Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Ofn a Dewrder


gan Jan Edmunds


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Awgrymu mai'r bobl ddewraf yw’r rhai sydd yn ofnus ond sy’n dal i allu gwneud pethau dewr er hynny.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dywedwch ein bod i gyd, pob un ohonom, wedi bod yn ofnus ar ryw adeg yn ein bywydau, ac mae hynny’n beth hollol arferol. Mae ofn gwahanol bethau ar wahanol bobl. Mae rhai pobl ofn sefyllfaoedd newydd, fel newid ysgol neu newid athrawon. Mae rhai ofn y tywyllwch. Mae rhai yn ofni profion ac arholiadau.
  2. Gwahoddwch y plant i wrando ar  y stori sydd gennych chi, ac i feddwl am beth mae’r stori’n ddweud am fod yn ofnus.

    Roedd Ianto yn fachgen bach swil ac ofnus. Roedd arno ofn llawer o bethau: taranau, gwynt, cwn ac anifeiliaid eraill, yn enwedig gwartheg. Fe fyddai’r bechgyn eraill yn yr ysgol yn ei bryfocio, ond doedd hynny ddim yn ei boeni; doedd Ianto byth yn galw enwau ar Ben am fod ganddo wallt gwahanol i bawb arall, nac yn gwneud sbort am ben Deio am nad oedd yn gallu siarad yn iawn. Fe wyddai Ianto nad oedd y bechgyn yn gallu gwneud llawer am y peth, mwy nag oedd ef yn gallu helpu ei hun i ddod i ben â’i ofnau.

    Roedd dosbarth Ianto yn gweithio ar brosiect ar ffermio, ac fe lwyddodd ei rieni i’w berswadio i fynd gyda gweddill plant y dosbarth ar ymweliad addysgol â fferm. Roedd Ben a Deio yn gwybod pa mor ofnus yr oedd Ianto, ac fe feddyliodd y ddau y byddai hyn yn gyfle da i’w bryfocio.

    Cafodd y dosbarth ei rannu’n grwpiau, a’u tasg oedd darganfod pa anifeiliaid oedd yn cael eu cadw ar y fferm a pha gnydau oedd yn cael eu tyfu yno. Rhoddwyd rhybudd i’r plant beidio â mynd i mewn i’r cae lle’r oedd y gwartheg yn pori, gan nad oedd y ffermwr eisiau iddyn nhw adael y giât ar agor rhag ofn i’r anifeiliaid ddianc. Gan wybod fod ar Ianto ofn y gwartheg, fe fu Ben a Deio’n fechgyn drwg, ac fe wnaethon nhw arwain Ianto trwy’r giât lle roedden nhw’n meddwl eu bod wedi gweld gyr o wartheg.

    Ond doedd dim llawer o wartheg i’w gweld yn y cae, dim ond un. ‘Gad i ni ei ddychryn,’ meddai Ben. ‘Edrych, Ianto, mae yna darw yn y cae yma! Mae’n dod y ffordd yma!’ meddai Deio.

    A’r funud honno fe wnaethon nhw sylweddoli, yn wir, mai tarw oedd yr anifail, ac roedd yn dod ar ei union i’w cyfeiriad! Roedd Ianto wedi dychryn gormod i redeg, ac fe aeth yn syth at goeden oedd yn ymyl, tra rhedodd y ddau arall yn ôl tua’r giât.. Rhedodd y tarw ar ôl Ianto o gwmpas y goeden, yn hytrach na dilyn y ddau arall ar draws y cae agored, lle byddai’n hawdd wedi gallu cael y blaen arnyn nhw.

    Erbyn hynny roedd yr athro a’r plant eraill yn gallu clywed y cynnwrf, ac fel roedd Ben a Deio yn cyrraedd y giât, a diogelwch, roedden nhw’n gallu gweld Ianto’n cadw’r tarw’n brysur tra roedd y ddau arall yn cael cyfle i ddianc. Daeth y ffermwr a’i gi yno, ac fe wnaethon nhw arwain y tarw i gae arall. Ac o’r diwedd, roedd Ianto’n ddiogel.

    Nodwyd bod Ianto’n arwr y diwrnod hwnnw, gan ei athro a gweddill y dosbarth. Roedd Ianto’n cyfaddef  fod arno ormod o ofn i ddianc. ‘Paid â phoeni,’ meddai’r athro. ‘Mae llawer o bobl yn ofnus ar adegau, ond eto maen nhw'n dod o hyd i nerth a hyder i wneud rhywbeth dewr pan fydd angen hynny. Trwy redeg o  gwmpas y goeden, fe wnest ti arbed Ben a Deio rhag cael eu hanafu gan y tarw.’

    Teimlai Ianto’n well o lawer ar ôl hynny. Roedd yn fachgen dewr wedyn, ac yn llawer mwy hyderus. Er bod gwallt Ben yn dal yn wahanol, roedd Ianto’n ei hoffi felly. O dipyn i beth roedd Deio’n dod i siarad yn well, ac fe deimlodd Ianto nad oedd mor ofnus o bethau erbyn hyn. Nid oedd â chymaint o ofn y taranau na’r gwynt, na chwn na gwartheg. Teirw? Wel, roedd yn gobeithio na fyddai’n cwrdd â’r un tarw eto am amser hir iawn!
  3. Doedd Ianto ddim wedi bwriadu bod yn arwr, ond roedd wedi gwneud rhywbeth oedd yn helpu rhywun arall ar y pryd. Os yw’r amser yn caniatáu, fe allech chi drafod y gerdd sy’n dilyn.

    Goresgyn ofnau
    gan Jan Edmunds

    Ambell dro, fyddwn ni ddim yn teimlo’n ddewr pan fyddwn ni wedi cael syndod,
    Pan fyddwn ni’n wynebu rhywbeth sy’n newydd i ni, a ninnau ddim yn gwybod.
    Fe fyddwn ni’n ofni pethau o’n cwmpas, gwynt a glaw neu fellt a tharanau,
    Neu’n ofni’r tywyllwch wedi inni ddiffodd y golau.
    Rhaid i ni ystyried pam rydyn ni’n teimlo fel hyn weithiau,
    Cofiwch fod y rhai dewraf yn gallu dod dros eu hofnau.
    Weithiau bydd rywbeth yn digwydd - ac yna heb aros i feddwl -
    Rydyn ni’n dod o hyd i nerth ac yn gallu goresgyn y cwbl,
    Ac mae ‘dewrder’ yn ennill, a ninnau’n cael ein synnu,
    Rydyn ni’n goresgyn y broblem ac mae’r ofn yn diflannu.
Hwre!

Amser i feddwl

Myfyrdod

Darllenwch neu ailddarllenwch y gerdd, a gofynnwch i’r plant feddwl amdani - ydi’r gerdd yn rhan o’u profiad nhw?

Gweddi

Annwyl Dduw,

Bydd gyda ni heddiw yn yr ysgol, yn ein gwaith ac yn ein chwarae.

Gwna ni yn ddigon dewr i oresgyn y pethau hynny sy’n codi ofn arnom ni,
pethau dydyn ni ddim yn eu deall.

Amen.


Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>