Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Pobl Gyffredin

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Dangos y gall pobl gyffredin leisio’u barn ynghylch anghyfiawnder, a gwneud gwahaniaeth.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth        

  1. Allwch chi ddychmygu adeg: pan oedd pobl ddu ddim yn cael eistedd ond mewn rhai seddi neilltuol yng nghefn bws? Pan oedd pobl ddu ddim yn cael pleidleisio mewn etholiadau? Allwch chi ddychmygu tref lle'r oedd yn rhaid i blant gwyn a phlant du fynd i ysgolion ar wahân? Ac mewn dawnsfeydd hefyd, allwch chi ddychmygu pobl ifanc ddu yn cael eu gwahanu oddi wrth y bobl ifanc eraill gan linell ar hyd y llawr ar ganol yr ystafell?
  2. Hanner can mlynedd yn ôl, yn nhaleithiau deheuol America, dyna fel roedd hi. Gadewch i ni sôn am dri o bobl gyffredin oedd â digon o ddewrder i godi eu lleisiau yn erbyn sefyllfa fel hon.
  3. Fe benderfynodd clerigwr cyffredin, oedd yn fab i weinidog, a’i fam yn athrawes, drefnu protestiadau heddychol ac ymgyrchoedd boicotio yn erbyn gwahaniaethu. Dyma ddyn cyffredin, du ei groen, a fu’n ddigon dewr i godi ei lais yn erbyn yr anghyfiawnder a welai o’i gwmpas. Fe gyflwynodd y dyn cyffredin hwn areithiau arbennig iawn, gyda rhai llinellau adnabyddus iawn fel, ‘Mae gen i freuddwyd .... Neu, i ddyfynnu ei eiriau yn Saesneg: ‘I have a dream that one day down in Alabama … little black boys and black girls will be able to join hands with little white boys and white girls as sisters and brothers.’

    Martin Luther King oedd y dyn yma, enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 1964, a lofruddiwyd yn 1968, ac yntau’n ddim ond 39 oed.
  4. Yn nhref Montgomery, fel yn y rhan fwyaf o lefydd yn ne’r Unol Daleithiau, roedd y bysiau â seddi neilltuol i bobl ddu eistedd arnyn nhw. Doedden nhw ddim yn cael eistedd yn y rhan o’r bws lle byddai pobl wyn yn eistedd. Ar y diwrnod cyntaf o fis Rhagfyr 1955, roedd gwraig o’r enw Rosa Parks yn mynd adref o’i gwaith. Roedd yn gweithio mewn siop fawr yn Montgomery Fair, ac aeth ar yr un bws ag arfer. Ac, fel arfer, fe eisteddodd yn un o’r seddau oedd wedi’u neilltuo ar gyfer y bobl ddu, yng nghefn y bws. Ond y noson honno roedd y bws yn llawn iawn, a chafodd Rosa orchymyn gan yrrwr y bws i godi o’i sedd er mwyn i un o’r bobl wyn gael lle i eistedd. Pan wrthododd hi wneud hynny, cafodd ei harestio gan yr heddlu.

    Yn dilyn hyn, o’r 5ed o Ragfyr y flwyddyn honno ymlaen, mewn protest yn erbyn yr arwahanu hwn ar y bysiau, penderfynodd y bobl ddu wrthod defnyddio’r bysiau nes byddai’r holl deithwyr yn cael eistedd ar unrhyw seddau yn y bysiau. Am 382 o ddyddiau, fe gerddodd 17,000 o bobl ddu Montgomery i’w gwaith. Yn y diwedd, roedd  cwmni’r bysiau’n dioddef oherwydd y diffyg enillion, ac oherwydd penderfyniad a wnaed gan y Supreme Court fe orfodwyd y Montgomery Bus Company i dderbyn bod rhaid gadael i’r bobl integreiddio.

    Dyma wraig gyffredin a ddangosodd ddewrder anhygoel. Daeth y wraig hon yn enwog fel mam y mudiad hawliau sifil, Rosa Parks, ‘Mother of the Civil Rights Movement’.
  5. Mae’r ddwy enghraifft yma’n hanesion cwbl wir, yn hanesyddol gywir. Dydi’r drydedd enghraifft ddim yn ffaith hanesyddol, mae’n rhan o’r ffilm a ryddhawyd yn y flwyddyn 2007, sef Hairspray. Y lleoliad yw Baltimore, 1962, ac mae merch ifanc gyffredin o’r enw Tracy Turnblad, wrth ei bodd gyda’r rhaglen The Corny Collins Show. Mae Tracy’n mynd am glyweliad i geisio cael rhan yn y sioe, ac mae’n cael ei derbyn - ei breuddwyd wedi dod yn wir! Ond mae’n sylwi ar ba mor annheg y mae ei ffrindiau sy’n ddawnswyr, ond sy’n ddu, yn cael eu trin. Ac mae’n sylweddoli bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth. Mae’n dweud wrth ei thad ei bod yn meddwl ei bod wedi bod yn byw mewn rhyw fath o swigen. Dyma’i geiriau, ‘I think I've kind of been in a bubble … thinking that fairness was gonna just happen. It's not. People like me are gonna have to get up off their fathers' laps and go out and fight for it.’ Ac mae’r ferch ifanc yn y ffilm yn peri i integreiddiad anhygoel ddigwydd.

Amser i feddwl

Pwy wnaiff godi ei lais yn erbyn llafur plant?

Pwy wnaiff sefyll yn erbyn bwlio?

Pwy wnaiff sefyll i fyny a herio hiliaeth?

Pwy wnaiff siarad ar ran y rhai hynny sydd heb fodd i’w llais gael ei glywed?

Saib

 

Nid fi, mae hynny’n sicr.

Pwy fyddai’n gwrando arnaf fi?

Does dim yn arbennig amdanaf fi.

Fyddai dim byd y byddwn i’n ei ddweud yn gwneud unrhyw wahaniaeth.

Saib

 

Pobl gyffredin ydym ni.

Nid dim ond digwydd y mae chwarae teg.

Mae angen i bobl gyffredin ddarganfod eu llais.

Gwnewch safiad. Siaradwch yn blaen. Gwnewch wahaniaeth.

Heddiw.

Cerddoriaeth

 ‘You can’t stop the beat!’ (original soundtrack from the film Hairspray)

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>