Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

BERF YW DUW 

gan Janice Ross


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 (Ysgol Eglwys)

Nod

Ystyried bywyd a thystiolaeth Aeddan Sant, yn y seithfed ganrif, mynach a newidiodd fywyd pobl Northumbria. Northumbria oedd yr ardal sydd erbyn heddiw’n cynnwys gogledd Lloegr a de-ddwyrain yr Alban.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth      

  1. Dangoswch y dyfyniad cyntaf. Cafodd hwn ei ysgrifennu gan athronydd Americanaidd a oedd hefyd yn bensaer ac yn dyfeisydd. Felly, fe allai’r dyfyniad fod yn ymwneud ag unrhyw un o’r meysydd addysgiadol hyn. Daw’r dyfyniad o’r llyfr No More Secondhand God. Heddiw, fe fyddwn ni’n meddwl sut mae’n bosib cymhwyso’r geiriau hyn i deyrnas ffydd. 

    Gofynnwch i’r myfyrwyr ystyried y dyfyniad am foment neu ddwy. 

    Gwiriwch eu bod yn deall ystyr y gair  ‘obsolete’, sef wedi darfod â bod. 
  2. Aeddan a mynachod Iona

    Arweinydd  Fe ddysgodd rhai o’r cenhadon Cristnogol cyntaf a ddaeth i’n gwlad y wers bod angen model newydd os yw rhywbeth i gael ei newid.

    Mynach ifanc oedd Corman, ac roedd yn byw yn ystod hanner cyntaf y seithfed ganrif. Roedd yn byw ar ynys Iona, sy’n un o gadwyn o ynysoedd ar arfordir gorllewinol yr Alban. Yno, fe gysegrodd Corman a grwp o fynachod eraill eu bywyd i weddïo a dysgu am Dduw, ac addysgu’r bobl am ei wirioneddau.

    Ambell dro, fe fyddai’r mynachod yn teithio tua’r dwyrain, i’r Alban, o ynys Iona mewn cychod bach ar draws culfor peryglus. Ar ôl cyrraedd y tir mawr, fe fydden nhw’n cerdded fesul dau am gannoedd o filltiroedd yn rhannu’r neges am gariad Duw gydag unrhyw un a oedd yn barod i wrando arnyn nhw.

    Fe ddeuai llawer o ymwelwyr atyn nhw i’r ynys hefyd, er mwyn dysgu am y ffydd Gristnogol. Un ymwelydd oedd y Brenin Oswallt o Northumbria, teyrnas yng ngogledd Lloegr (yn y dyddiau hynny roedd y Lloegr y gwyddom ni amdani heddiw wedi ei rhannu’n wahanol deyrnasoedd). Fe ddaeth Oswallt i’r ynys fel ffoadur, yn ffoi yno i le diogel pan oedd gelynion wedi goresgyn ei deyrnas. Tra roedd yn byw ar ynys Iona, fe ddaeth Oswallt yn Gristion.

    Yn ddiweddarach, fe enillodd Oswallt ei deyrnas yn ôl, ac fe roddodd wahoddiad i’r mynachod ddod i Northumbria i addysgu’r bobl am y Duw Cristnogol.

    Roedd hwn yn gyfle ardderchog, a dewiswyd Corman a rhai o’i ffrindiau i wneud hyn. Roedd Corman yn Gristion ymroddedig, disgybledig, ac ufudd i holl athrawiaethau Duw, yn rhyfelwr y ffydd, ac yn ddyn egniol iawn.

    Fe allwch chi ddychmygu felly'r fath syndod a gafodd y gymuned yn Iona pan ddaeth y mynachod yn ôl i’r ynys ar ôl bod i ffwrdd dim ond mis neu ddau. Fel rheol fe fyddai dychweliad y mynachod yn achos dathlu mawr, ond nid yn yr achos hwn ....

    Corman  O! Roedd hi’n dasg amhosibl! Mae’r Eingl Sacsoniaid hyn yn baganiaid anwaraidd go iawn! Y cyfan sydd ganddyn nhw eisiau ei wneud yw yfed medd, ymladd, a defnyddio iaith aflan. Doedd gennym ni ddim gobaith y bydden nhw’n gwrando arnom ni.

    Abbot  Ond, y Brawd Corman, roedd hwn yn gyfle gwych i ni. Fe roddodd y Brenin Oswallt wahoddiad brenhinol i ni fynd yno i’w deyrnas i ledaenu newyddion da Duw.

    Corman  Mae hynny’n wir, Abad Dad, ac roedd y brenin Oswallt ei hun yn garedig iawn wrthym, yn rhoi croeso mawr i ni. Ond, roedd ymddygiad ei bobl yn wahanol iawn. Maen nhw mor arw ac aflednais! Fe wnaethon ni ddweud wrthyn nhw am Dduw, a’u cyfarwyddo i fyw bywyd o ffydd, disgyblaeth ac ufudd-dod, ond fe gawson ni ein gwatwar a’n gwawdio. Doedd gan neb ddiddordeb o gwbl. Mae’r lle’n llawn pobl ddrwg!

    Arweinydd  Roedd Aeddan, mynach ifanc arall wedi clywed hyn, ac yn synnu’n fawr. Roedd yn methu atal ei hun, ac fe ddywedodd:

    Aeddan  Ond, y brawd Corman, efallai eich bod wedi disgwyl gormod yn rhy fuan. Efallai nad oedd y bobl yn barod am wersi llym disgyblaeth, a’r hyn roeddech chi’n ei bregethu. Efallai mai’r hyn y dylen nhw gael profiad ohono yw cariad a ffydd syml. Allwn ni ddim ymladd yn erbyn yr hyn maen nhw’n ei gredu. Yr hyn sydd eisiau i ni ei wneud yw cynnig ffordd fwy deniadol iddyn nhw fyw eu bywyd.

    Arweinydd  Fe syrthiodd distawrwydd syfrdan o gwmpas cymuned y mynachod. Oni bai bod Corman yn ddyn mor dduwiol a da, efallai y byddai wedi ceryddu Aeddan am fod mor hy, a’i alw’n ddyn ifanc haerllug iawn am awgrymu’r fath beth.

    Roedd yr Abad yn dawel iawn hefyd am sbel, ond yna fe drodd at Aeddan a dweud fel hyn:

    Abad  Y brawd Aeddan, efallai bod Duw yn dy alw di i fynd i Northumbria a phregethu’r neges i’r bobl.

    Arweinydd  Oni bai bod yr Abad, hefyd, yn ddyn mor dduwiol a da, efallai y byddai yntau wedi ceryddu Aeddan am fod mor hy, ac efallai y byddai wedi dweud wrtho: ‘Wel, Aeddan, dos yno dy hun i ti gael gweld drosot ti dy hun ac fe gei di weld wedyn sut mae’r gwynt yn chwythu! Os wyt ti’n meddwl y galli di wneud yn well ...!’

    Ond dyna’n union beth a wnaeth Aeddan, roedd hi’n ymddangos mai dyma oedd ewyllys Duw iddo. Cychwynnodd o ynys Iona gyda grwp o fynachod, ac fe aethon nhw i Northumbria. Yno, fe wasanaethodd y brenin a’r bobl â chariad mawr ac â gostyngeiddrwydd. Ac o ganlyniad, fe ddaeth llawer o bobl i gredu yn Nuw.

    Yn wahanol i Corman, roedd Aeddan yn teimlo y byddai’n well iddo adael y llety cyfforddus yng Nghastell Bamburgh, ynghyd â gwleddoedd amheuthun y brenin, a dechrau o’r dechrau. Fe adeiladodd gartref iddo’i hun, a man neilltuol i addoli, ar ynys fechan wastad Lindisfarne. Oddi yno, fe gerddai i bob man, ac fe siaradai â phawb y byddai’n cwrdd â nhw.

    ‘Ydych chi’n gwybod am Dduw?’ byddai’n eu holi. Os mai ‘ydw’ fyddai’r ateb a gâi, yna fe fyddai Aeddan yn gweddïo gyda nhw. Os mai ‘nac ydw’ fyddai’r ateb, yna fe fyddai Aeddan yn sôn wrthyn nhw am gariad Duw, ac yn dweud wrthyn nhw faint oedd Duw’n caru pobl ym mhob man.

    Yn ddiweddarach ym mywyd Aeddan, dechreuodd brenin newydd Northumbria, y brenin Oswyn, bryderu oherwydd bod Aeddan yn heneiddio, a’r holl waith cerdded i bob man yn mynd yn ormod o ymdrech iddo. Er syndod mawr i Aeddan, fe gyflwynodd Oswyn rodd iddo, sef ceffyl - y gorau o stablau’r brenin - ynghyd â chyfrwy lledr gwych.

    ‘Fe fydd hyn yn well o lawer i ti, fy nghyfaill,’ meddai’r brenin wrtho.

    Ac, yn wir, yr oedd y ceffyl yn un hardd a’r cyfrwy yn un cyfforddus iawn. Ond, am ryw reswm, doedd calon Aeddan ddim yn teimlo mor gyfforddus. Roedd rhywbeth o’i le ynghylch yr anrheg hon. Yn awr, fe fyddai’n gweld pobl ar y ffordd wrth farchogaeth ei geffyl, ond fe fydden nhw i lawr ar y ffordd ac yntau’n uchel ar gefn y ceffyl. Roedd rhywbeth ynglyn â’r sefyllfa oedd ddim yn hollol iawn yng ngolwg Aeddan.

    Un diwrnod, fe welodd Aeddan dyn tlawd yn dod tuag ato, yn begio. Daeth i lawr oddi ar gefn ei geffyl a gwrando ar stori’r dyn.

    ‘Gyfaill,’ meddai Aeddan wrtho, ‘does gen i ddim arian, ond yr hyn sydd gen i yw’r ceffyl hwn a’r cyfrwy. Fe allet ti werthu’r rhain a chael arian amdanyn nhw i fwydo dy deulu.’

    Edrychodd y dyn ar Aeddan yn ddrwgdybus i ddechrau. Rhaid bod rhyw dric ynghylch y fath gynnig! Ond, wrth iddo wrando ar yr hyn oedd gan Aeddan i’w ddweud wrtho am gariad Iesu, ac am ostyngeiddrwydd, fe ddechreuodd ddeall. Cofleidiodd y dyn Aeddan yn ddiolchgar iawn, ac yna fe garlamodd i ffwrdd ar gefn y ceffyl gorau a oedd â’r cyfrwy gorau yn y deyrnas. Teimlai Aeddan fel petai pwysau mawr wedi cael ei godi oddi ar ei ysgwyddau. Dechreuodd gerdded unwaith eto, ac yn ei achos ef, roedd hynny’n teimlo’n iawn iddo.

    Wrth gwrs, fe glywodd y brenin y newyddion am yr hyn yr oedd Aeddan wedi’i wneud â’r ceffyl a’r cyfrwy. A‘r tro nesaf yr aeth Aeddan i gastell Oswyn, doedd dim rhyfedd bod y brenin yn edrych yn ddig arno, a dweud y lleiaf, ac yn ei chael hi’n anodd gwybod beth i’w ddweud wrtho. Ond, ymhen sbel, fe arthiodd y brenin arno, ‘Sut gallet ti wneud hyn, Aeddan? Fe roddais i anrheg i ti, y ceffyl gorau oedd gen i, a’r cyfrwy gorau, a dyna’r cyfan o feddwl oedd gen ti ohonyn nhw, fe gefaist ti wared â nhw!’

    Ond atebodd Aeddan ef yn addfwyn iawn, ‘Gyfaill hoff, beth sydd bwysicaf, ceffyl neu enaid dyn tlawd?’

    Ac er syndod mawr i bawb oedd o’u cwmpas, fe ddaeth y brenin at Aeddan a phenlinio o’i flaen gan ddweud, ‘Mae’n wir ddrwg gen i, rwyt ti’n iawn. Mae pobl yn bwysicach o lawer na cheffylau a chyfoeth.’
  3. Roedd ffordd o fyw Aeddan yn Northumbria, ffordd o gariad a gostyngeiddrwydd yn wir yn fodel newydd a wnâi’r model oedd yn bodoli gynt yn fodel a oedd wedi darfod â bod - ‘a new model which made the existing model obsolete’.

Amser i feddwl

Fe wnaeth R. Buckminster Fuller y datganiad hwn hefyd: ‘God, to me, it seems, is a verb not a noun, proper or improper.’ Iddo ef, berf yw Duw, fe dybia, ac nid enw - nid enw priod nac enw cyffredin.

Myfyriwch ar hyn am foment a meddyliwch sut roedd bywyd Aeddan yn adlewyrchu hyn. (Saib)

Ystyriwch ffyrdd y gallech chi fod yn gariad - fel berf ac nid enw – gartref, ac yn yr ysgol heddiw.

Gweddi

Dduw,

diolchwn i ti am y cenhadon cynnar rheini a ddaeth i’n gwlad.

Diolch eu bod yn wir wedi adeiladu modelau newydd o gariad a gostyngeiddrwydd

modelau rydyn ni’n dal i allu eu derbyn hyd heddiw.

Emyn

 

 


Gwasanaethau Uwchradd >>