Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Brysio Ein Bywydau


gan Helen Swain

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Nod


Annog defnyddio amser yn synhwyrol.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ofyn i’r disgyblion beth fuon nhw’n ei wneud dros y penwythnos. Os na chewch chi amrywiaeth o atebion, fe allech chi awgrymu ambell beth: chwarae pêl droed, mynd i’r sinema, mynd i barti, efallai bod rhai wedi bod mewn gwasanaeth eglwys neu gapel, neu efallai bod rhai wedi aros gartref ac wedi bod yn gwylio’r teledu.
  2. Nawr, gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw’n edrych ymlaen ato y penwythnos nesaf. Fe ddylech chi gael yr un math o ymateb.
  3. Dywedwch fod pobl yn aml yn treulio amser yn trafod eu cynlluniau ar gyfer y dyddiau y byddan nhw’n eu cael i ffwrdd o’r gwaith, neu o’r ysgol. Ac fe allwch chi ddeall hynny, gan fod yr ysgol neu’r gwaith yn mynd â’r rhan fwyaf o amser nifer fawr o bobl yn ystod yr wythnos. Mae’r amserlen yn llawn o ddydd i ddydd yn enwedig os ydych chi yn ddisgybl yn yr ysgol, ac yn gwneud gweithgareddau eraill wedyn ar ôl yr ysgol, fel chwaraeon a gweithgareddau cerddorol ac ati. Ychydig iawn o amser sydd i wneud dim rhwng eich pryd bwyd ac amser gwely, ar wahân i waith cartref.
  4. Ond mae’r penwythnos yn rhoi dau ddiwrnod cyfan i chi wneud pob math o weithgareddau hamdden - dim rhyfedd ein bod ni’n siarad am ein cynlluniau ac yn edrych ymlaen at bnawn dydd Gwener. Dyna’r adeg y cawn ni wneud yr hyn yr hoffwn ni ein hunain ei wneud, yn hytrach na gwneud y pethau rheini y mae pobl eraill yn dweud wrthym ni fod yn rhaid i ni eu gwneud.
  5. Yr unig anhawster sydd gydag edrych ymlaen at rywbeth arbennig, yw ei fod yn gallu ein hannog i frysio ein bywydau, ac edrych ymlaen yn ormodol tua’r dyfodol. Yr unig beth sydd o’i le ar hynny yw ei fod yn peri i ni golli mwynhau’r presennol.
  6. Unwaith, fe weddïodd Cristion o’r enw Augustine, gan ddweud, ‘Arglwydd, gwna fi’n ddyn da, yn y man.’ Fe ddywedodd hynny am ei fod yn mwynhau ei hunan gymaint, ac nid oedd am i’r hwyl ddod i ben. Wrth gwrs, nid yw’r presennol yn hwyl bob amser. Ar brydiau mae pethau’n gallu bod yn anodd. Ar yr adegau hynny, mae edrych ymlaen at y dyfodol yn gallu ein helpu, fel edrych ymlaen at wyliau neu at gael mynd i weld ffilm neilltuol. F fe fydd hynny’n gwneud i ni deimlo rhywfaint yn well pan fyddwn ni’n teimlo ychydig yn isel ein hysbryd.
  7. Ond dydi byw yn y dyfodol ddim yn fyw mewn gwirionedd. Dim ond gwneud lluniau yn eich dychymyg yr ydych chi. Y presennol yw’r hyn sy’n eiddo i ni o ddifrif, meddai ysgolhaig crefyddol o’r enw Paul Tillich. 'The eternal now', fel y cyfeiriodd ato, dyna beth sydd gennym ni. Ei ddamcaniaeth ef oedd bod ein bywydau’n llawer cyfoethocach pan fyddwn ni bob amser yn ceisio gwerthfawrogi’r hyn sy’n digwydd i ni ar yr union foment hon mewn amser.
  8. Mae ein bywydau’n gyfanwaith o fomentau byr mewn amser - ac mae pob moment yn bwysig. Mae’n bosib i ni dreulio pob moment naill ai’n gwneud y peth iawn, neu’r peth anghywir.
  9. Os byddwn ni’n gwastraffu ein horiau, yn difetha ein dyddiau, ac yn gwaredu ein hwythnosau, fe fydd ein bywydau’n wag iawn. Ond, os byddwn ni’n gweld pob awr fel cyfle, yn treulio pob diwrnod yn tyfu, ac yn defnyddio pob wythnos i symud ymlaen, fe fydd ein bywydau’n llawn.
  10. Yn y ffilm Dead Poet's Society, mae Robin Williams yn chwarae rhan athro o’r enw John Keating, sy’n ceisio cael ei ddisgyblion i werthfawrogi pa mor rhyfeddol yw bywyd, ac eto pa mor fyr y gall bywyd fod. Mae Mr Keating yn cyflwyno dau syniad i’w ddisgyblion, dau syniad sy’n cael eu mynegi fel rheol yn yr iaith Ladin: yn gyntaf, tempus fugit   - 'time flies' - neu ‘mae amser yn hedfan’ ac yn ail, carpe diem - 'seize the day' - neu ‘daliwch eich gafael yn y dydd’.
  11. Mae Dead Poets Society yn ein hatgoffa i fachu pob diwrnod a’u gwerthfawrogi’n  fawr, gan na allwn ni atal llif diddiwedd amser. Er mwyn peidio colli cyfleoedd, neu i osgoi edifarhau’n ddiweddarach yn ein bywydau, fe ddylem ni bob amser geisio gwneud ein bywyd yn  rhywbeth rhyfeddol, a gwneud hynny NAWR!
  12. Efallai yr hoffech chi gynnwys y stori ganlynol yn eich gwasanaeth, er mwyn egluro’r angen i ddefnyddio amser yn synhwyrol:

Un diwrnod roedd Satan yn trafod gyda diafol arall sut y gallen nhw wneud rhagor o ddrygioni yn y byd.
'Un peth y gwnei di sylweddoli’n fuan,' meddai Satan wrth y llall, 'yw bod bodau dynol, yn gyffredinol, yn rhai da iawn am wneud pethau drwg, a’r cyfan sydd arnyn nhw’i eisiau yw ychydig bach o anogaeth.'
'Pam na wnawn ni ddweud wrthyn nhw nad oes yna’r fath beth â Duw yn bod?' gofynnodd y diafol arall.
'Na, na, fyddai’r bobl ddim yn credu hynny,' meddai Satan.
Meddyliodd y diafol arall am foment cyn awgrymu syniad arall. 'Beth am i ni, yn lle hynny, ddweud wrthyn nhw nad oes y fath beth ag uffern yn bod? Fe fyddai hynny’n rhoi rhwydd hynt iddyn nhw wneud pob math o ddrygioni heb orfod poeni y bydden nhw’n mynd i uffern.'
Ysgwyd ei ben a wnaeth Satan eto. 'Na, dydi bodau dynol ddim yn dwp, ond mae dy awgrym di wedi rhoi syniad da i mi. Dos i’r ddaear ac atgoffa’r bobl fod Duw yn bod. Wedyn, fe alli di eu hatgoffa bod uffern yn bod hefyd. Ond dywed wrthyn nhw wedyn am beidio â phryderu gan fod ganddyn nhw ddigon o amser yn y byd cyn y bydd yn rhaid iddyn nhw boeni am y naill beth na’r llall. Ac yna, fe gei di weld faint o ddrygioni y  gallan nhw’i gyflawni!'


Darlleniad o’r Beibl

Llyfr y Pregethwr 3.1–8

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am y rhai hynny sy’n edrych yn ôl ac yn dymuno y byddai ganddyn nhw ddiwrnod ychwanegol, neu ragor o amser i wneud rhywbeth:

- pobl sydd heb ddigon o amser i wneud yr holl bethau y mae pobl yn disgwyl iddyn nhw’u gwneud;
- pobl sydd wedi colli’r synnwyr o gydbwysedd a chyfrannedd yn eu bywydau;
- pobl sy’n teimlo eu bod wedi gwneud llanastr llwyr o’u bywydau, ac y byddai’n dda ganddyn nhw gael dechrau o’r newydd eto.

Rydyn ni’n meddwl hefyd am y rhai hynny allai ddymuno na fyddai cymaint o amser ganddyn nhw:

- pobl sy’n gofidio am beth allai ddigwydd;
- pobl sydd mewn anobaith;
- pobl sy’n dioddef oriau o boen a salwch;
- pobl sydd mewn carchardai, neu sy’n cael eu harteithio;
- pobl sy’n dymuno cael marw.

Gadewch i ni benderfynu defnyddio’r amser sydd gennym yn ddoeth, ac i fanteisio ar y cyfleoedd sydd gennym ni.

Gweddi


Annwyl Dduw,
dysga ni i ddefnyddio ein hamser yn ddoeth.
Helpa ni i lenwi pob eiliad.
Helpa ni i fanteisio ar bob munud.
Helpa ni i wneud y gorau o bob awr.
Ac yn fwy na dim, rho i ni’r doethineb i ddal gafael ym mhob diwrnod.
Amen.



Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>