Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

MERTHYRU’R BAB

(9 Gorffennaf 2012)


gan Jenny Tuxford 

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Nod 

Edrych ar ffydd yng nghyd-destun y grefydd Baha’i.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth 

  1. Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i ddweud stori wrthyn nhw am ddyn dawnus ac anghyffredin iawn a gysegrodd ei fywyd  Dduw ac i helpu pobl eraill i fyw bywyd gwell. Ei enw oedd Siyyid Ali Muhammad, ac roedd yn un o ddisgynyddion y Proffwyd Muhammad. 
  2. Roedd Siyyid yn byw 200 mlynedd yn ôl, bron, mewn gwlad o’r enw Persia, gwlad sy’n cael ei galw’n Iran erbyn heddiw (tafluniwch y map i ddangos i’r plant ble mae Iran). Mwslimiaid oedd pobl Persia. Roedden nhw’n credu mai’r Proffwyd Muhammad oedd y mwyaf o’r proffwydi, a’r un olaf.

    Pan oedd Siyyid Ali yn ddyn ifanc, roedd yn gweithio fel masnachwr, hynny yw, un a oedd yn prynu a gwerthu pethau, ond ei wir ddiddordeb oedd astudio crefydd. Fe newidiodd ei enw i ‘y Bab’, sef gair Arabeg sy’n golygu ‘y Fynedfa’. 

    Roedd y Bab yn credu y dylai’r ffordd yr oedd pobl yn byw eu bywydau fod yn seiliedig ar gariad a thosturi. Ei unig uchelgais oedd gwneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo.
  3. Roedd gan y Bab bersonoliaeth ryfeddol ac roedd yn siaradwr gwych. Fe ddywedai pobl ‘bod y mynyddoedd a’r dyffrynnoedd yn adleisio mawredd ei lais’. Roedd pobl yn tyrru yn eu miloedd i wrando arno yn pregethu ei neges anghyffredin. Doedd dim llawer o gariad a heddwch ymysg y bobl yng ngwlad Persia ar y pryd! 

    Yn fwy na hynny, nid dim ond siarad gyda’r bobl yr oedd y Bab yn ei wneud – roedd yn gallu gwrando arnyn nhw, gwrando ar eu problemau ac yn gallu ateb eu cwestiynau dyrys. 
  4. Yn fwy rhyfeddol fyth, roedd y Bab yn dweud wrth y bobl mai ef oedd y Fynedfa i fynd drwyddi at broffwyd newydd cuddiedig. Roedd yn dweud bod rhywun, mwy rhyfeddol nag ef ei hun hyd yn oed, ar ei ffordd at y bobl. Roedd hyn yn newyddion ardderchog, Roedd rhywun arbennig yn mynd i ddod, rhywun a oedd yn llawer mwy nag ef, ac fe fyddai’r rhywun hwnnw’n fodd i ddechrau oes o heddwch a chyfiawnder. Anhygoel! Roedd gwir angen tipyn o heddwch a chyfiawnder ar y bobl ym Mhersia.

    Dywedodd y Bab wrth y bobl, ‘Pan fydd yr Athro hwn, sydd wedi ei addo i ni, yn cyrraedd - derbyniwch ef a dilynwch ef.’
  5. Ond, a oedd pawb yn hapus fod y Bab yn dweud wrthyn nhw fod proffwyd mawr ar ei ffordd atyn nhw, a bod eisiau iddyn nhw ei ddilyn? Na! Dim o gwbl! Cofiwch fod y Mwslimiaid yn credu mai Muhammad oedd negesydd mawr olaf Duw. Felly, doedd dim posib i neb arall fod yn well na Muhammad a chymryd ei le.

    Roedd rhai arweinwyr ac athrawon Mwslimaidd, nid yn unig yn anhapus am hyn, ond yn hollol gynddeiriog - gymaint felly nes iddyn nhw daflu’r Bab i garchar. Roedden nhw’n credu ei fod yn cael gormod o ddylanwad ar y bobl. Roedd ganddo ddisgyblion a oedd yn crwydro ledled y wlad ym Mhersia yn lledaenu ei neges.
  6. Yn drist iawn, roedd disgyblion y Bab yn cael eu harteithio a’u lladd  am yr hyn roedden nhw’n ei bregethu. Ac ar ôl dim ond chwe blynedd o ledaenu ei neges fe gafodd y Bab ei ddedfrydu i farwolaeth.

    Ar 9 Gorffennaf 1850, pan oedd yn 31 oed, cafodd y Bab ei arwain drwy strydoedd llawn pobl i fan neilltuol lle’r oedd i fod i gael ei ladd gan sgwad saethu. Daeth tyrfa o tua 10,000 o bobl i’w weld yn cael ei saethu. Er syndod i bawb, cyn i’r sgwad ddechrau saethu, fe ddaeth un o ddilynwyr ifanc y Bab ymlaen a gofyn am gael ei ladd gydag ef. Rhwymwyd y ddau gyda’i gilydd â rhaffau.

    Cofnodwyd bod 750 gwn wedi cael eu defnyddio i saethu at y ddau ddyn. Ond, er syndod mawr i bawb, ar ôl i’r mwg o’r gynnau glirio, fe welodd pawb fod y dyn ifanc heb ei anafu o gwbl a bod y Bab wedi diflannu. Dim ond y rhaffau oedd wedi eu difrodi. Roedd y rheini’n garpiau mân.

    Trefnwyd bod dynion yn mynd i chwilio am y Bab ar unwaith, ac ymhen amser fe ddaethon nhw o hyd iddo - yn ôl yn ei gell yn y carchar.

    Ar ôl y fath wyrth, mae’n hawdd credu nad oedd y sgwad saethu eisiau rhoi ail gynnig arni, felly fe alwyd ar dîm arall o ddynion. Y tro hwn, fe wnaethon nhw lwyddo, fe laddwyd y ddau - y Bab a’r dyn ifanc - ond, yn rhyfeddol, doedd wynebau’r ddau ddim wedi eu hanafu o gwbl.

    Taflwyd eu cyrff i’r ffos y tu allan i’r ddinas. Yn ddiweddarach, fe aeth dilynwyr y Bab i nôl y ddau gorff a mynd a nhw i’w claddu ar fynydd Carmel yng ngwlad Israel. Mae’r man lle claddwyd y Bab, erbyn hyn, yn fan cysegredig, ac mae’n lle y mae llawer o bobl yn mynd yno ar bererindod.
  7. Fe ddaeth arweinydd newydd i’r wlad ar ôl hynny. Fe bregethai hwnnw am ffydd a oedd yn seiliedig ar athrawiaethau’r Bab, ffydd sy’n pwysleisio undod pob crefydd, a pha mor bwysig yw ceisio heddwch ac unoliaeth yn y byd. Enw’r ffydd hon yw’r Baha’i. 
  8. Bob blwyddyn, ar 9 Gorffennaf, mae pobl sy’n dilyn y ffydd Baha’i yn cofio am yr hyn a ddigwyddodd adeg y bu’r Bab farw. Mae’n ddiwrnod o orffwys iddyn nhw, ac yn ddiwrnod o weddïo. 

    Dangosodd y Bab a’i ddilynwyr ddewrder mawr. Fel Iesu, fe dalodd y Bab gyda’i fywyd oherwydd ei neges am gariad Duw.

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, a byddwch yn ddiolchgar am gael byw mewn cymuned sy’n gynhwysol ac yn oddefgar.

(Saib)

Gweddi Baha’i

O Arglwydd, fy Nuw,

arwain fi, gwarchod fi.

Goleua lamp fy nghalon.

Arwain fi, gwarchod fi.

Gwna fi yn seren ddisglair.

Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>