Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Bod Yn Ddiolchgar


gan y Parch. Guy Donegan-Cross


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan


Nod

Dangos bod agwedd gadarnhaol, trwy fod yn ddiolchgar, yn gallu gweddnewid sefyllfa.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Holwch pwy sydd wedi bod yn Llundain ac / neu wedi gweld Eglwys Gadeiriol Sant Paul yno (St Paul’s Cathedral). Dangoswch lun yr adeilad. Eglurwch fod yr adeilad yn un hynod iawn ac yn destun rhyfeddod pan gafodd ei adeiladu. Y pensaer oedd Sir Christopher Wren yn yr ail ganrif ar bymtheg. Adroddwch y stori yma am dri dyn oedd yn gweithio fel adeiladwyr yno ar y pryd.

    Roedd y pensaer enwog, sef Sir Christopher Wren wedi dod i weld y dynion wrth eu gwaith yn adeiladu’r eglwys gadeiriol nodedig yn Llundain. Meddyliodd un newyddiadurwr y byddai’n syniad da cyfweld rhai o’r adeiladwyr, felly fe ddewisodd dri dyn a gofyn y cwestiwn yma iddyn nhw, ‘Beth yn union ydych chi’n ei wneud?’

    Atebodd y cyntaf, ‘Rydw i’n torri’r cerrig ac yn cael £10 y dydd am wneud.’ Atebodd yr ail, ‘Rydw i’n gweithio 10 awr bob dydd yn gwneud y gwaith adeiladu.’ Ond fe atebodd y trydydd fel hyn, ‘Rydw i’n helpu Sir Christopher Wren i adeiladu un o eglwysi cadeiriol gorau Llundain.’
  2. Holwch y plant beth oedd yn wahanol yn ateb y trydydd gweithiwr? Sylwch ar y ffaith bod ei agwedd yn llawer mwy cadarnhaol. A sylwch fel mae agwedd yn gallu newid unrhyw beth.
  3. Adroddwch y stori sy’n dilyn, mor ddramatig â phosib.

    Roedd dyn yn cerdded ar hyd y ffordd pan welodd ffermwr. Aeth ato gan ddweud, ‘Syr, rydw i wedi teithio o bell ac rwy’n meddwl y gwnaf aros yn y dref nesaf. Dywedwch wrtha'  i sut fath o bobl sy’n byw yno?’

    Gofynnodd y ffermwr iddo, ‘Sut fath o bobl oedd yn y dref y daethoch chi ohoni?’

    Atebodd y dyn, ‘O, dim yn dda iawn. Roedd y bobl yno’n hunanol, ac yn ddifater, yn meddwl am neb ond nhw’u hunain. Doedden nhw ddim yn malio am neb arall, na beth fyddai’n digwydd iddyn nhw.’

    Dywedodd y ffermwr wrtho, ‘Dyna’r un math o bobl y dewch chi o hyd iddyn nhw yn y dref nesaf hefyd.’ Diolchodd y dyn iddo a mynd yn ei flaen, ond i gyfeiriad arall.

    Yn ddiweddarach daeth dyn arall heibio’r un ffordd, a holodd yntau i’r ffermwr, ‘Syr, rydw i wedi teithio o bell ac rwy’n meddwl y gwnaf aros yn y dref nesaf. Dywedwch wrtha'  i sut fath o bobl sy’n byw yno?’

    Gofynnodd y ffermwr iddo, ‘Sut fath o bobl oedd yn y dref y daethoch chi ohoni?’

    Atebodd y dyn, ‘O roedd yn anodd iawn gadael y lle. Roedd y bobl yn gyfeillgar, roedden nhw’n llawenhau gyda chi ar adegau da, ac yn eich helpu chi pan oedd pethau ddim mor dda. Doedd pethau ddim yn berffaith, ond roedd y bobl yn gyffredinol yn barod eu cymwynas.’

    Dywedodd y ffermwr wrtho, ‘Dyna’r un math o bobl y dewch chi o hyd iddyn nhw yn y dref nesaf hefyd.’
  4. Eglurwch sut y byddai agwedd yr ail ddyn oedd yn gwerthfawrogi pethau’n fwy, yn golygu y byddai ganddo ragolwg llawer mwy cadarnhaol.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Gofynnwch i’r plant aros yn dawel a gofyn iddyn nhw feddwl am rywbeth neu rywun y maen nhw’n ei werthfawrogi heddiw.

Gweddi

Annwyl Dduw,

Helpa fi i fod yn fwy gobeithiol

ac i werthfawrogi popeth yr wyt ti’n ei roi i ni, yn ddiolchgar.

Amen.

Emyn


Gwasanaethau Cynradd >>