Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Y Senario Gwaethaf

gan Stuart Kerner

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 4/ Cyfnod Allweddol 5

Nod

Ystyried sut y gall ofn ein rhwystro rhag byw bywyd llawn ac iach.

Paratoad a deunyddiau

 Gwasanaeth        

  1. Eglurwch i’ch cynulleidfa yr hoffech chi ddarllen dwy stori y daethoch chi o hyd iddyn nhw yn y papurau newydd.  Ychwanegwch eich bod wedi sylwi bod y ddwy stori yn rhai digon brawychus yn eu ffyrdd eu hunain, a bod y ddwy stori hefyd â rhywbeth yn gyffredin ynddyn nhw.

    Stori 1

    Roedd gwr a gwraig o Newcastle ar eu gwyliau yn Sbaen. Un diwrnod, pan ddaethon nhw yn ôl i’w hystafell yn y gwesty, fe wnaethon nhw sylweddoli bod rhywun wedi bod i mewn yn yr ystafell. Er bod y ddau yn teimlo braidd yn annifyr wrth feddwl bod rhywun wedi bod yno’n chwilota trwy eu pethau, roedden nhw’n falch iawn o ddeall nad oedd dim wedi’i ddwyn o’r ystafell. Fe wnaethon nhw fwynhau gweddill eu gwyliau heb bryderu rhagor am y digwyddiad.

    Hynny yw, nes yr aethon nhw adref a chael argraffu’r lluniau roedden nhw wedi’i tynnu gyda’r camera bach tafladwy roedden nhw wedi’i brynu i dynnu lluniau o’u gwyliau. Yng nghanol y lluniau ohonyn nhw ar y traeth ac ar eu teithiau o gwmpas yr ardal, roedd un llun doedden nhw ddim wedi’i dynnu. Llun o ddau ddieithryn yn eu hystafell oedd y llun. Neu i fod yn fwy manwl, llun dau ben ôl dieithr. Ac yn waeth na hynny, beth oedd wedi’i osod rhwng bochau’r ddau ben ôl oedd brwshys dannedd y gwr a’r wraig.

    Stori 2

    Mae rhai sy’n teithio ar fusnes yn America yn cael eu rhybuddio am gang o droseddwyr sy’n gweithredu yn y prif ddinasoedd yno, ac sydd wedi bod wrthi yn ddiweddar yn New Orleans, yn Unol Daleithiau America.

    Man cychwyn y drosedd yw pan fydd y trafeiliwr yn mynd i lolfa’r gwesty i gael diod ar ddiwedd ei ddiwrnod gwaith, ac mae dieithryn yn dod ato ac yn ymuno ag ef i sgwrsio ac yn cynnig prynu diod iddo. Y peth olaf mae’r trafeiliwr hwnnw’n ei gofio yw sipian y ddiod, a’r peth nesaf mae’n deffro yn ei ystafell yn y gwesty, yn gorwedd mewn bath llawn o ddwr a rhew. Mae nodyn wedi’i ysgrifennu a’i osod ar y wal o’i flaen, yn ei rybuddio rhag codi o’r bath, dim ond ffonio’r gwasanaethau achub.

    Mae ffôn ar fwrdd bach yn ymyl y bath, i’r trafeiliwr alw’r ambiwlans. Mae’n galw’r gwasanaethau brys, sydd erbyn hyn yn gyfarwydd iawn â derbyn galwadau o’r fath, ac sy’n gyfarwydd erbyn hyn â throseddau o’r fath. Mae’r aelod o’r gwasanaethau brys sydd ar ben arall y ffôn yn gofyn i’r trafeiliwr orwedd yn llonydd, ac yn ofalus iawn, i deimlo a oes tiwb yn sticio allan o waelod ei gefn. Mae’r trafeiliwr yn dod o hyd i’r tiwb ac yn ateb, ‘Oes.’

    Mae’r un sydd ar ben arall y ffôn yn ei rybuddio eto rhag symud ac yn dweud wrtho bod yr ambiwlans ar ei ffordd. Mae’r un a atebodd y ffôn yn gwybod bod un os nad dwy aren y trafeiliwr wedi cael eu dwyn o’i gorff tra roedd dan ddylanwad rhyw gyffur a roddwyd yn ei ddiod - wedi’u dwyn i’w gwerthu ar gyfer llawdriniaeth  trawsblaniad anghyfreithlon.
  2. Os adroddwch chi’r storïau hyn yn ofalus, mae’n debyg y cewch chi ymateb o chwerthiniad nerfus, neu o fraw, gan eich cynulleidfa. Atgoffwch eich cynulleidfa fod rhywbeth yn gyffredin yn y ddwy stori. Efallai y gallech chi ofyn am awgrymiadau.

    Wedi i’ch cynulleidfa geisio awgrymu cysylltiadau posib rhwng y ddwy stori arswydus yma, dywedwch wrthyn nhw mai’r prif beth sy’n gyffredin rhyngddyn nhw yw mai celwydd yw’r ddwy. Does dim un o’r storïau’n wir!
  3. Mae’r storïau hyn yn bethau rydyn ni’n eu galw’n ‘chwedlau modern’ neu’n ‘urban myths’– storïau arswyd ydyn nhw sy’n cael eu pasio o’r naill i’r llall ac yn cael eu hymestyn bob tro y maen nhw’n cael eu hailadrodd. Rhyw fath o lên gwerin ydyn nhw, storïau sy’n cael eu hadrodd gyda’r bwriad o frawychu’r un sy’n gwrando neu beri gofid iddo. Ac ers pan mae mynediad i’r rhyngrwyd wedi dod yn beth cyffredin, mae storïau o’r fath wedi bod ar gynnydd.

    Yn wythnosol, mae mwy a mwy o storïau newydd a brawychus yn cael eu hanfon i filiynau o bobl trwy gyfrwng yr ebost – yn hollol anwir, ond er hynny’n peri gofid. Maen nhw’n storïau sy’n ymwneud â firysau, gweithgareddau troseddol a digwyddiadau treisgar wedi’i cyflawni yn erbyn dioddefwyr di-feddwl-ddrwg. Mae’r papurau newydd yn cael gafael arnyn nhw, ac maen nhw’n argraffu llawer o storïau sydd ddim yn wir hefyd, gan honni eu bod yn ffaith, ac mae hynny’n creu rhagor o  paranoia.

    Yn ein hisymwybod mae’n debyg ein bod i gyd yn sylweddoli mai celwydd yw stori o’r fath, neu o leiaf stori wedi’i hymestyn tu hwnt i bob rheswm. Ond, mae’n hawdd iawn i’r meddwl dynol amlhau ein hofnau, a pheri i ni ddychmygu pob math o bethau drwg a allai ein niweidio.
  4. Fe allech chi awgrymu mai un enghraifft o hyn yw’r ffordd mae rhieni yn mynnu danfon eu plant i’r ysgol yn y car, am eu bod yn pryderu y gallai rhywbeth ddigwydd i’w plant at ar y ffordd i’r ysgol neu ar y ffordd adref - rhywbeth fel cael eu cipio neu eu cam-drin gan ddieithriaid. Yn ystadegol mae’r ofnau hyn yn ddi-sail, ond mae penawdau papur newydd a chwedlau modern fel y rhai rydyn ni wedi bod yn sôn amdanyn nhw yn creu ‘hinsawdd o ofn’.

    Yn ôl arolwg a wnaed yn 2007 daethpwyd i’r casgliad ‘that the outside world is both a more dangerous place for children and a less protected one is having a profound effect on the way that parents are bringing up their children.’

    Y gwir yw bod plant erbyn hyn mewn mwy o berygl oherwydd y cynnydd sydd mewn trafnidiaeth am fod y rhieni’n pryderu! Dyma ddyfyniad o adroddiad o astudiaeth a wnaed ar blant dro yn ôl:

    Far more people are killed by strangers behind the steering wheel of a motor vehicle than are killed by strangers on foot. Danger should be removed from children rather than children from danger.’ (Mayer Hillman, One False Move … A Study of Children’s Independent Mobility, 1991)
  5. Ceisiwch bwysleisio’r ffaith bod llawer ohonom yn colli llawer o brofiadau mewn bywyd oherwydd ofn a phryder.  Mae mynd o flaen gofid a phroblemau yn gallu ein parlysu a’n gwneud yn ddisymud, ac mae hynny’n drueni ac yn wastraff ar yr holl cyfleoedd sydd ar gael i bob un ohonom.

    Fe ddywedodd Franklin D. Roosevelt, Arlywydd Unol Daleithiau America a arweiniodd y wlad i’r Ail Ryfel Byd: ‘The only thing we have to fear is fear itself – nameless, unreasoning, unjustified, terror which paralyses needed efforts to convert retreat into advance.’

    Ac fe ddywedodd y Pab John XXIII: ‘Consult not your fears but your hopes and dreams.’ Peidiwch â byw ar eich ofnau, yn hytrach ystyriwch eich gobeithion a’ch uchelgeisiau.

    Felly, y tro nesaf y byddwch chi’n clywed stori frawychus neu’n darllen stori ofnadwy yn y papurau newydd, neu’n derbyn stori trwy e-bost, sy’n peri gofid i chi, cofiwch am y pethau hyn y mae’r bobl yma wedi’u dweud. Cymrwch eu cyngor.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Ddylai dim braw fod mewn bywyd i Gristnogion. Yn ôl yr hyn a ysgrifennodd awdur Salm 27, mae bod â ffydd yn Nuw yn cael gwared ag ofn a braw, ac mae’n rhoi cyfle i ni fyw ein bywydau heb bryderu:

Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr Arglwydd yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?

Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf i’m hysu i’r byw, hwy, fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion fydd yn baglu ac yn syrthio.

Pe byddai byddin yn gwersyllu i’m herbyn, nid ofnai fy nghalon; pe doi rhyfel ar fy ngwarthaf, eto, fe fyddwn yn hyderus.

Un peth a ofynnais gan yr Arglwydd, dyma’r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhy yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr Arglwydd ac i ymofyn yn ei deml.

Oherwydd fe’m ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd a’m cuddio i mewn yn ei babell, a’m codi ar graig.

Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch; ac offrymaf finnau yn ei deml aberthau llawn gorfoledd; canaf canmolaf yr Arglwydd.

Gwrando arnaf, Arglwydd, pan lefaf; bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi.

Dywedodd fy nghalon amdanat ‘Ceisia ei wyneb; am hynny ceisiaf dy wyneb, O Arglwydd. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf, na throi ymaith dy was mewn dicter, oherwydd buost yn gymorth i mi; paid â gwrthod na’m gadael, O Dduw, fy Ngwaredwr.

Pe bai fy nhad a’m mam yn cefnu arnaf, byddai’r Arglwydd yn fy nerbyn.

Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd, arwain fi ar hyd y llwybr union, oherwydd fy ngwrthwynebwyr.

Paid â’m gadael i fympwy fy ngelynion, oherwydd cododd yn f’erbyn dystion celwyddog sy’n bygwth trais.

Yr wyf y sicr y caf weld daioni’r Arglwydd yn nhir y rhai byw.

Disgwyl wrth yr Arglwydd, bydd gryf a gwrol dy galon a disgwyl wrth yr Arglwydd.

Gweddi
Arglwydd Dduw,

Gweddïwn y gwnei di ein gwarchod a’n cadw rhag ofn a phryder.

Amddiffyn ni â’th darian amddiffynnol, fel na fydd ofn dim arnom.

Helpa ni, O Dad, i newid ein hofnau a’n pryderon i fod yn deimladau o ymddiriedaeth a sicrwydd.

Gad i ni fod yn ymroddedig a di-ildio wrth dy wasanaethu di

ac wrth wneud dy ewyllys di.

Ac uwchlaw popeth, rho i ni dy dangnefedd.

Amen.

Cerddoriaeth/ Emyn  


Gwasanaethau Uwchradd >>