Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

EMMELINE PANKHURST A’R SUFFRAGETTES

Iawnderau dynol a chydraddoldeb

gan Jude Scrutton


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3/ Cyfnod Allweddol 4

Fersiwn Saesneg

Nod

Trafod pa mor bwysig yw iawnderau dynol a chydraddoldeb, a deall bod pobl wedi dilyn llwybrau hynod ac anghyffredin er mwyn sicrhau cael cydraddoldeb.

 

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth     

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr pa fath o swydd yr hoffen nhw’i chael pan fyddan nhw’n gorffen yn yr ysgol. Os yw un o’r bechgyn yn dweud mai meddyg yr hoffai fod, dywedwch wrtho fod hynny’n cael ei ganiatáu.  Os yw un o’r merched yn dweud rhywbeth tebyg, dywedwch na, all hi wneud hynny.

    Os ydyn nhw’n dweud athro neu athrawes, dywedwch wrthyn nhw ‘iawn’, gall y bechgyn a’r merched fod yn athrawon; ond dywedwch wrthyn nhw y byddwch yn talu £1000 yn fwy i’r bachgen na’r ferch (dangos arian).

    Yna dywedwch wrth y myfyrwyr ein bod ni’n mynd i bleidleisio ar gyfer prif fachgen a phrif ferch yr ysgol, ond dywedwch wrthyn nhw mai’r bechgyn yn unig gaiff bleidleisio.

    Gofynnwch i’r myfyrwyr: ‘Pam rydw i mor gas tuag at y merched?’
  2. Dywedwch wrth y myfyrwyr mai dyma’n union sut yr oedd bywyd i ferched cyn cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.

    Rhannwch gyda’r myfyrwyr y sylw nodweddiadol yma o’r cyfnod hwnnw:

    ‘Lle’r ferch yw gartref, yn gwneud gwaith ty ac edrych ar ôl y plant.  Ddylai hi ddim cael caniatâd i fod, er enghraifft, yn gyfreithiwr neu’n rheolwr busnes, ‘oherwydd nid yw ei meddwl wedi cael ei ffurfio ar gyfer y cyfryw bethau.’

    Canolbwyntiwch ar y rhan olaf o’r datganiad a gofynnwch i’r myfyrwyr sut maen nhw’n teimlo wrth glywed am rywbeth fel yna, gan gyfeirio’r myfyrwyr at natur israddol sylwadau o’r fath. Mae’r geiriau’n diffinio’n glir agwedd y mwyafrif o ddynion, a rhai merched, yn ystod y cyfnod hwnnw.
  3. Gofynnwch i’r myfyrwyr a oes agweddau o’r math yma yn bodoli hyd heddiw. Trafodwch y ffaith bod rhywfaint o wahaniaethu ar sail rhyw yn parhau i ddigwydd, ond nid yw’n beth cyffredin yn ein cymdeithas erbyn hyn. Yn wir, mae’r rhan fwyaf o wahaniaethu yn anghyfreithlon.
  4. Gofynnwch sut y daeth y newidiadau hyn i fod. Wnaethon nhw ddim ond digwydd, ynteu a ddigwyddodd rhywbeth penodol i achosi’r newid?

    Dywedwch wrth y myfyrwyr fod rhai pobl ar y pryd yn anghytuno â’r agweddau yma. Roedd y merched hynny’n cael eu hadnabod fel y ‘suffragettes’ (sy’n golygu merch yn chwennych y bleidlais).
  5. Soniwch wrth y myfyrwyr am Emmeline Pankhurst, a dywedwch wrthyn nhw mai hi oedd arweinydd mudiad y ‘suffragettes’.
    Cafodd ei geni ym Manceinion ond symudodd i Lundain.  Roedd hi’n benderfynol o ennill cydraddoldeb i ferched.

    Ar y dechrau, fe ddefnyddiodd ddulliau heddychol - ysgrifennu llythyrau, lobïo’r senedd a thraddodi darlithoedd.

    Yn anffodus roedd y rhan fwyaf o ddynion a rhai merched yn credu mai ynfytyn ffôl oedd hi.
  6. Penderfynodd Pankhurst bod angen defnyddio rhyw ddull amgen.  Fe anogodd ei chanlynwyr i greu niwsans ac i dorri’r gyfraith pe byddai raid.

    Roedd y ‘suffragettes’ yn barod: Dyma nhw’n taflu brics at siaradwyr cyhoeddus, a thorri ffenestri 10 Downing Street, slaesu darluniau mewn galerïau a hyd yn oed clymu eu hunain â chadwyni i’r rheiliau o flaen tai gwleidyddion. 

    Yn gyffredinol, fe wnaethon nhw dorri’r gyfraith mewn cymaint o ffyrdd â phosib. Carcharwyd Emmeline Pankhurst nifer o weithiau am ei gweithredoedd, ond ni ildiodd y rhai oedd yn llunio’r cyfreithiau ddim. 
  7. Yna daeth y Rhyfel Byd Cyntaf, ac aeth llawer o ddynion i ffwrdd i ymladd. Cafodd y swyddi mewn ffatrïoedd, ysgolion ac ysbytai eu llenwi â merched oedd cyn hynny yn wragedd ty. Gorchmynnodd Pankhurst i’r suffragettes atal eu protestiadau ac ymuno â’r ymdrech i gefnogi’r wlad yn y Rhyfel.

    Yn ystod y blynyddoedd hir hyn o ryfel, sylweddolodd pobl bod merched yn gallu gwneud y tasgau hyn cystal os nad gwell na dynion. Dechreuodd agweddau’r bobl newid.
  8. Yn ystod blwyddyn olaf y rhyfel, rhoddwyd yr hawl i ferched bleidleisio. Ond, eto, roedd yn ofynnol iddyn nhw fod dros 30 mlwydd oed. Doedd hyn ddim wrth fodd Pankhurst, a ddywedodd na fyddai’n atal gweithredu hyd nes y byddai hi a’i chefnogwyr wedi ennill hawliau cyfartal gyda’r bleidlais.

Ymhen deg mlynedd yn ddiweddarach cyflawnodd ei nod a newidiwyd y gyfraith i roi’r hawl i bob oedolyn dros 21 mlwydd oed bleidleisio. Ar y diwrnod y cafodd y ddeddf honno ei phasio, bu farw Emmeline Pankhurst mewn cartref nyrsio, yn 69 mlwydd oed.

  1. Yn ddynes hynod, a arhosodd yn fyw hyd nes iddi gyrraedd ei nod, fe newidiodd Emmeline Pankhurst y gymdeithas yr ydym ni’n byw ynddi, er lles pawb ohonom ni sydd yma heddiw. 

Amser i feddwl

Mae rhannau o fywyd o hyd yn y DU (yn enwedig mewn mudiadau crefyddol), ac mewn rhai gwledydd eraill, lle nad yw merched yn cael eu hystyried yn gydradd â dynion. Meddyliwch am y rhaniadau hynny, a meddyliwch am y merched sy’n rhwystredig.  Sut y gallwn ni ymdrechu i gyrraedd at gymdeithas sy’n fwy cyfartal tuag at bawb?

Mae credu yn ein hegwyddorion yn bwysig iawn.

Gweddi

Arglwydd, helpa ni i sefyll yn gadarn dros y rhai anghofiedig, y rhai sydd â neb yn eu caru, a’r rhai sy’n cael eu gorthrymu.

Gad i’n gweithredoedd ni ddangos dy gariad di.

Helpa ni i ddarganfod ffyrdd i wneud hyn,

a gad i ni beidio â cherdded ar yr ochr arall y ffordd ac anwybyddu’r broblem. 

Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>