Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Grym Arferiad

gan Stuart Kerner

Ryw dro, fe ddaeth dyn o hyd i hen lyfr yn yr atig. Roedd y llyfr mor hen, roedd ei dudalennau wedi melynu a rhai yn dod yn rhydd wrth iddo’u troi.

Sylweddolodd mai llyfr yn ymwneud â hud oedd hwn. Ond yn anffodus, doedd y dyn ddim yn gallu dilyn beth oedd yn y llyfr yn dda iawn am fod y tudalennau mor fregus â’r print mor aneglur - ar wahân i  un dudalen. Roedd yr ysgrifen ar y dudalen yma’n awgrymu bod carreg yn rhywle ar lan y môr gerllaw fyddai’n troi unrhyw beth oedd yn cyffwrdd â hi yn aur. Yr unig ffordd i adnabod y garreg oedd trwy ei chyffwrdd. Roedd hon yn wahanol i bob carreg arall oedd ar lan y môr - roedd hon yn boeth os byddech chi’n cyffwrdd â hi.

Rhedodd y dyn at lan y môr ar unwaith, a dechrau chwilio am y garreg hud. Treuliodd bob dydd, o’r bore bach hyd yr hwyr, yn edrych yn fanwl ar bob carreg a welai, a’i theimlo’n ofalus.

Er mwyn gofalu na fyddai’n codi’r un garreg ddwywaith, fe fyddai’n taflu pob carreg a godai ymhell i mewn i’r môr.

Aeth y dyddiau’n wythnosau, a’r wythnosau’n fisoedd. Ac ymhen amser, fe aeth y misoedd yn flynyddoedd. Er hynny, bob bore, fe fyddai’r dyn yn mynd i lawr at lan y môr i chwilio am y garreg hud. Ond roedd pob carreg a godai yn hollol oer, a thaflai bob un i’r môr, gynted ag y codai hi oddi ar y traeth. Erbyn hyn roedd mor gyfarwydd â chodi’r cerrig a’u taflu i’r môr fel y gallai wneud hynny’n gyflym iawn, iawn. Roedd arno eisiau codi cymaint ag a allai o gerrig bob dydd, yn y gobaith y byddai’n dod o hyd i’r garreg hud, felly nid oedd am wastraffu amser a gweithiai’n gyflym.

Ar ddiwedd un dydd hir o chwilio dyfal, roedd yn barod i ymadael â’r traeth, ac yn flinedig iawn ar ôl diwrnod arall o chwilio’n ofer, ond fe sylwodd ar un garreg o’i flaen. Penderfynodd godi honno, hon fyddai’r olaf am heddiw, meddyliodd. Cododd hi, ac roedd hi’n chwilboeth! Dyma’r garreg hud o’r diwedd. Ond cyn iddo sylweddoli beth roedd yn ei wneud- yn ôl grym arferiad - fe daflodd y dyn y garreg, fel roedd yn gwneud bob tro, ymhell allan i’r môr!

Ydych chi’n cadw’n effro i bosibiliadau newydd, neu ydych chi’n mynd trwy eich bywyd yn gwneud yr un hen bethau. Sawl cyfle rydych chi wedi’i golli?

 


Gwasanaethau Uwchradd >>