Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

LLEIHAU GWASTRAFF BWYD

Diwrnod Bwyd y Byd, 16 Hydref

gan Tim a Vicky Scott


Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Fersiwn Saesneg

Nod

Ystyried beth yw bwriad Diwrnod Bwyd y Byd – sef y dylen ni roi blaenoriaeth i leihau gwastraff bwyd ym Mhrydain, a cheisio bwyta’n fwy iachus.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Mae 16 Hydref yn Ddiwrnod Bwyd y Byd. Sefydlwyd y diwrnod hwn, sy’n cael ei gofio ledled y byd, gan y Cenhedloedd Unedig i godi ymwybyddiaeth ynghylch pa mor bwysig yw bwyd er mwyn i fodau dynol barhau yn fyw, ac er eu lles, a hefyd i gydnabod bod cael bwyd yn hawl sylfaenol i bob un. Lluniwyd y rhaglen, UN World Food Programme (WFP) yn y flwyddyn 1961, a chaiff ei chefnogi gan lywodraethau ledled y byd i helpu gwledydd sydd mewn angen mawr am gymorth i gael bwyd. Yn 2003, darparodd WFP fwyd i 104 miliwn o bobl mewn 81 o wledydd, yn cynnwys y rhan fwyaf o ffoaduriaid a phobl sydd wedi’u dadleoli’n fewnol.
  2. Mae Cyfansoddiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pant yn nodi:

    Article 24: Children and young people have the right to good quality health care and to clean water, nutritious food and a clean environment so that they will stay healthy. Rich countries should help poorer countries achieve this.
  3. Tra mae bwyd yn brin i lawer o bobl yn y byd, rydyn ni’n ym Mhrydain yn gwastraffu 8.3 miliwn tunnell fetrig o fwyd bob blwyddyn, y rhan fwyaf ohono yn fwyd y byddai’n bosib ei fwyta. Roedd y cyfan o’r bwyd hwnnw, ar un adeg, yn fwyd da a maethlon. Pam fod cymaint o fwyd y byddai’n bosib ei fwyta’n cael ei daflu? Mae dau brif reswm:

    (a) mae pobl yn paratoi gormod wrth goginio (e.e. coginio gormod o reis neu basta ar y tro)
    (b) peidio â defnyddio’r bwyd yn yr amser iawn - peidio â bwyta’r bwyd cyn iddo gyrraedd y dyddiad erbyn pryd y dylen nhw fod yn ei ddefnyddio (y dyddiad ‘use-by’).
  4. Gydag ychydig o gynllunio a gwybodaeth, fe allwn ni fagu hyder i ail ddefnyddio’r bwydydd sy’n weddill ar ôl pryd bwyd. Os edrychwch chi ar y wefan www.lovefoodhatewaste.com fe welwch chi rai awgrymiadau ardderchog allai eich helpu i wneud hyn.
  5. Mae lleihau gwastraff bwyd yn fater o bwys, ac nid yn unig oherwydd bod bwyd da yn cael ei daflu, mae gwastraffu bwyd yn costio. Yn achos teulu cyffredin gyda phlant, mae’n costio tua £680 y flwyddyn, ac ar ben hynny mae gwastraffu bwyd yn achosi problemau amgylcheddol difrifol hefyd. Pe byddem yn rhoi’r gorau i wastraffu’r bwyd y byddai’n bosib ei fwyta, fe fyddai’r gwahaniaeth yn nhraweffaith y CO2 ar y blaned yr un fath a thynnu un car allan o bob pedwar oddi ar y ffordd fawr!
  6. Yn ffodus, mae’r rhan fwyaf ohonom ni yn gallu cael digon o fwyd, fyddwn ni byth yn dioddef o eisiau bwyd nac yn newynu fel mae miliynau o bobl, ac yn enwedig plant, mewn gwledydd eraill yn y byd. Mae dros 150 miliwn o blant yn y gwledydd sy’n datblygu yn dal i ddioddef o ddiffyg maeth - ddim yn cael digon o’r bwyd sydd ei angen ar gyfer tyfu’n iach ac i ddatblygu. Y newydd da  yw bod y nifer o bobl yn y byd sy’n dioddef o ddiffyg maeth yn lleihau rywfaint. Disgynnodd o 920 miliwn yn 1980 i 799 miliwn yn 2000, er gwaetha’r ffaith bod poblogaeth y byd wedi tyfu 1.6 biliwn yn ystod yr un cyfnod.
  7. Pam y mae cymaint o bobl yn newynu? Mae sawl rheswm: cnydau’n methu oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd, diffyg arian i brynu bwyd, a llywodraethau llwgr yn methu rhannu a dosbarthu bwyd yn deg.

 

Amser i feddwl

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, fe fydd llawer o wasanaethau diolchgarwch am y cynhaeaf yn cael eu cynnal yn ein heglwysi a’n hysgolion ac yn y cymunedau amaethyddol i ddathlu’r cynhaeaf ac i ddiolch i Dduw unwaith eto am flwyddyn arall o gynhaeaf helaeth wedi iddo gael ei gasglu. Mae pobl o ffydd yn credu mai eiddo Duw yw’r byd a’i holl adnoddau, ac mae Duw’n bendithio’r bobl trwy ddarparu cnydau cynhaeaf da iddyn nhw. Mae’r Beibl yn ein haddysgu fod bodau dynol yn cael eu galw i fod yn stiwardiaid doeth ar y ddaear a’i hadnoddau – galwad yr ydym yn aml, yn anffodus, ddim yn ei hystyried.

Ym Mhrydain, nid problem y rhan fwyaf o’r bobl yw diffyg bwyd, ond yn hytrach ein bod yn bwyta gormod o’r bwydydd anghywir, sy’n gallu niweidio’r corff. Fe wyddom i gyd fod bwyta gormod o halen a braster ddim yn dda ar ein lles. Y gwir yw, nid yw’r rhan fwyaf o bobl y wlad hon y dioddef o ddiffyg maeth, ond yn hytrach yn dioddef effaith camfaethiad, ac fe allen nhw fod yr un mor afiach â phobl sy’n byw mewn gwledydd tlawd ac sy’n byw ar lai o lawer o fwyd. Mae rheolaeth gan bawb ar y bwyd y maen nhw’n ei fwyta, ond weithiau mae grym eu hewyllys yn wan, neu efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli fod y bwyd y maen nhw’n ei fwyta’n ddrwg ar les eu corff a’u hymennydd!

Gweddi

Rydyn ni’n diolch i ti, Arglwydd, am y cynhaeaf,
am y bwydydd helaeth sydd ar gael i’r rhan fwyaf ohonom yn y wlad yma.
Diolch i ti am yr haul a’i gynhesrwydd, ac am y glaw sy’n gwbl angenrheidiol,
diolch am y pridd ffrwythlon ac am y ffermwyr sy’n gweithio’n galed.
Helpa ni i ddefnyddio’r bwyd rwyt ti’n ei ddarparu ar ein cyfer ni yn gyfrifol a doeth
fel y byddwn ni’n iach ac yn gofalu gwastraffu cyn lleied â phosib o fwyd da.
Rydyn ni’n cofio’r rhai hynny sy’n newynog, yn dlawd, ac yn wael oherwydd eu bod yn dioddef o ddiffyg bwyd.

 

Emyn

Canwch emyn nodweddiadol sy’n sôn am y cynhaeaf.

 


Gwasanaethau Uwchradd >>