Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Blaidd Gubbio

Gan y Parch. Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer CA2

Nod

Archwilio beth roedd Iesu’n ei ddysgu i bobl ynghylch caru eraill, hyd yn oed pan na fyddan nhw’n eich caru chi.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

1. Gofynnwch i’r plant a oes ganddyn nhw anifeiliaid anwes. Gofynnwch a oedd eu hanifail anwes yn ymddiried ynddyn nhw o’r cychwyn, neu a gymerodd hi amser i’r anifail ddod i ymateb iddyn nhw.

2. Cyflwynwch y pyped llaw i’r plant, os byddwch chi’n ei ddefnyddio. Cynhaliwch ‘sgwrs’ â’r pyped, gan ddefnyddio ystumiau corfforol (neu eich doniau taflu llais!), lle byddwch chi’n siarad am sut yr oedd eich pyped yn eich ofni chi fel perchennog ar y dechrau, ond yn raddol ei fod wedi magu ymddiriedaeth ynoch chi. Neu fe allech chi yn lle hynny siarad am brofiad a gawsoch o fod yng nghwmni anifail oedd heb ei ddofi. Ewch ymlaen i adrodd y stori yma.

3. Dyma’r stori. Efallai y carech chi rybuddio plant iau ei bod hi’n stori arswydus braidd!

Fe ddigwyddodd yr hanes sy’n y stori yma amser maith yn ôl mewn tref yn yr Eidal o’r enw Gubbio. Roedd yn lle hardd, i fyny ar lethrau’r mynyddoedd, ac roedd y trigolion yn falch eu bod yn byw yno. ‘Rydan ni’n byw yn Gubbio!’, roedden nhw’n ei ddweud yn falch.

Ond un noson daeth cysgod o’r goedwig, ac fe’i gwelwyd yn ymlwybro ar hyd y strydoedd. Fore trannoeth cafwyd hyd i gorff un o’r trigolion, â’i ddillad wedi’u rhwygo’n garpiau. Roedd pawb wedi dychryn. Y noson ganlynol fe wnaeth pawb gloi eu drysau a’u ffenestri ac aros yn eu tai. Pawb, ar wahân i un ddynes, a’r bore canlynol fe gafwyd hyd iddi hithau’n farw. Roedd y bobl wedi rhyfeddu ac yn llawn ofn. Beth, neu pwy, oedd yn eu lladd nhw?

Yna dywedodd rhyw ddynes: ‘Fe welais i o neithiwr. Roedd blaidd, tywyll, llwyd, yn cerdded ar hyd y strydoedd, a gwaed yn diferu o’i geg.’ Drwy’r dydd fe siaradodd pawb am y blaidd, a’r noson honno fe wnaethon nhw unwaith eto gloi eu drysau a’u ffenestri. Er hynny, fe benderfynodd dau lanc ifanc geisio lladd y blaidd, ac fe wnaethon nhw gerdded strydoedd y dref gyda chleddyfau yn eu dwylo. Y bore canlynol, y cyfan oedd ar ôl ohonyn nhw oedd eu dillad darniog ac ychydig o esgyrn.

Roedd pobl y dref yn anobeithio. Beth allen nhw ei wneud? Roedd y blaidd yn dinistrio eu tref dawel. Ddylen nhw alw’r fyddin? Yna cafodd merch fach syniad, ac meddai: ‘Mae ’na hen wr yn y dref agosaf, ar ochr arall y goedwig, ac mae nhw’n dweud ei fod o’n gallu siarad efo anifeiliaid. Efallai y gallai ef ein helpu ni.’ Yn sydyn, cychwynnodd grwp o bobl ar daith i chwilio am yr hen wr. Roedd gormod o ofn arnyn nhw i fynd drwy’r coed, felly roedd yn rhaid iddyn nhw gerdded y ffordd hiraf, a olygodd gerdded am ddiwrnod yn rhagor. Pan wnaethon nhw gyrraedd y dref agosaf, fe wnaethon nhw ofyn i’r bobl yno sut roedd dod o hyd i’r dyn oedd yn gallu siarad ag anifeiliaid. Roedd yn eistedd yn sgwâr y dref, yn bwydo’r adar.

‘Hen wr, allwch chi ein helpu ni? Mae ’na flaidd yn ymosod ar ein pobl. Rydyn ni isio rhoi stop ar hyn,’ meddai’r bobl wrtho.

Cytunodd yr hen wr i’w helpu, a chyda’i gilydd fe aethon nhw’n ôl am Gubbio. Pan wnaethon nhw gyrraedd y goedwig, roedd hi wedi dechrau tywyllu. Dywedodd yr hen wr wrth y bobl am fynd am adref hebddo, ac fe aeth yntau yn ei flaen drwy’r coed ar ei ben ei hun.

Y noson honno, fe wnaeth pobl Gubbio gloi eu drysau a’u ffenestri, a disgwyl am y wawr. Doedd neb yn gallu cysgu.

Y bore canlynol rhuthrodd y bobl i sgwâr y dref. Yno ar y fainc, eisteddai’r hen wr, gyda’r blaidd yn eistedd yn dawel wrth ei ochr.

Roedd pawb wedi synnu. ‘Beth wnaethoch chi? Pam na wnaeth o eich lladd chi? Sut y gallwn ni ei stopio?’

‘Mae’n syml iawn’, atebodd yr hen wr. ‘Rhaid i chi fwydo eich blaidd.’

Y noson honno fe wnaeth pawb gloi eu drysau eto. Ymlwybrodd y cysgod tywyll ar hyd y strydoedd. Yn sydyn, gwelwyd rhimyn tenau o olau wrth i ddrws agor, a rhoddwyd plât mawr o fwyd ar y stryd. Yna caewyd y drws yn sydyn eto. Bwytaodd y cysgod tywyll y bwyd.

Digwyddodd hyn am nifer o nosweithiau. Yna, un noson, arhosodd y drws yn agored rhyw ychydig, ac estynnodd llaw ofalus i fwytho pen y blaidd. Wedi ychydig o nosweithiau eto, rhoddwyd mwy o fwythau i’r blaidd, ac mewn ychydig wythnosau daeth y blaidd i mewn i’r ty, lle bwytaodd ei fwyd yn hapus, cyn mynd yn ei ôl i’r goedwig.

Erbyn hyn, roedd gan bawb yn Gubbio ffrind newydd. Maen nhw’n siarad efo’r blaidd, yn ei fwytho ac yn chwarae efo fo. ‘‘Rydan ni’n byw yn Gubbio!’, maen nhw’n ei ddweud. ‘Ac mae gennym ni ein blaidd ein hunain!’

4. Atgoffwch pawb fod hon yn hen stori, ac er y gall blaidd fod yn beryglus, maen nhw fel arfer yn cadw draw oddi wrth bobl, a bellach maen nhw’n anifeiliaid sy’n cael eu gwarchod.

Dywedwch ein bod ni i gyd yn gwybod y gall anifeiliaid fod yn anodd eu trin – ac mae’r un peth yn wir wrth sôn am bobl. Efallai bod ’na rai pobl sydd ddim yn ein hoffi ni. Beth wnawn ni efo nhw? Dywedodd rhywun: ‘Y ffordd orau i ymdrin â gelyn ydi gwneud ffrind ohonyn nhw.’ Dyna pam y dywedodd Iesu, ‘Carwch eich gelynion.’ Mae hi’n hawdd caru pobl sy’n ein caru ni, ond os ydym ni eisiau caru pobl o ddifri a’u gwneud nhw’n ffrindiau i ni, yna efallai y bydd yn rhaid i ni geisio gwneud beth wnaeth pobl Gubbio i’r blaidd.

Nodyn: Fe all hwn fod yn amser addas i dynnu sylw at bolisi atal bwlio’r ysgol, ac atgoffa pawb o’r camau i’w cymryd os ydyn nhw’n teimlo eu bod yn cael eu bwlio.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid.


Meddyliwch am rywun rydych chi’n ei chael hi’n anodd closio atyn nhw.
Gofynnwch i Dduw fod yn garedig wrthyn nhw,
hyd yn oed pan nad ydyn nhw’n garedig wrthych chi.

Annwyl Dduw,
Diolch dy fod yn ein caru ni,
hyd yn oed pan na fyddwn yn dy garu di;
hyd yn oed pan wnawn ni gamgymeriadau a gwneud pethau na ddylem eu gwneud.
Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>