Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Grym y Pentecost

gan Janice Ross

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Nod

Mae stori’r Pentecost yn dangos bod arnom ni angen grym Ysbryd Glân Duw i’n galluogi ni i fyw fel yr oedd Iesu’n byw, a bod yn ddisgyblion iddo.

Paratoad a deunyddiau


Gwasanaeth        

  1. Bydd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn gyfarwydd ag Andrew Lloyd Webber a’r rhaglen oedd ar y teledu’n ddiweddar a oedd yn gystadleuaeth i chwilio am dri ‘Oliver’ ac un ‘Nancy’ i fod yn sêr y cynhyrchiad o Oliver yn y West End. Mae’r sioe gerdd, Oliver, wedi’i seilio ar nofel Charles Dickens - Oliver Twist - sy’n adrodd stori bachgen ifanc amddifad sy’n cael ei hun yng nghanol gang o ladron dwyn o bocedi (pickpockets) yn Llundain y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

    Er mwyn y rhai hynny ohonoch chi na welodd y rhaglenni, dyma grynodeb. Dair blynedd yn ôl fe dderbyniodd Andrew Lloyd Webber yr her o lwyfannu’r sioe gerdd The Sound of Music. Gwahoddwyd merched ifanc i gymryd rhan mewn clyweliadau ar gyfer rhan Maria, oedd yn cael ei chwarae yn y ffilm gan Julie Andrews. Allan o’r holl rai a ymgeisiodd llwyddwyd i ddewis deuddeg, ac fe dderbyniwyd y rhai hynny i’r ‘ty’  i’w paratoi ar gyfer y rhan. Fesul wythnos, roedd un yn ymadael â’r gystadleuaeth, yn ôl fel roedd y cyhoedd yn pleidleisio, nes y dewiswyd Maria newydd yn y diwedd, a’r Maria honno oedd Connie Fisher.

    Y flwyddyn ganlynol fe welsom seren newydd eto, a gafodd ei ddewis i chwarae rhan Joseph yn y sioe gerdd Joseph and His Amazing Technicolor Dreamcoat. Enw’r Joseph hwnnw oedd Lee Mead.

    A’r tro yma roedd Andrew Lloyd Webber eisiau tri Oliver (fe fyddai’n rhy anodd disgwyl i un bachgen yn unig berfformio’r holl berfformiadau) ac un Nancy.
  2. Yn y clyweliadau cyntaf, roedd cannoedd o ferched yn llawn gobaith yn ymgeisio am ran Nancy. Holwch y myfyrwyr pa fath o gymeriad yr oedd y beirniaid yn chwilio amdani? (Dyma ddyfynnu Andrew Lloyd Webber: ‘a girl of the street and yet she has a heart of gold underneath it all. We’re looking for a girl who really is a rough diamond.’)

    Fesul un, roedd yn rhaid i’r merched ifanc ymadael. Roedd rhyw reswm bob tro, naill ai roedden nhw’n rhy ifanc, yn rhy neis, neu’n rhy debyg i rywun o’r dosbarth canol, neu’n syml iawn doedden nhw ddim yn gallu canu! Fe ddywedwyd wrth y rhai aeth drwodd i’r gystadleuaeth, ‘You could be a Nancy.’

    Wedyn roedd y deuddeg gobeithiol a ddewiswyd yn cael eu dysgu i ganu, i actio, i siarad, cerdded, a meddwl fel Nancy. Holwch y rhai fu’n gwylio’r rhaglen beth oedden nhw’n ei feddwl oedd y rhannau mwyaf anodd o’r hyfforddiant tra roedden nhw yn y ‘ty’? Pwy oedd y tasgfeistr mwyaf llym? Pwy oedden nhw’n ei feddwl fyddai wedi ennill?
  3. Nawr, gofynnwch i’r disgyblion ddychmygu ty gwahanol. Ty yw hwn yng ngwlad Israel yn y cyfnod roedd Iesu’n byw ynddo. Roedd deuddeg o ddynion wedi’u dewis, ond erbyn hyn roedd y nifer wedi gostwng i un ar ddeg. (Mae un dyn wedi lladd ei hun, oherwydd ei fod wedi bod yn gyfrifol am farwolaeth dyn diniwed, sef Iesu.)

    Tasg y dynion yma yw mynd â’r neges am Gristnogaeth i bob cwr o’r byd. Maen nhw wedi bod yn dilyn Iesu o Nasareth ers tair blynedd. Nawr, mae ganddyn nhw 50 diwrnod i ddod yn rhan o hyn, 50 diwrnod i fod yr un fath â Iesu, ac i fod yn Gristnogion!
  4. Gofynnwch i’r myfyrwyr wrando ar y cyfweliad sy’n dilyn, ac i feddwl a fydden nhw’n barod i dderbyn unrhyw rai o’r dynion yma pe bydden nhw’n cynnal clyweliadau ar gyfer rhan Cristion (sydd yn syml yn golygu tyst i Iesu, neu ddisgybl iddo)?

    Ar y trydydd diwrnod ar ôl i Iesu farw, roedd rhywbeth gwyrthiol iawn wedi digwydd, yn union fel roedd Iesu wedi dweud y byddai’n digwydd, er nad oedd y disgyblon wedi deall beth oedd Iesu wedi’i ddweud ar y pryd ychwaith. Roedd Iesu wedi codi o farw’n fyw. Roedd y disgyblion yn eistedd gydag ef mewn ystafell ar y llofft, allan o olwg yr awdurdodau crefyddol a Rhufeinig. Roedden nhw’n parhau i fod yn ofnus iawn, ac yn ofni mai nhw fyddai’n rhai nesaf i gael eu croeshoelio.

    Roedden nhw’n siarad â Iesu, yn bwyta, ac yn rhyfeddu at y pethau roedd yn ei ddweud fel yr aeth dros yr hen ysgrythurau gyda’r disgyblion a’u dysgu eto am wirionedd gair Duw.

    Ac fe ddywedodd Iesu wrthyn nhw, ‘Fe fyddwch yn dystion i mi. Nid: ‘Fe allech chi fod yn dystion i mi!’ ond: ‘Fe fyddwch yn dystion i mi!’

    Holwr: Felly, pwy oedd gennych chi yn y ty y tro yma, Andrew?

    ALW: Roedd gen i grwp addawol iawn. Roedd rhai â dawn gerddorol arbennig. Roedd ambell un yn siarad ac yn ymddwyn yn union fel y byddwn i’n dychmygu y byddai Nancy yn ei wneud, ac wedyn roedd rhai eraill, er mor ifanc, yn addas iawn i fod yn esgidiau Nancy. Roedd hi’n dasg anodd ddychrynllyd.

    Holwr: A beth amdanat ti, Iesu? Beth am y grwp sydd gen ti, nawr?

    Iesu: Wel, mae’n debyg y byddech chi'n meddwl amdanyn nhw fel pobl annysgedig, dynion garw ar y cyfan. Pysgotwyr yw rhai ohonyn nhw. Ac mae rhai, fel Mathew a oedd yn gasglwr trethi, yn bobl nad oedd yn boblogaidd iawn. Dydyn nhw ddim yn ddynion deniadol, i edrych arnyn nhw, ac mae Pedr ,er enghraifft yn gallu bod yn dipyn yn wyllt. A chaiff Iago ac Ioan eu galw’n Feibion y Daran.

    Holwr: Mmm. Diddorol! Beth am brofiad y cystadleuwyr, Andrew? Oedd nifer o’r merched wedi bod ar lwyfannau o’r blaen?

    ALW: O, oedd, roedd rhai ohonyn nhw wedi bod ar sawl llwyfan. Un wedi bod yn canu mewn opera, nifer wedi bod mewn cystadlaethau harddwch, a chystadlaethau canu yn lleol. Roeddwn i’n gweld bod llawer ohonyn nhw wedi cael rhywfaint o hyfforddiant yn y celfyddydau creadigol.

    Holwr: Da iawn, felly roedd gennych chi sylfaen dda i weithio arni, Andrew. Beth am yr un ar ddeg sydd gennych chi, Iesu?

    Iesu: Maen nhw’n bendant wedi treulio tair blynedd yn fy nilyn i ac yn fy ngwylio’n gweithio ac yn gwrando arnaf fi yn dysgu’r bobl. Maen nhw wedi rhoi cynnig arnyn nhw’u hunain hefyd ambell dro. Fe wnes i eu hanfon allan fesul dau, ac fe welson nhw eu bod yn gallu gwneud rhai o’r pethau y byddwn i’n eu gwneud. Roedden nhw’n mynd o gwmpas y wlad heb ddim ond y dillad oedd amdanyn nhw, ac eto roedden nhw’n cael digon o gynhaliaeth. Roedden nhw’n gweddïo dros bobl oedd yn wael, ac fe welson nhw’r rheini’n cael eu hiachau.

    Holwr: Dyna wych! Ac, Andrew, does dim amheuaeth nad oedd y merched yma i gyd o ddifrif, yn wir, yn dymuno ennill y gystadleuaeth a chael y rhan! Fe welodd pawb oedd yn gwylio’r gyfres y dagrau, a’r sgrechiadau o lawenydd pan oeddech chi’n dweud y  geiriau rheini, ‘Fe allech chi fod yn Nancy, neu You could be Nancy!’ Mae’n debyg, Iesu, y gallen ni dweud yr un peth am eich disgyblion chithau?

    Iesu: Wel na, nid yn union.

    Holwr: Pam? Beth ydych chi’n ei olygu wrth ddweud nid yn union?

    Iesu: Wel, maen nhw wedi’u hargyhoeddi ers tro mai fi yw’r Meseia, yr un sydd wedi ei addo iddyn nhw ers amser yr Hen Destament, ac maen nhw wedi rhoi’r gorau i bopeth er mwyn fy nilyn i. Ond fe ddaeth hynny i ben, fe wnes i wneud arweinwyr crefyddol y wlad yn ddig. A’n pobl ni ein hunain fu’n gyfrifol am fy anfon i gael fy nghroeshoelio, fel y gwyddoch chi. Yn y diwedd, fe wnaeth fy ffrindiau ffoi. Fe wnaeth hyd yn oed yr un cryfaf ohonyn nhw i gyd wadu ei fod yn fy adnabod. Erbyn hyn dydyn nhw ddim yn sicr iawn ydyn nhw eisiau bod yn ddisgyblion. Maen nhw’n ofnus iawn ac maen nhw wedi bod yn cuddio tu ôl i ddrysau sydd wedi’u cloi. Allwch chi weld bai arnyn nhw?

    Holwr: Yn wir! Na, wela' i ddim bai arnyn nhw. Ond nawr eich bod chi’n ôl, mae’n debyg y bydd popeth yn iawn eto.

    Iesu: Ond, dydw i ddim yn aros yma. Ac ni fydd bywyd yn hawdd i’m ffrindiau.

    Holwr: O felly, fyddan nhw’n hyfforddi’n galed iawn yn y ty dros yr wythnosau nesaf yma? Ydych chi’n mynd i orfod eu disgyblu’n llym? Fyddwn i ddim yn hoffi eich gwaith.

    Iesu: Na, fy ffrind, nid felly’n union y bydd hi. Nid dyna’r ffordd y bydd pethau’n gweithio!
  5. Wnaeth pethau weithio i’r disgyblion? Gawson nhw’u gwneud yn dystion i Iesu?

    Gofynnwch i chwech o fyfyrwyr ddarllen y rhannau canlynol o lyfr yr Actau, y llyfr yn y Beibl sy’n adrodd  hanes yr eglwys Gristnogol gynnar.

    Darllenydd 1: A thra oedd gyda hwy, gorchmynnodd iddynt beidio ag ymadael o Jerwsalem, ond disgwyl am yr hyn a addawodd y Tad. ‘Fe glywsoch am hyn gennyf fi .... Ond fe dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear.’

    Darllenydd 2: Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle … a llanwyd hwy oll â’r Ysbryd Glân.

    Darllenydd 3: Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw, tua thair mil o bersonau.

    Darllenydd 4
    : Wrth weld hyder Pedr ac Ioan, a sylweddoli mai lleygwyr annysgedig oeddent, yr oeddent yn rhyfeddu.

    Darllenydd 5: Y diwrnod hwnnw dechreuodd erlid mawr ar yr eglwys yn Jerwsalem. Gwasgarwyd hwy, pawb ond yr apostolion, trwy barthau Jwdea a Samaria ..... Am y rhai a wasgarwyd, teithiasant gan bregethu’r gair.

    Darllenydd 6: Yn Thessalonica ... cenfigennodd yr Iddewon, ac wedi cael gafael ar rai dihirod o blith segurwyr y dref, a’u casglu’n dorf, dechreuasant greu terfysg yn y ddinas ... a cheisio dod â Paul a Silas allan gerbron y dinasyddion ... llusgasant rai credinwyr o flaen llywodraethwyr y ddinas, gan weiddi,. ‘Y mae aflonyddwyr yr Ymerodraeth wedi dod yma hefyd!’

Amser i feddwl

Yn aml, fe fyddwn ni’n ceisio bod fel Iesu, gan ddefnyddio ein cryfder a’n hymdrechion ein hunain - ac yn methu’n aml! Pa wahaniaeth y mae stori’r Pentecost yn ei wneud i ni heddiw?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n gwybod beth yw ein gwendidau a’n diffyg nerth yn aml i wneud yr hyn sy’n iawn.
Diolch dy fod ti wedi helpu’r un ar ddeg dyn i fod yn dystion i ti ledled y byd.
Diolch dy fod ti, hyd heddiw, yn parhau i helpu miloedd o bobl gyffredin annysgedig, yn ddynion a merched, genethod a bechgyn, i fod yn ddisgyblion i ti.

Amen.

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>