Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

Pryderu

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Helpu plant i ystyried beth yw pryderu, a meddwl am ffyrdd i osgoi pryderu’n ormodol am bethau.

Paratoad a deunyddiau

• Does dim angen paratoi pethau o flaen llaw ar wahân i gopi o’r pennill efallai, ar daflen OHP.
• Fe allech chi chwarae’r gân ‘Whenever I feel afraid' oddi ar drac sain y ffilm The King and I, os hoffech chi, pan fydd y plant yn cerdded i mewn i’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

1. Dywedwch eich bod yn mynd i siarad am rywbeth heddiw rydyn ni i gyd yn ei wneud o dro i dro, sef pryderu am rywbeth. Rydyn ni’n aml yn pryderu am rywbeth, neu rywun, y mae arnom ni ei ofn.

2. Cyflwynwch y pennill:

Mae pryder yn beth rhyfedd iawn,
Gall wneud i ni deimlo’n sâl,
Pryderu am wahanol bethau,
Methu peidio, er i ni drio’n gorau,
Ond ‘dyw pryderu’n ormodol
Ddim yn ein helpu i ddatrys problemau.

3. Holwch beth sy’n gwneud i ni bryderu? Anogwch y plant i ddweud wrthych chi beth yw rhai o’r pethau y byddan nhw’n pryderu amdanyn nhw. Fe allech chi gynnig awgrymiadau os yw’r plant yn amharod i sôn am eu pryderon eu hunain. Efallai y gallech chi awgrymu pethau fel pryderu fod rhywun yn disgwyl i chi wneud rhywbeth rydych chi’n meddwl na allwch chi ei wneud. Neu efallai eu bod yn pryderu am rywun sy’n wael iawn neu’n dioddef. Peth arall allai eu poeni yw gorfod cyfaddef eu bod wedi gwneud rhywbeth na ddylen nhw fod wedi’i wneud. Efallai fod rhywun yn cael ei fwlio, ond ei fod ofn dweud. Beth bynnag sy’n achosi pryder i rywun, pwysleisiwch ei fod, bob amser, yn beth da siarad â rhywun am y peth.

4. Efallai y bydd y stori yma’n ein helpu ni i ddeall pam nad yw pryderu am rywbeth yn gwneud dim i helpu’r sefyllfa.

Penri’n pryderu

Roedd Penri’n un drwg am bryderu. Roedd e’n pryderu am bethau o’r funud roedd e’n codi yn y bore, drwy gydol y dydd. Roedd e’n pryderu gymaint, roedd ganddo boen yn ei fol a doedd e ddim yn gallu bwyta’n iawn. Roedd e’n pryderu drwy’r dydd hyd amser gwely. Ac wedi hynny fe fyddai’n pryderu am fod ar ben ei hun yn y tywyllwch. Felly roedd yn rhaid iddo gael gadael y golau heb ei ddiffodd. Roedd yr holl bryderu yma’n gwneud i’w rieni bryderu amdano yntau!

Un diwrnod roedd ei Anti Beti’n dod atyn nhw i aros am ychydig o ddyddiau. Roedd Anti Beti’n wraig mewn oed, ac yn wraig ddoeth iawn. Roedd hi’n gallu gweld ar unwaith fod Penri’n pryderu am rywbeth. Bob tro y byddai Anti Beti yn dod i gartref Penri, fe fyddai hi’n dod â melysion iddo, ac fe fyddai Penri’n mwynhau ei chwmni’n fawr iawn am ei bod bob amser yn garedig wrtho.

’Edrych, Penri,' meddai, ‘Rydw i wedi dod â melysion i ti, ond mae’r rhain yn rhai arbennig iawn. Melysion peidio pryderu ydyn nhw, ac fe fyddan nhw’n dy helpu di i beidio â phryderu.' Diolchodd Penri iddi a rhoi un yn ei geg.

‘Nawr ‘te Penri bach,' meddai Anti Beti, ‘am beth rwyt ti’n pryderu?'

‘Wel,' meddai Penri, ‘rydw i bob amser yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol.'

‘Y rheswm am hynny yw dwyt ti ddim yn hoffi codi o dy wely yn y bore,' meddai ei fam, ‘ac wedyn mae hi’n ras wyllt yma, bob bore.'

‘O diar,' meddai Anti Beti, ‘rhaid i ni wneud rhywbeth am hynny. Cyn i ti fynd i’r gwely heno beth am osod popeth y bydd ei angen arnat ti ar gyfer fory, yn barod. Felly fydd dim rhaid rhuthro i chwilio am bopeth yn y bore Nawr beth arall sy’n dy boeni di?'

‘Wel,' meddai Penri, ‘rydw i’n cael trafferth i wneud rhai o’r pethau yn fy ngwaith ysgol. Maen nhw’n rhy anodd i fi, Anti Beti, dydw i ddim yn deall beth sydd eisiau ei wneud.'

‘O diar,' meddai Anti Beti, ‘rhaid i ni wneud rhywbeth am hynny hefyd. Nawr, Penri, mae’n debyg nad yw dy athrawes di’n gwybod bod y gwaith yn anodd i ti. Pam na wnei di ddweud wrthi hi? Rwy’n siwr y bydd hi’n fodlon iawn egluro i ti. Does dim eisiau i ti fod ofn dweud wrthi.'

‘Iawn,' meddai Penri, ‘fe ddyweda i wrthi hi.'

‘Nawr,' meddai Anti Beti eto, ‘oes rhywbeth arall?'

‘Oes,' meddai Penri, ‘mae un bachgen o’r enw Gareth, yn yr iard, sydd yn gwrthod gadael i mi chwarae gyda’r bechgyn eraill. Mae e bob amser yn fy ngwthio i oddi yno.'

‘O diar,' meddai Anti Beti wedyn, ‘efallai fod rhywbeth y gallwn ni wneud am hynny hefyd os galli di fod yn ddewr. Fyddi di’n crio wrth iddo fe dy wthio di oddi yno?'

‘Byddaf weithiau,' meddai Penri.

‘Wel,' meddai Anti Beti, ‘y tro nesaf y bydd Gareth yn bod yn gas, paid â chrio a phaid â dangos iddo fe dy fod ti wedi cael dy frifo. Wyt ti’n gweld, mae e wrth ei fodd pan fydd e’n meddwl dy fod ti’n gofidio, un fel’na yw e. Rho di’r argraff iddo fe does dim gwahaniaeth gen ti.'

‘Iawn,' meddai Penri eto, ‘fe ro i gynnig arni.'

Y noson honno, cyn mynd i’w wely, fe gasglodd Penri bopeth yr oedd arno’u hangen ar gyfer yr ysgol drannoeth a’u gosod yn daclus. Roedd popeth mor rhwydd y bore wedyn, roedd yn barod am yr ysgol mewn da bryd. Ffarweliodd ag Anti Beti, a dywedodd hithau wrtho, ‘Nawr, cofia beth ddywedes i wrthot ti neithiwr, fe gaf i’r hanes i gyd gen ti wedi i ti ddod gartref y pnawn ‘ma.'

Roedd mam Penri’n dal i bryderu amdano yn ystod y dydd, ond roedd Anti Beti yn ei sicrhau y byddai popeth yn iawn. Aeth Anti Beti gyda’i fam at giât yr ysgol i gwrdd â Penri. A dyna fachgen hapus oedd Penri y pnawn hwnnw yn dod o’r dosbarth. ‘Rydw i wedi cael diwrnod da iawn heddiw,' meddai wrth y ddwy.

‘O, rydw i mor hapus yn dy glywed di’n dweud hynny,' meddai Anti Beti. ‘Beth ddigwyddodd?'

‘Wel, i ddechrau doeddwn i ddim yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol, ac fe ddywedais i wrth Mrs Williams, yr athrawes, doeddwn i ddim yn deall y gwaith ac fe wnaeth hi fy helpu i. Roeddwn i’n gallu gwneud y symiau wedyn ac fe gefais i bob un yn iawn. Roedd hi’n garedig iawn. Fe ddiflannodd y boen oedd gen i yn fy mol ac roeddwn i’n gallu bwyta fy nghinio i gyd, ac wedyn roeddwn i’n teimlo’n dda drwy’r pnawn. Wnes i ddim crio a rhedeg i ffwrdd wrth i Gareth fy ngwthio oddi yno, dim ond dweud fy mod i eisiau chwarae, ac fe adawodd i mi gael gêm. Efallai y byddwn ni’n ffrindiau yn y diwedd.'

Wedi iddyn nhw gyrraedd gartref, roedd mam Penri mor hapus wrth ei weld yntau mor hapus. Roedd pawb yn mwynhau eu te, ac ar ôl bwyta fe wnaeth Penri ei waith cartref i gyd yn ddidrafferth. Wedyn, pan ddaeth hi’n amser gwely, fe estynnodd Penri bopeth y byddai ei angen ar gyfer trannoeth ac aeth Anti Beti gydag ef i ddarllen stori iddo.


‘Amser cysgu,' meddai Anti Beti. ‘Ond yn gyntaf beth am ddweud gweddi fach,’

‘Arglwydd, cadw ni’n ddiogel heno trwy’r nos,
heb gael ein blino gan ofnau.
Fe fydd dy angylion yn ein gwarchod i gyd,
a chysgwn hyd y bore.
Amen.'

Yna fe ofynnodd hi, ‘Sut rwyt ti’n teimlo nawr, Penri?'

‘Yn iawn diolch, Anti Beti,' meddai Penri,‘ ac er fy mod i wedi bwyta fy melysion arbennig i gyd rydw i’n gwybod doedden nhw ddim yn felysion hud mewn gwirionedd. Rydw i’n gwybod does dim rhaid i mi eu cael i fy helpu, fi sydd i fod i ddelio â phethau yn lle pryderu amdanyn nhw ynte?’


‘Ie,’ meddai Anti Beti, ‘dyw pryderu’n ormodol am bethau ddim yn helpu llawer, nac ydyw?’


‘Nac ydyw,’ cytunodd Penri.


‘Nos da,’ meddai Anti Beti.


‘Nos da,’ meddai Penri, ac fe gewch chi ddiffodd y golau os gwnewch chi plîs, does dim rhaid i mi gael y golau mawr.’


Gwenodd Anti Beti. Roedd hi’n sylweddoli fod Penri’n tyfu’n fachgen mawr, ac na fyddai’n pryderu’n ormodol am bethau eto, gobeithio.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Mae pryder yn beth rhyfedd iawn,
Gall wneud i ni deimlo’n sâl,
Pryderu am wahanol bethau,
Methu peidio, er i ni drio’n gorau,
Ond ‘dyw pryderu’n ormodol
Ddim yn ein helpu i ddatrys problemau.

Felly siaradwch â rhywun,
Gyda’ch gilydd fe ddowch chi o hyd i gynllun,
Cewch wared â’ch pryder, beth bynnag â fo -
Wrth siarad a thrafod - mae’n gweithio bob tro.

‘Prun ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes trwy bryderu.' (Mathew 6.27)

Gweddi:
Annwyl Dduw, bydd di gyda ni yn ein hysgol heddiw, yn ein gwaith ac yn ein chwarae.
Helpa ni i beidio â phryderu ar ddyddiau pan fyddwn ni’n gweld pethau’n anodd.
Dangos i ni ei bod hi’n bosib wynebu’n pryderon, ac nad yw pryderu’n ormodol am bethau
yn helpu dim i ddatrys problemau.
Helpa ni, Arglwydd, i ddeall hynny heddiw, a phob dydd.

Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Cynradd >>