Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

PARCH

gan Helen Bryant


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 4/ Cyfnod Allweddol 5

Nod

Ystyried gwir ystyr y gair ‘parch’, gair sy’n cael ei ddefnyddio’n ddigon cyffredin.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

        

  1. Yn niwedd yr 1800au, fe ysgrifennodd dyn o’r enw y Parchedig Charles Kingsley nofel i blant, ac enw’r nofel oedd The Water-Babies: A Fairy Tale for a Land Baby. Yn y nofel, fe gawn stori am fachgen ifanc o’r enw Tom, a oedd yn gweithio fel glanhawr simneiau. Fe syrthiodd Tom i afon wrth iddo gael ei erlid o gartref merch fonheddig yr oedd wedi ei chyfarfod. Enw’r ferch oedd Ellie. Yn ôl y stori, wedi i Tom syrthio i’r afon, mae’n boddi ac yn troi’n faban-dwr (water-baby). Mae pryf pric – pryfyn sy’n diosg ei groen – yn egluro i Tom beth sydd wedi digwydd iddo, ac mae Tom yn dechrau ar ei addysg foesol.

    Mae Tom wedyn yn dechrau ar gyfres o anturiaethau a gwersi, ac unwaith y mae wedi profi ei fod yn greadur moesol, mae’n mwynhau cyfeillgarwch babanod-dwr eraill.

    Y prif arweinwyr ysbrydol yn ei fywyd newydd yw’r tylwyth teg Mrs Doasyouwouldbedoneby, Mrs Bedonebyasyoudid, a Mother Carey. Unwaith yr wythnos mae Tom yn cael cwmni Ellie, a oedd hefyd wedi disgyn i’r afon ac wedi troi’n faban-dwr.

    Mae Grimes, hen feistr Tom wedi boddi hefyd, ac yn ei anturiaeth olaf mae Tom yn teithio i ben draw’r byd i geisio helpu Grimes, sy’n cael ei gosbi am ei gamweddau. Mae Tom yn helpu Grimes i edifarhau, ac mae Grimes yn cael ail gynnig os yw’n llwyddo i gyflawni penyd terfynol yn llwyddiannus.

    Trwy brofi ei barodrwydd i wneud pethau nad yw’n hoffi eu gwneud, os yw’r rheini’n bethau sy’n iawn i’w gwneud, mae Tom yn ennill hunan barch a pharch tuag at eraill, ac mae’n ennill cyfle iddo’i hun droi’n ôl yn fod dynol unwaith eto.
  2. Athronydd oedd Immanuel Kant, a oedd yn byw yn y ddeunawfed ganrif, ac roedd Kant yn dweud bod y ffordd iawn o fyw yn dibynnu, nid ar y teimladau, ond yn ymwneud â chyfraith foesol yn seiliedig ar reswm. Fe alwodd ei ddeddf yn ‘the categorical imperative’ - y gorchmynneb categorïaidd - ac fe ddywedodd bod hyn yn reddfol, yn rhan o wneuthuriad pob bod dynol. Mae’r term ‘gorchmynneb categorïaidd’ yn dynodi gofyniad moesol llwyr a diamod sy’n mynnu ei awdurdod ym mhob sefyllfa. Mae’n rheoli pob ymddygiad. Rhaid ufuddhau i’r gyfraith er ei mwyn ei hun, nid oherwydd unrhyw dda a allai ddeillio o fod yn ufudd.

    Mae’r gofyn i ddangos parch yn cydymffurfio â’r gorchmynneb categorïaidd; mae’n rheol foesol gyffredinol.
  3. Fe fydd pobl yn dweud yn aml wrthym am ‘ddangos parch’. Ond beth mae hynny’n ei olygu?

    Un diffiniad yw: ‘gyda golwg ar ystyriaeth ddiragfarn o werthoedd, credoau ac eiddo pob un. Mae’n deimlad cadarnhaol o sylw, bri neu edmygedd tuag at rywun neu rywbeth. Mae’n rhinwedd, priodwedd dda sy’n gwneud i ni werthfawrogi a pharchu eraill.’

    Ystyr dangos parch yw:

    –  bod o ddifrif ynghylch yr hyn mae pobl eraill yn ei deimlo, yn ei ddweud ac yn ei wneud, a bod o ddifrif ynghylch eu dewis a’u dymuniadau;

    –  peidio ag anwybyddu pobl eraill na gwneud hwyl am eu pen. Pan fyddwn ni’n chwerthin am ben syniadau pobl eraill, rydyn ni’n dangos amarch tuag at bwy ydyn nhw;

    –  ceisio deall pobl eraill os ydyn nhw’n wahanol i ni, a cheisio dysgu oddi wrthyn nhw;

    –  trin pobl eraill yn foneddigaidd a chwrtais;

    –  cydnabod ein gilydd fel cyd-fodau dynol sydd â hawliau cyfartal;

    –  nid yw’n golygu ein bod yn cytuno bob amser â phawb arall, ond ein bod yn barod i wrando a rhannu ein safbwyntiau heb fod yn ddiamynedd nac yn anghwrtais.
  4. Rhai o’r bobl y dylem ni ddangos parch atyn nhw yw:

    – pobl sy’n hyn na ni, a’n rhieni (yn y Beibl, un o’r Deg Gorchymyn yw’r gorchymyn i anrhydeddu ein tad a’n mam);

    – ein hathrawon, a phobl sydd mewn unrhyw fath o awdurdod;

    – ein cymheiriaid, ffrindiau a hyd yn oed ein brodyr a’n chwiorydd;

    – a ni ein hunain, hefyd. Un o orchmynion Iesu oedd carwch eich cymydog fel chi eich hun. Mae angen i ‘barch’ ddechrau gyda pharchu ein hunain, a’n cyfraniad unigryw ni i’n cartrefi, ein hysgol a’n cymunedau.
  5. Pwysigrwydd parch

    Pan fyddwn ni’n dangos parch at eraill, fe fyddan nhw’n ein parchu ninnau. Does dim posib i chi ddisgwyl cael eich parchu gan bobl eraill os nad ydych chi’n eu parchu nhw.

    Rhaid i barch fod yn beth sy’n dod o’r ddwy ochr. Dyna yw sail unrhyw berthynas sydd gennych chi â rhywun arall. Unwaith y mae’r parch hwnnw’n cael ei golli, fydd y berthynas honno byth yr un fath wedyn, oni bai bod y parch hwnnw’n cael ei adennill mewn rhyw ffordd.

    Pan fydd y parch yn cael ei ddangos o’r ddwy ochr, fe allwn ni weithio gyda’n gilydd. Dan faner parchu’r naill a’r llall, fe allwn ni wneud pethau mewn ffordd fwy effeithiol.

    Dywedodd Albert Schweitzer, ‘Only those who respect the personality of others can be of real use to them.’ Dim ond y rhai sy’n parchu personoliaeth rhywun arall sy’n gallu bod o unrhyw werth go iawn iddyn nhw.

    Fe wyddom i gyd am adegau mewn hanes pan ddigwyddodd i un grwp o bobl amharchu hawliau grwp arall, ac fe wyddom beth yw canlyniad hyn. Does dim ond rhaid i ni gofio am yr Holocost, am y materion sy’n ymwneud â chaethwasiaeth, ac am apartheid yn Ne Affrica, i weld beth yw canlyniadau dibrisio a diffyg parch tuag at eraill.

    Gadewch i ni dyfu mewn parch tuag atom ein hunain a thuag at bobl eraill.

Amser i feddwl

Yn ganolog i bob un o brif grefyddau’r byd, y mae’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘rheol aur’: sef eich bod yn trin pobl yn y ffordd yr hoffech chi i bobl eich trin chi.

Meddyliwch am y bobl rydych chi’n dod i gysylltiad â nhw’n rheolaidd. Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am sut rydyn ni’n torri’r ‘rheol aur’ hon yn ddyddiol.

Nawr, penderfynwch sut y gallech chi ddangos rhagor o barch tuag at ddim ond un person rydych chi wedi bod yn meddwl sydd ddim yn haeddu eich parch: tybed sut ymateb a fyddai i’r parch newydd hwn?

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>