Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Cylch Dieflig


gan Stuart Kerner

Flynyddoedd lawer yn ôl, roedd gwlad bell yn cael ei llywodraethu gan frenin cas. Roedd mor greulon ac annheg nes bod pobl y wlad yn dyheu iddo farw, neu gael ei ddiorseddu.

Yn hollol ddirybudd ac yn hollol annisgwyl, fe hysbysodd y brenin cas wyr y llys ei fod am newid ei ffordd o fyw. O hynny ymlaen, roedd yn addo bod yn garedig ac yn deg â phawb. Ac yn wir, fe gadwodd at ei air. Dechreuodd y bobl oedd wedi arfer ei ofni, a chael eu trin yn greulon ganddo, ei alw’n ‘Frenin y Calonnau’, am ei fod mor hynaws a charedig erbyn hyn.

Aeth peth amser heibio cyn i rai o’i brif ymgynghorwyr fod yn ddigon dewr i ofyn i’r brenin beth oedd wedi gwneud iddo newid ei ffordd, fel hyn. Gan wenu’n llawen, fe ddywedodd y stori yma wrthyn nhw:

Un diwrnod, roeddwn i’n marchogaeth trwy’r coed sydd oddi amgylch y palas pan welais i lwynog yn cael ei ymlid gan bac o gwn hela. Fe lwyddodd y llwynog i ddianc, ond nid cyn i un o’r cwn ei frathu yn ei goes ôl, a’i frifo’n ddrwg iawn, gan ei adael yn gloff. Roedd yn hawdd adnabod y ci gan fod lliw ei got yn nodedig iawn, ac fe welais i’r ci hwnnw yn fuan wedyn wrth i mi gerdded trwy’r dref. Roedd yn cyfarth yn ffyrnig ar un o ddynion ifanc y dref. Oherwydd bod y dyn ifanc hwnnw’n ddig wrth y ci am gyfarth mor ffyrnig arno, fe gododd garreg fawr a’i thaflu at y ci - a thorri coes y ci.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, fe welais i’r dyn oedd wedi taflu’r garreg. Roedd yn ceisio mynd ar gefn ceffyl. Ond mae’n amlwg nad oedd y dyn wedi arfer marchogaeth, a chafodd gic ddrwg gan y ceffyl. Roedd y gic mor nerthol roedd wedi cracio padell ei ben-glin, a bu’r dyn hwnnw’n gloff wedyn am weddill ei oes.

Rhuthrodd y ceffyl, a dechrau carlamu’n wyllt yn ei flaen, ond fe faglodd a syrthio i dwll, ac fe dorrodd ei goes. Bu’n rhaid difa’r ceffyl hwnnw. Fe wnaeth pob un o’r digwyddiadau hyn i mi feddwl o ddifrif. Fe sylweddolais fod un weithred ddrwg yn arwain at weithred ddrwg arall, ac un arall wedyn, a hynny’n arwain at gylch dieflig o ddioddef. Ac fe benderfynais i bryd hynny os na wnawn i roi’r gorau i fod yn gas wrth bobl eraill, fe fyddai’r creulonder yn fy nghael innau yn y diwedd.

Wedi i’r brenin ddweud ei stori, aeth un o’r ymgynghorwyr allan o’r ystafell. Dyn  bradwrus oedd yr ymgynghorydd yma, ac roedd wedi gweld bod y brenin, oedd yn arfer bod yn ddyn nerthol iawn, wedi troi’n rhywun gwan oedd â chalon feddal. Credai y byddai’n hawdd iawn ei drechu nawr. Penderfynodd feddwl am ryw gynllun i gael gwared â’r brenin. Roedd yr ymgynghorydd wedi ymgolli cymaint yn ei feddyliau, yn anffodus nid oedd yn edrych i ble roedd yn mynd, ac fe syrthiodd i lawr nifer o risiau a thorri ei wegil.

 

Os byddwn ni’n dial ac yn talu’n ôl, drwg am ddrwg, fe fydd y byd yn lle creulon a chas am byth. Gadewch i ni bob un ohonom ni ymdrechu i dorri’r gadwyn o ddioddefaint, a chyfnewid y cylch dieflig am gylch o gariad.

 


Gwasanaethau Uwchradd >>