Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Dianc Rhag Perygl

Gan y Parch. Alan M. Barker

Addas ar gyfer CA2

Nod

Deall cyflwr y rhai sy’n ffoaduriaid.

Paratoadau a deunyddiau

• Fe fydd arnoch chi angen ychydig o wisgoedd Drama’r Geni ar gyfer y ddrama pe baech chi’n penderfynu ei defnyddio.
• Bydd angen i’r plant ymarfer y rhannau canlynol:
Adroddwr 1 (gallai fod yn athro neu arweinydd y gwasanaeth)
Adroddwr 2 (gallai fod yn athro neu arweinydd y gwasanaeth)
Herod
Capten y fyddin
Mair
Joseff
Angel
• Bydd arnoch chi angen doli i gynrychioli Iesu, clipfwrdd ar gyfer capten y fyddin a chleddyf i Herod.
• Gall gwefannau asiantaethau fel Oxfam (www.oxfam.org.uk), y Groes Goch (www.redcross.org.uk), a Chyngor y Ffoaduriaid (www.refugeecouncil.org.uk) ddarparu gwybodaeth gyfoes ar bolisïau ac argyfyngau’n ymwneud â ffoaduriaid.
• Rhaid ymdrin â’r mater yn sensitif os oes plant sy’n geiswyr lloches neu sy’n ffoaduriaid yn bresennol.

Gwasanaeth

1. Atgoffwch y plant am stori’r Nadolig, a’u gwahodd i feddwl sut roedd yr hanes yn gorffen. Wnaeth pawb ‘fyw yn hapus byth bythoedd wedyn’? Tynnwch eu sylw at y ffaith fod y gwyr doeth, ar eu siwrnai i Fethlehem, wedi mynd i balas Herod yn ddamweiniol er mwyn chwilio am Iesu. Gwylltiodd Herod pan glywodd pam eu bod nhw’n ymweld â’r palas. All y plant feddwl pam ei fod wedi gwylltio? Gofynnodd Herod i’r gwyr doeth ddod yn ôl ato er mwyn dweud wrtho lle gallai ddod o hyd i Iesu. Er hynny, gan synhwyro mai cynllwyn oedd y cyfan, aeth y gwyr doeth adref yn ddirgel ar hyd ffordd arall.

2. Cyflwynwch bennod ‘ychwanegol’ o stori’r Nadolig, nad ydi hi bob tro’n cael ei dangos yn Nramâu’r Geni, neu adroddwch hanes dianc i’r Aifft yn eich geiriau eich hunan.

Dianc i’r Aifft

(Ar gyfer rhan gyntaf y ddrama hon, mae Joseff a Mair (gyda doli’n cynrychioli’r baban Iesu), yn eistedd yn llonydd yng nghefn y ‘llwyfan’.)

Adroddwr 1: Ar ôl geni Iesu, diflannodd ei seren ddisglair o’r awyr. Fe ddiflannodd y gwyr doeth hefyd! Ac roedd y Brenin Herod yn gandryll!

(Herod yn dod i mewn, yn gweiddi ac yn chwifio ei gleddyf yn ddigon pell oddi wrth aelodau’r gynulleidfa.)

Herod: Ble maen nhw? Fe ddywedodd y Tri Doeth y bydden nhw’n dod yn ôl yma. Ble maen nhw? Allwch chi ddweud wrtha i? Allwch chi? Neu beth amdanoch chi? Dywedwch, neu mi dorra’ i eich gyddfau!

(Mae Capten y fyddin yn dod yn nes, gan gario clipfwrdd, ac mae’n saliwtio.)

Herod: Wel?

Capten: Dim i’w adrodd, eich mawrhydi. Rydyn ni wedi chwilio ym mhob stabl ac adeiladau ffermydd sydd ym Methlehem ac wedi siarad efo pob ceidwad llety. Does neb wedi gweld dim byd.

Herod: Nonsens! Maen nhw’n cuddio’r plentyn. Mae o yno’n rhywle. Felly, beth am ddysgu gwers i’r dref honno – un na wnan nhw fyth ei anghofio. Chwiliwch ym mhob ty, a lladdwch bob bachgen bychan welwch chi.

Adroddwr 2: Roedd yn orchymyn ofnadwy, ond allai’r Capten ddim dadlau. Roedd ar bawb ofn Herod.

(Herod a Chapten y fyddin yn mynd allan. Gwelir Mair a Joseff yn paratoi i fynd i gysgu.)

Adroddwr 1: Y noson honno cafodd Joseff hunllef. Breuddwydiodd fod milwyr Herod yn ei erlid. Ond yna, yn ei freuddwyd, siaradodd Angel gydag ef.

(Angel yn dod i mewn.)

Angel: Maen nhw’n ceisio lladd dy blentyn. Does dim eiliad i’w cholli. Deffra Mair a’r plentyn. Rhaid i chi ddianc i’r Aifft.

(Mae Joseff yn deffro Mair, gan roi ei fys wrth ei wefusau i’w rhybuddio i fod yn dawel.)

Adroddwr 2: Roedd y freuddwyd yn un mor real fel i Joseff ddeffro Mair. Roedden nhw’n clywed swn milwyr yn curo ar ddrysau ymhellach lawr y stryd. Roedd gwragedd yn gweiddi a sgrechian. Yn sydyn ac yn dawel, dyma nhw’n casglu eu pethau ynghyd, yn cymryd Iesu yn eu breichiau, a llithro oddi yno i dywyllwch y nos.

3. Eglurwch fod Mair a Joseff wedi mynd i’r Aifft, ac wedi aros yno nes fod Herod wedi marw. Roedd hi wedyn yn ddiogel iddyn nhw ddychwelyd adref (Mathew 2.19-21). Gwahoddwch y plant i ystyried sut fyddai Mair a Joseff wedi teimlo. Pa anawsterau fydden nhw wedi eu hwynebu fel estroniaid yn yr Aifft?

4. Yn anffodus, mae miloedd o bobl yn y byd heddiw yn rhannu profiad Mair a Joseff. Cyfeiriwch at y term ‘ffoadur’. Ffoaduriaid yw rhai sy’n cael eu gyrru o’u cartrefi yn sgil rhyfel a thrais. Weithiau mae prinder bwyd a dwr hefyd yn gorfodi pobl i fod yn ffoaduriaid. Yn Affrica, mae terfysgoedd yn Liberia wedi gyrru nifer o bobl o’u cartrefi yn ddiweddar. Dyma beth oedd gan weithwyr Oxfam, yr elusen sy’n cynnig cymorth a chyfle i ddatblygu, i’w ddweud am Lorpu a’i saith o blant:

‘Pan ddaeth dynion gyda gynnau i’w chymuned, fe ffodd ei theulu. “Fe wnaethom ni ddianc yn syth wedi i ni glywed y gynnau,” meddai. “Rydych chi’n rhedeg; dydych chi ddim yn edrych yn ôl i weld beth sy’n digwydd.” Wedi siwrnai anodd iawn, heb fwyd na diod, mae hi bellach yn byw mewn gwersyll i ffoaduriaid sydd nifer o filltiroedd o’i chartref. Nid oes ysgol yno, mae’r bwyd mae ei theulu’n ei gael o safon gwael, ac mae’r plant yn aml yn dioddef anhwylderau a salwch. “Rydyn ni eisiau mynd adref a bwyta bwyd maethlon,” meddai Lorpu. “Mae eisiau i ni fynd adref.” Ond hyd y bydd hi’n ddiogel i ni ddychwelyd adref, bydd y teulu’n ffoaduriaid.’

5. Gorffennwch trwy ddweud ei bod hi’n anodd bod yn ffoadur. Mae’n golygu gorfod dod o hyd i gartref newydd, ffrindiau newydd, ac ysgol newydd. Mae’n rhaid i ffoaduriaid ddysgu iaith newydd yn aml, ynghyd â ffordd newydd o fyw. Gall eu dyfodol fod yn ansicr iawn. Mae pobl sy’n dymuno byw ym Mhrydain fel ffoaduriaid yn gorfod egluro pam eu bod wedi gadael eu cartrefi. Hyd nes y penderfynir a fyddan nhw’n cael aros ai peidio, mae nhw’n cael eu galw’n ‘geiswyr lloches’. Pan fydd Cristnogion yn cofio am Joseff a Mair yn dianc rhag perygl, maen nhw’n cael eu cynorthwyo i ddeall teimladau ac anghenion ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Amser i feddwl

Duw yr holl bobl,
Helpa ni i feddwl am y storïau am bobl
Sydd wedi gadael eu cartrefi i ddianc rhag perygl,
Am deulu Iesu,
A ffoaduriaid ar hyd a lled y byd heddiw.
Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>