi gyda’r hyn gawson nhw.
  4. Ond, fe ddaeth Iesu’n fyw eto, ac roedd hynny’n fwy o syndod i’w ffrindiau. Yn hytrach na bod yn siomedig, fe allwn ni fod yn wirioneddol hapus bod Iesu yn ein caru ac yn gofalu amdanom. Fe wnaeth Duw i Iesu godi o farw’n fyw, a dyma’r hyn fyddwn ni’n ei gofio ar adeg y Pasg. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu’n dal i fod yn fyw, ac yn parhau i ofalu amdanom, bob un ohonom.
  5. Weithiau, yn ein bywydau, fyddwn ni ddim yn cael y pethau y byddwn ni’n disgwyl eu cael. Weithiau, fe fydd pobl yn ein siomi, ac weithiau fe allwn ni feddwl bod Duw wedi ein siomi. Ond mae Duw yn addo na wnaiff ein gadael ni, byth. Pan ddaeth Iesu’n fyw eilwaith, fe ddywedodd y byddai’n anfon ei Ysbryd Glân i fod gyda ni, ac i’n helpu, fel y gallai fod gyda ni bob amser. Dyma beth mae Cristnogion yn cofio amdano ar Wyl y Pentecost: Iesu’n anfon ei Ysbryd Glân i fod yn gymorth i Gristnogion ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Amser i feddwl

Roedd gwraig yn byw yn Norwich ganrifoedd yn ôl wedi dweud bod Duw wedi rhoi gweledigaeth iddi. Ac yn ei gweledigaeth roedd hi’n dal rhywbeth bach ar gledr ei llaw, rhywbeth bach fel cneuen. Pan ofynnodd hi i Dduw beth oedd y peth hwnnw oedd yn ei llaw, yr ateb gafodd hi oedd popeth oedd erioed wedi cael ei wneud. Pan ofynnodd hi i Dduw am y tristwch oedd ym mywydau pobl y byd, fe atebodd trwy ddweud y byddai popeth yn dda, a dyma’r frawddeg a ddyfynnodd y wraig: ‘All will be well, and all will be well, and all manner of things shall be well.’

Gweddi  

Annwyl Dduw,

Diolch dy fod ti wedi addo bod gyda ni bob amser.

Diolch dy fod ti wedi addo y bydd popeth yn dda.

Helpa fi i gofio hynny, waeth beth fydd yn digwydd.

Amen.    

 


Gwasanaethau Uwchradd >>