Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Dal yn Gadarn


Stori’r Marchog


gan Jan Edmunds


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Awgrymu mai’r bobl ddewraf yw’r rheini sy’n ofnus, ond sydd er hynny’n gwneud pethau dewr, er gwaethaf popeth.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Mae’r stori heddiw am un o Farchogion Arthur, chwedl o’r Oesoedd Canol, ganrifoedd lawer yn ôl.

    Dewisol: Fe allech chi gynnal trafodaeth fer am rai sy’n cael eu hurddo’n farchog, ac arwyddocâd y Ford Gron. Fe allai hynny helpu’r plant i ddeall y stori’n well.
  2. Adroddwch y stori gan ddefnyddio’r fersiwn sydd yma, neu ei hadrodd yn eich geiriau eich hun.

    Flynyddoedd lawer yn ôl, yn llys y Brenin Arthur, roedd dyn ifanc o’r enw Gilfaethwy yn byw. A’r dyddiau hynny, roedd y dynion ifanc oedd eisiau cael bod yn Farchogion yn gorfod profi eu bod yn onest ac yn ddewr. Roedd Gilfaethwy yn awyddus iawn i brofi ei fod yn ddigon dewr a gonest i fod yn farchog, a’i uchelgais fawr oedd ennill yr ysbardunau a fyddai’n rhan o’i arfwisg fel marchog. Ei waith yn Llys y Brenin Arthur oedd cadw arfwisg ei feistr a’i arfwisg ei hun mewn cyflwr perffaith, ac roedd bob amser yn gwneud ei orau yn ei waith.

    Un noson fe glywodd rhywun swn ceffyl yn carlamu dros y bont godi oedd yn arwain i mewn i’r castell. Yno roedd negesydd wedi dod i ofyn i’r Brenin Arthur a’i farchogion am help. Roedd Marchogion Drwg wrthi’n ymosod ar bentref yn ymyl, ac roedd y marchogion drwg rheini’n elynion i’r brenin. Heb oedi dim galwodd Arthur ar ei farchogion, a rhoi gorchymyn iddyn nhw baratoi eu hunain er mwyn mynd i ymladd yn erbyn y marchogion drwg.

    Rhoddodd y brenin gyfarwyddyd i’w ddilynwyr frwydro yn erbyn y rhain oedd yn gwneud drwg fel hyn. Ond roedd yn mynnu bod un o’i ddynion yn aros ar ôl i warchod y castell a’r bobl eraill oedd ar ôl yno. Gilfaethwy gafodd ei ddewis. Gwnaeth Arthur iddo addo na fyddai, ar unrhyw gyfrif, yn gadael y castell, nac yn gadael i neb o’r tu allan ddod i mewn. Roedd y dyn ifanc yn siomedig iawn nad oedd yn cael mynd i ymladd gyda’r lleill, ond roedd yn ffyddlon i’w feistr, y brenin, ac fe addawodd y byddai’n ufuddhau. Roedd yn gwybod beth oedd yn rhaid iddo’i wneud. Er ei fod yn anfodlon iawn, fe arhosodd yn y castell, tra roedd y marchogion yn carlamu oddi yno i achub y pentrefwyr.

    Yn oriau mân y bore, fe ddaeth merch ifanc at giât y castell. Fe ddywedodd wrth Gilfaethwy bod y Brenin Arthur a’i farchogion mewn perygl a bod yn rhaid iddo fynd i ymuno â nhw. Roedd Gilfaethwy ar dân eisiau cael mynd i’w helpu. Ond fe gofiodd ei fod wedi addo i’w feistr y byddai’n aros yn y castell, ac fe feddyliodd y gallai’r ferch hon fod yn ei dwyllo, o bosib, ac yn ei ddenu i adael y castell. Felly, fe wrthododd wrando arni a’i hanfon oddi yno. Cadwyd giatiau’r castell ar gau yn dynn.

    Ymhen ychydig wedyn, fe glywodd Gilfaethwy un o’r Marchogion Drwg yn galw arno o’r tu draw i’r ffos oedd oddi amgylch y castell. Roedd yn galw arno i fynd i ymladd yn ei erbyn. Eto, roedd Gilfaethwy yn cael ei demtio i fynd, ac roedd yn awyddus i wynebu’r her. Ond eto, fe gofiodd am eiriau ei feistr, a gwrthododd fynd. Galwodd y Marchog Drwg Gilfaethwy yn llwfrgi a charlamu oddi yno.

    Yn olaf, fe ddaeth hen wraig oedd â golwg dlawd a thruenus arni, fel cardotyn, at giât  y castell, yn begio am fwyd a lloches. Roedd Gilfaethwy yn ddyn caredig, ac yn naturiol roedd yn teimlo trueni dros yr hen wraig. Ond eto, cofiodd am rybudd ei feistr, ac fe wyddai y gallai hyn eto fod yn gynllun gan rywun i wneud iddo agor y giât. Felly, fe wrthododd roi caniatâd i’r hen wraig fynd i mewn. Rhegodd honno, a phoeri, a mynd yn ei blaen.

    O’r diwedd, fe ddaeth y Brenin Arthur a’i farchogion yn ôl, wedi iddyn nhw lwyddo i achub y pentref a choncro’r Marchogion Drwg. Galwodd y brenin ar ei farchogion a’i ysweiniaid at y Ford Gron a’u hanrhydeddu am wneud mor dda. Yna, fe alwodd ar Gilfaethwy i ddod ymlaen ato. Daeth y brenin a chlustog felfed ato, ac ar y glustog roedd ysbardunau arian. Cyflwynodd yr ysbardunau arian i Gilfaethwy, oherwydd bod ei ffyddlondeb, a’r ffordd y gwnaeth ymddwyn, wedi profi i’r brenin ei fod yn gallu dal yn gadarn a chywir iddo. Roedd yn haeddu cael bod yn un o farchogion y Ford Gron. Yn ôl y brenin, y diwrnod hwnnw, Gilfaethwy oedd yr un oedd wedi cael y gwaith anoddaf un.
  3. Gofynnwch i’r plant feddwl am eiriau i ddisgrifio sut un oedd y marchog. Gwerthfawrogwch bob cynnig a cheisiwch gynnwys geiriau a disgrifiadau fel: gonest, ffyddlon, cadarn, dim yn newid ei feddwl, gwneud yr hyn roedd wedi addo’i wneud, cadw at ei air, bod yn ddibynadwy. A yw’r pethau hyn yn bethau y dylem ni fod yn meddwl amdanyn nhw heddiw, a sut y gallwn ni ddangos y rhinweddau yma yn ein bywydau o ddydd i ddydd?

Amser i feddwl

Myfyrdod

Er bod Gilfaethwy wedi cael ei demtio i wrando ar y wraig ifanc, y Marchog Drwg, a’r hen wraig, fe gadwodd ei air i’w feistr a dal yn gadarn a ffyddlon. Gadewch i ni obeithio y byddwn ninnau, pan fyddwn ni’n cael ein temtio i wneud rhywbeth rydyn ni’n ei deimlo sydd ddim yn iawn, yn gallu cael y nerth a’r dewrder i ddweud na.

Gweddi

Adroddwch weddi’r Arglwydd gyda’ch gilydd. Pwysleisiwch mai dyma’r weddi y mae Cristnogion wedi’i defnyddio ers dechreuad y ffydd Gristnogol, yn cynnwys yr adeg pan oedd y marchogion y clywsom eu hanes heddiw yn byw, ac mai’r un yw’r weddi hyd heddiw.

Amen.


Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>