Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

GRYM BARDDONIAETH

Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, 7 Hydref

gan Tim a Vicky Scott


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Fersiwn Saesneg

Nod

Helpu’r myfyrwyr i weld pa mor rymus y gall barddoniaeth fod, mae’n gallu gwneud i bobl newid y ffordd maen nhw’n meddwl, yn gallu eu hysbrydoli, a’u hysgogi.

 

Paratoad a deunyddiau

 

Gwasanaeth

  1. Mae’n Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth – achlysur ledled y wlad i ddathlu barddoniaeth, barddoniaeth y gorffennol, y presennol a’r dyfodol – ar ddydd Iau, 7 Hydref, eleni. Y thema y tro yma yw ‘Cartref’.
  2. Beth yw barddoniaeth? (Holwch y myfyrwyr, a nodwch eu hawgrymiadau ar y bwrdd gwyn). Ydych chi wedi bod yn paentio yn ôl rhifau ryw dro? (Dangoswch y set ‘Paentio yn ôl rhifau’ i’r myfyrwyr). Gall barddoni fod yn ffordd gyffrous o baentio gyda geiriau. Does dim rhaid i bob cerdd fod yn cynnwys llinellau sy’n odli. Gall chwarae ar eiriau, ailadrodd geiriau, a defnyddio trosiadau fod yn rhan o greu cerddi.
  3. Gall barddoniaeth fod yn rymus - gall barddoniaeth dda newid y ffordd rydyn ni’n gweld pethau. Mae’n ein hysbrydoli a’n hysgogi. Mae’n gallu cyfoethogi ein bywyd trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai sy’n ysgrifennu caneuon hefyd yn feirdd da. Fe fydd geiriau, lluniau a cherddoriaeth yn cydgysylltu ym meddwl yr un sy’n ysgrifennu caneuon, ac yn y pen draw fe fydd cân newydd yn ei llawn dwf yn dod i fod, i’w rhyddhau i bobl ei mwynhau.
  4. Dyma dair cerdd i ni feddwl amdanyn nhw, mae un yn hen iawn, un arall yn newydd, ond mae’r tair yn datgelu gwirionedd sy’n gallu siapio teithiau ein bywyd:

    (a) Roedd y Brenin Dafydd, brenin enwog Israel, nid yn unig yn arweinydd mawr, yn filwr ac yn gerddor, roedd hefyd yn fardd. Ef yw awdur llawer o’r Salmau sydd yn y Beibl. Mae’r Salmau’n nodedig yn y modd y maen nhw’n mynegi yr holl amrywiaeth o emosiynau dynol sy’n rhan o’n profiadau ni. Ffydd Dafydd yn Nuw oedd yr hyn a’i galluogodd i barhau’n fyw er gwaethaf picellau Saul, ai wneud nid yn unig yn ddigon sensitif i ysgrifennu barddoniaeth, ond hefyd yn ddigon gwydn i dorri pen Goliath! Dyma ran o Salm 139, adnodau13-16, sy’n sôn am gynllun rhyfeddol Duw a’i wybodaeth gyfarwydd am fywyd dynol:

    Ti a greodd fy ymysgaroedd;
    a’m llunio yng nghroth fy mam.
    Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,
    ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.
    Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
    ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt
    pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,
    ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
    Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;
    y mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr;
    cafodd fy nyddiau eu ffurfio
    pan nad oedd yr un ohonynt.

    Gofynnwch i’r myfyrwyr sut roedden nhw’n teimlo ar ôl clywed y gerdd, a chofnodwch eu sylwadau. Etifeddodd Solomon, mab Dafydd, a ddaeth yn Frenin Israel ar ei ôl, ddawn farddonol ei dad. Fe welwn ni hyn wrth ddarllen y gerdd serch angerddol, ‘Caniad Solomon’ (Sydd i’w gweld yn llyfr o’r un enw, Caniad Solomon, yn y Beibl).


    (b) Yn 1902, derbyniodd bardd Americanaidd addawol, 28 oed, nodyn oedd yn gwrthod ei waith gan olygydd y cylchgrawn o fri, Atlantic Monthly. Ynghyd â’r gwaith oedd yn cael ei ddychwelyd ato - casgliad o gerddi yr oedd y bardd ifanc wedi eu hanfon at y golygydd - yr oedd y nodyn swta canlynol: ‘Not one worthy of publishing.’ Enw’r bardd hwnnw oedd Robert Frost, a ddaeth ar ôl hynny yn un o feirdd mawr yr 20fed ganrif. Dyma ran o un o’i gerddi, ‘The Road Not Taken’. Wrth wrando ar y darlleniad, nodwch beth ydych chi’n feddwl y mae’r bardd yn sôn amdano a rhannwch eich syniadau wedyn. Rhestrwch yr awgrymiadau, (efallai y cewch atebion fel: dewisiadau, gwneud penderfyniadau, tynged, unigolyddiaeth, anghydffurfiaeth, edifeirwch).

    Dechreuwch ddarllen gyda’r llinellau:

    Two roads diverged in a yellow wood,
    And sorry I could not travel both


    a gorffen gyda’r geiriau:

    I took the one less travelled by,
    And that has made all the difference
    .’


    (c) Mae llawer o’r cerddi sydd wedi dod yn adnabyddus, yn aml wedi cael eu hysgrifennu gan awduron anhysbys. Gyda’r rhai Saesneg fe welwch y gair ‘anon’ i nodi hynny. Mae llawer o’r Hen Benillion Cymraeg â’u hawduron yn anhysbys. Dyma ddwy gerdd fach Saesneg, na wyddom pwy a’u hysgrifennodd, sy’n sôn am bwysigrwydd cariad a haelioni, gweledigaeth a chymeriad da:

    ‘Love in your heart is not put there to stay. Love isn’t love, till you give it away.’

    ‘Two men looked through prison bars, one saw mud, the other stars
    .

    Dyma un o’r Hen Benillion Cymraeg - pennill bach sy’n dweud llawer yn syml mewn ychydig o eiriau ac sy’n gwneud i ni feddwl. Mae llawer o rai eraill tebyg i’w cael.

Pan fo seren yn rhagori,

Fe fydd pawb â’i olwg arni;

Pan ddêl unwaith gwmwl drosti,

Ni fydd mwy o sôn amdani.

Amser i feddwl

Mae gan wahanol bobl wahanol ddoniau y maen nhw’n gallu eu defnyddio i fynegi eu creadigrwydd - dydi hyn ddim yn golygu y byddwn ni i gyd yn feirdd da. Mae barddoniaeth yn mynnu amrywiaeth.

Mae’n bwysig nad ydyn ni’n treulio’n bywyd yn cymharu ein hunain gyda phobl eraill sy’n ymddangos yn ‘fwy creadigol’ na ni – mae gennym ni i gyd wahanol fath o greadigrwydd. Mae’n debyg y byddwch chi eich hun yn gwybod beth yw eich cryfder yn y maes yma. Felly, gofalwch eich bod yn ei ddefnyddio! Ac os ydych chi’n un o’r rheini sy’n meddwl, ‘Dydw i ddim yn greadigol iawn,’ ystyriwch am foment - meddyliwch am yr holl weithgareddau y byddwch chi’n ymwneud â nhw yn ystod yr wythnos sydd i ddod. Nawr, fe fyddwch chi’n gweld pa mor greadigol ydych chi !

Gweddi

Arglwydd, diolch i ti am y rhodd o farddoniaeth y gallwn ni fwynhau ei darllen a dysgu oddi wrthi.

Helpa ni i fynegi’r creadigrwydd rydyn ni wedi ei gael yn rhodd gan Dduw trwy wneud y pethau hynny y lluniaist ti ni i’w gwneud.

Emyn  

 


Gwasanaethau Uwchradd >>