Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Alban
Sant Cyntaf Prydain

gan Ronni Lamont


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Nod

Edrych ar fywyd Sant Alban, a gweld pam ei fod yn bwysig yn ein hanes.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth        

  1. Milwr yn y fyddin Rufeinig ym Mhrydain oedd Alban, tua’r flwyddyn 300. Roedd yn byw ac yn gweithio yn y dref yr oedd y Rhufeiniaid yn ei galw’n Verulamium; mae’r afon Ver yn llifo trwy’r dref. Wyddom ni ddim byd am ei gefndir, ond rydyn ni’n gwybod ei fod wedi cwrdd ag offeiriad Cristnogol cynnar o’r enw Amphibalus. Roedd Alban wedi mynd ag Amphibalus gydag ef i’w gartref, i roi lloches iddo rhag y rhai oedd yn ei erlid, a thrwy hynny arbed Amphibalus, o bosib, rhag cael ei ladd. Roedd hyn yn ystod y cyfnod pan oedd hi drosedd i fod yn Gristion, ac roedd Amphibalus nid yn unig yn Gristion, ond roedd hefyd yn pregethu’n agored am Iesu. Bryd hynny, ychydig iawn o Gristnogion oedd ym Mhrydain.

    Roedd Alban wedi bod yng nghwmni Amphibalus am gyfnod digon hir i benderfynu y byddai yntau hefyd yn troi i fod yn Gristion. Cafodd ei fedyddio, yn ystod y nos mae’n debyg, yn yr afon Ver. Dysgodd Alban am y ffydd Gristnogol gan Amphibalus, ac fe arhosodd y ddau gyda’i gilydd nes y clywodd y Rhufeiniaid ble roedd Amphibalus yn cael lloches.
  2. Pan gyrhaeddodd y milwyr i arestio Amphibalus, fe awgrymodd Alban y byddai’r ddau’n cyfnewid eu dillad ac fe wisgodd Alban glogyn Amphibalus. Felly, fe ddihangodd Amphibalus a chafodd Alban ei arestio. Cafodd Alban ei arwain at y Llywodraethwr Rhufeinig, a oedd wrthi ar y pryd yn aberthu anifail i un o’r duwiau Rhufeinig.

    Pan daflodd Alban y clogyn oedd amdano, fe sylweddolodd y llywodraethwr nad Amphibalus oedd yno o’i flaen. Fe holodd Alban pwy oedd o. Ac mae’n debyg bod Alban wedi ei ateb fel hyn: ‘Alban ydw i, ac rydw i’n addoli’r unig wir Dduw a greodd bopeth, ac sy’n fyw.’ Wrth gwrs, allai Alban ddim disgwyl cael amser hawdd ar ôl cyfaddef hynny.

    Roedd y llywodraethwr wedi gwylltio cymaint fel y condemniodd Alban i farwolaeth, ac yna ... mae’r stori o bosib wedi newid rhywfaint wrth ei hadrodd ar hyd y canrifoedd  ...
  3. Yn ôl  y sôn, cafodd Alban ei arwain allan o’r dref ac i fyny’r bryn tuag at y man lle'r oedd i fod i gael ei ddienyddio, ac roedd yn rhaid iddyn nhw groesi afon i gyrraedd yno. Wrth i Alban gamu i mewn i’r dwr, fe sychodd yr afon. Wrth iddo gerdded i fyny’r bryn, blodeuodd rhosod yno. Pan wnaethon nhw gyrraedd pen y bryn, sythodd y dienyddiwr yn farw wrth iddo geisio torri pen Alban. Daeth ail ddienyddiwr yno, ond fe syrthiodd llygaid hwnnw allan o’i ben pan syrthiodd pen Alban. Ac ar yr union fan lle syrthiodd pen Alban, fe darddodd ffynnon a rhedodd dwr o’r ddaear.
  4. Daeth stori Alban yn adnabyddus, a thros amser fe ddechreuodd pobl ddod i’r lle hwnnw lle bu Alban farw, i addoli ac i gofio amdano. Ymhen amser, codwyd allor yno. Ac o dipyn i beth, aeth y lle yn fwy dros y blynyddoedd. Os ewch chi heddiw i’r dref sydd wedi’i henwi ar ei ôl, sef St Alban, mae eglwys gadeiriol yno yn nodi’r fan, ar ben y bryn sy’n cael ei alw’n  Holywell Hill.

Amser i feddwl

Alban oedd y Cristion cyntaf o Loegr i farw dros ei ffydd  – y merthyr Seisnig cyntaf, neu gynferthyr. A thra mae ei stori i raddau’n anghyfarwydd, mae’n cael ei gofio oherwydd y dref hyfryd sy’n cario’i enw, yn swydd Hertford yn Lloegr. Mae creirfa yn y gadeirlan yno, lle y credir bod rhai o’i esgyrn wedi’u cadw.

Pe byddech chi eu fi yn yr un sefyllfa ag Alban – yn gwybod y byddai ffrind yn marw oni bai eich bod chi’n gweithredu mewn modd dewr ac anhunanol, tybed fyddem ni’n gallu gwneud yr hyn a wnaeth Alban? I’r rhai hynny ohonom sydd â ffydd, tybed oes gennym ni yr un math o ffydd ag a oedd gan Alban?

Gweddi

Arglwydd Dduw Alban ac Amphibalus,
Gad i ni, y rhai sy’n rhannu’r un ffydd â nhw,
hefyd fod â’r un dewrder i ddal gafael yn dynn yn yr hyn rydyn ni’n ei gredu sy’n wir.

Amen.

 

Cerddoriaeth/ Emyn  

 


Gwasanaethau Uwchradd >>