Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

FE FYDDWCH CHITHAU’N HEN RYW DDIWRNOD

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Fersiwn Saesneg

Nod

Annog y plant i ddangos parch tuag at bobl oedrannus, a gwneud iddyn nhw sylweddoli fod bywyd y bobl rheini, o bosib, wedi bod yn fwy diddorol nag y gallem ei ddychmygu.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Edrychwch ar y lluniau o’r bobl oedrannus gyda’ch gilydd, a gofynnwch i’r plant ddisgrifio beth maen nhw’n feddwl oedd y math o fywyd fu gan y bobl yma.
  2. Darllenwch neu ailadroddwch y stori ganlynol:

Amser cinio dydd Sul oedd hi, ac roedd mam Math wedi gofyn iddo fynd â llond plât o ginio i Mr Edwards, a oedd yn byw yn eu hymyl i lawr y stryd. Roedd gwraig Mr Edwards wedi marw flynyddoedd yn ôl, ac roedd Mr Edwards wedi bod yn byw ar ben ei hun ers hynny. Fe fyddai mam Math yn gwneud cinio iddo yn aml, gan ei bod yn meddwl nad oedd Mr Edwards yn trafferthu paratoi cinio iddo’i hun.


Weithiau, fe fyddai Math yn anfodlon mynd draw i dy Mr Edwards. Doedd o ddim yn gwybod beth i’w ddweud wrth yr hen wr, ac anaml iawn y byddai Math yn aros dim mwy yno nag oedd raid i siarad gyda Mr Edwards. Roedd Mr Edwards yn dechrau mynd yn anghofus. Weithiau fe fyddai’n dweud yr un peth lawer gwaith, ac roedd Math wedi colli cyfrif faint o weithiau yr oedd Mr Edwards wedi gofyn iddo beth oedd ei enw. Doedd gan Math ddim syniad pa mor hen oedd Mr Edwards, ond roedd golwg hynafol iawn arno! Roedd hynny o wallt oedd ganddo yn denau iawn ac yn glaer wyn. Ychydig iawn o ddannedd oedd ganddo yn ei geg, ac roedd croen ei wyneb yn rhychau i gyd. Yn awr ac yn y  man fe fyddai’n sychu ei lygaid â hances lwyd, ac roedd ei ddwylo’n crynu. Roedd yn ymddangos fel pe bai’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn eistedd yn ei gadair freichiau yn gwrando ar y radio neu’n gwylio’r teledu.


Pan aeth Math yno’r diwrnod hwnnw, doedd y teledu ddim ymlaen, ac roedd Math yn teimlo’n anghyfforddus yn y distawrwydd. Eto, teimlai y dylai ddweud rhywbeth, ac fe bwyntiodd at lun yr oedd wedi sylwi arno o’r blaen ar silff yno. Llun o filwr oedd o yng ngwisg y fyddin, yn sefyll yn syth - llun tebyg iawn i hwn (dangoswch y llun sydd gennych chi o filwr, yma). Roedd gan y milwr res o fedalau gloyw ar ei frest, ac roedd yn edrych yn olygus ac yn falch iawn. ‘Pwy sydd yn y llun?’ holodd Math, gan dybio o bosib mai mab Mr Edwards oedd o, neu efallai bod Mr Edwards yn ewythr i’r milwr. ‘Wel y fi ydi hwn, wyddost ti,’ meddai Mr Edwards yn garedig.


Er nad oedd Mr Edwards yn gallu cofio’n dda beth oedd wedi digwydd ddoe, roedd yn cofio’n iawn beth oedd wedi digwydd 70 mlynedd yn ôl. Roedd wedi ymuno â’r fyddin pan oedd yn 16 oed ac wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau mewn sawl rhan o’r byd. Roedd wedi cael medalau gan y brenin am ei ddewrder. Dechreuodd Math wrando ar yr hen wr yn dweud ei hanes gyda diddordeb mawr, roedd wedi cael pob math o brofiadau ac anturiaethau flynyddoedd lawer yn ôl. O hynny ymlaen, dechreuodd Math weld Mr Edwards fel rhywun gwahanol - efallai ei fod yn hen ac yn fusgrell erbyn hyn, ond roedd wedi cael bywyd llawn iawn a diddorol pan oedd yn iau. Wedyn, fe dynnodd Mr Edwards lun arall allan o ddrôr o dan y silff, a’i ddangos i Math. Llun dyn ifanc oedd hwn hefyd, ond y tro yma’n gwisgo dillad chwarae rygbi ac roedd ganddo gap am ei ben - y math o gap y bydd chwaraewyr yn ei gael pan fyddan nhw wedi bod yn chwarae dros eu gwlad (dangoswch y llun o’r chwaraewr rygbi yn ei wisg a’i gap, yma). ‘Chi ydi hwn, hefyd?’ holodd Math. Nodiodd Mr Edwards gan wenu, ac fe ddywedodd fel hyn wrth Math, ‘Fe gei di’r hanes hwnnw gen i pan ddoi di yn dy ôl i nôl y plât gwag.’


O’r diwrnod hwnnw ymlaen, roedd agwedd Math tuag at yr hen wr wedi newid yn llwyr. Nawr roedd wrth ei fodd yn ei gwmni, ac erbyn hyn roedd yn ei barchu a’i edmygu. Dechreuodd Math  ddeall fod pobl oedrannus, er eu bod yn hen erbyn hyn yn aml wedi cael bywyd diddorol ac wedi gwneud llawer o bethau da, ac oherwydd hynny’n gallu ysbrydoli pobl eraill. Ar ôl hynny, doedd Math ddim yn casáu mynd i ymweld â’i gymydog oedrannus. Roedd Mr Edwards yn dal i fod ddim yn gwybod pa ddiwrnod o’r wythnos oedd hi, ond roedd yn gallu siarad am y gorffennol fel pe byddai’n ddoe. Roedd Math wrth ei fodd yn gwrando ar ei hanesion, a rhyw ddiwrnod yn fuan wedyn roedd Math wrth ei fodd yn cael cyflwyno Mr Edwards i weddill plant ei ddosbarth pan ddaeth i’r ysgol i siarad gyda nhw am yr Ail Ryfel Byd yn eu gwers hanes.

  1. Datblygiad pellach:

    Trafodwch yr unigrwydd y mae llawer o bobl oedrannus yn ei deimlo pan fyddan nhw’n byw ar ben eu hunain, ac yn gweld neb bron o’r naill ddiwrnod i’r llall. Eglurwch fod llawer o bobl fel hyn yn teimlo’n well ar ôl i rywun fod yn ymweld â nhw - rhywun sy’n fodlon treulio ychydig o amser i sgwrsio gyda nhw.

    Manteisiwch ar y cyfle i bwysleisio pa mor bwysig yw parchu pobl oedrannus a bod yn ystyriol tuag atyn nhw. Anogwch blant y dosbarth i drin pobl oedrannus yn yr un ffordd ag yr hoffen nhw i bobl eraill drin eu neiniau a’u teidiau, neu eu hen neiniau a theidiau nhw.

 

Amser i feddwl

Meddyliwch am y bobl oedrannus yr ydych yn eu hadnabod. Ydyn nhw’n dda am wneud rhywbeth? Beth maen nhw’n ei chael hi’n anodd i’w wneud? Sut y gallech chi helpu i wneud eu bywyd yn well?

Gweddi

Annwyl Dduw, rydyn ni’n gweddïo heddiw dros bobl oedrannus.

Helpa ni i fod yn amyneddgar ac yn ofalgar gyda’r rhai sy’n oedrannus iawn, gan gofio eu bod nhw hefyd wedi bod yn fywiog, yn weithgar, ac yn iach yn y gorffennol.

Rydyn ni’n gweddïo  hefyd dros y bobl hynny sy’n gofalu am yr henoed, mewn cartrefi henoed ac yn y gymuned, a thros bob mudiad sy’n eu cefnogi.

Gad i ni fod yn barod i wneud ein rhan i helpu mewn ffordd ymarferol trwy, o bosib, dreulio ychydig o amser gyda rhywun oedrannus a’u helpu i wneud ambell beth.

Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>