Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd

PROFIAD O GYNHAEAF

gan Jan Edmunds


Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 1

Fersiwn Saesneg

Nod

Codi ymwybyddiaeth ynghylch y gwaith sydd angen ei wneud wrth gasglu’r cynhaeaf.

Paratoad a deunyddiau

 

Gwasanaeth

  1. Dyma stori am ddau blentyn oedd yn byw mewn dinas. Doedden nhw ddim wedi bod allan yn y wlad erioed, heb sôn am fod ar fferm. Doedden nhw ddim wedi meddwl erioed o ble y deuai’r ffrwythau a’r llysiau i’r archfarchnadoedd.
  2. Roedd Ali a Selina wedi anfon gwaith ysgrifenedig i gystadleuaeth yn eu hysgol ac wedi ennill. Y dasg oedd ysgrifennu pam y bydden nhw’n hoffi treulio diwrnod neu ddau ar fferm. Roedd y ffermwr, Mr Jones, a’i wraig wedi cynnig gwobr i’r ddau blentyn fyddai’n fuddugol yn y gystadleuaeth. Y wobr oedd cael treulio nifer o ddyddiau gyda nhw ar y fferm, a chael gweld sut roedd pethau’n gweithio yno. Cytunodd rhieni Ali a Selina iddyn nhw gael mynd i aros ar y fferm, ac roedd y ddau’n llawn cyffro pan ddaeth yr amser iddyn nhw fynd yno.

Ar ôl iddyn nhw gyrraedd, fe ddangosodd Mrs Jones yr ystafell iddyn nhw lle bydden nhw’n aros ac fe gafodd y ddau ddiod o lemonêd cartref a bisgedi. Ymhen ychydig fe ddaeth Mr Jones a’r tractor a’r trelar a chynnig dangos y fferm i’r plant. Dringodd Ali a Selina i’r trelar. Roedden nhw wedi synnu wrth weld pa mor fawr oedd y gwartheg, a pha mor ddrewllyd oedd y moch, ac roedden nhw’n meddwl bod y defaid yn edrych fel cwn mawr gwlanog!

‘Gadewch i ni weld sut beth ydi bywyd ffermwr,’ meddai Mr Jones. Fe aethon nhw heibio ysgubor fawr yn llawn o wair. Eglurodd Mr Jones iddyn nhw ei fod yn defnyddio’r gwair i fwydo’r anifeiliaid trwy’r gaeaf. Yn y caeau, fe welson nhw’r yd melyn newydd gael ei dorri. Eglurodd Mr Jones bod yn rhaid iddo fynd â grawn yr yd i’r felin wedyn er mwyn ei falu’n flawd i wneud bara. Fe fyddai’r gwellt melyn oedd ar ôl wedyn yn cael ei gasglu a’i storio i’w roi fel gwely i’r anifeiliaid i orwedd arno yn y gaeaf. Roedd pawb o gwmpas yn gweithio’n brysur, yn casglu’r cnydau oedd wedi bod yn tyfu trwy’r haf.

Holodd Mr  Jones y plant a fydden nhw’n hoffi helpu – yn naturiol, roedden nhw’n awyddus i wneud hynny. Fe aethon nhw o un rhan y fferm i’r llall. Yn gyntaf, fe fuon nhw’n casglu afalau gan lenwi eu basgedi ag afalau aeddfed hyfryd. Wedi hynny, fe fuon nhw’n casglu pêrs. Roedd yn ddigon hawdd casglu’r ffrwythau am fod cymaint ohonyn nhw’n tyfu ar y coed. Ar ôl i bawb fwyta’r picnic yr oedd Mrs Jones wedi ei baratoi iddyn nhw i ginio, fe fuon nhw’n tynnu moron a betys o’r pridd, ac yn casglu ffa oddi ar y planhigion tal. Yna, yn orau oll, fe fuon nhw’n casglu’r corn melys a oedd yn gwneud swn clec wrth iddyn nhw dorri’r corn oddi ar y coesyn, ac wedyn yn gwneud swn ‘dwmp’ wrth i’r tywysennau corn ddisgyn i’r fasged. Ymhen amser dechreuodd y plant feddwl nad oedd diwedd ar yr holl bethau gwahanol yr oedden nhw’n eu casglu. Ganol y pnawn roedd yr haul yn boeth ac roedd breichiau Selina’n dechrau blino a chefn Ali’n dechrau brifo ar ôl iddyn nhw fod wrthi’n cario’r basgedi llawn ffrwythau a llysiau.

‘Doeddwn i erioed wedi meddwl bod y gwaith o gasglu’r cynhaeaf yn waith mor anodd,’ meddai Ali. ‘Dwi’n meddwl eu bod nhw wedi tyfu llawer gormod o bethau,’ meddai Selina wedyn.

Roedd Mr Jones yn gallu gweld bod y plant yn dechrau blino erbyn hyn. ‘Mae’n amser te,’ meddai wrthyn nhw. Ac fe aethon nhw i’r ty. Wrth iddyn nhw fynd i mewn roedd Ali a Selina yn gallu gweld y bwrdd wedi ei osod yn barod ar gyfer y pryd bwyd. Roedd yno ddarnau mawr o gig cyw iâr wedi’i rostio a llysiau wedi’u berwi, llysiau tebyg i’r rhai roedden nhw wedi bod yn eu casglu ychydig cyn hynny. Roedd blas da ar bopeth, doedden nhw erioed wedi bwyta llysiau mor flasus o’r blaen. Ar ôl bwyta’r cig a’r llysiau, fe gawson nhw bwdin hyfryd, sef crymbl afalau a hufen ffres, ac roedd digon o lefrith ffres oer iddyn nhw i’w yfed hefyd. Roedd y cyfan o’r pethau hyn wedi eu cynhyrchu ar y fferm. Doedd y plant ddim wedi meddwl cyn hyn gymaint o ymdrech oedd ei angen er mwyn casglu’r cynhaeaf. Aeth y ddau i’w gwelyau'r noson honno wedi blino’n llwyr, ond yn hapus dros ben eu bod wedi gallu helpu gyda’r gwaith.

Y diwrnod canlynol, fe weithiodd y ddau yr un mor galed eto, gan wybod pa mor bwysig oedd hi i gasglu’r cnydau. Gwyliodd y ddau lorïau mawr yn dod i’r fferm i nôl y ffrwythau a’r llysiau. Fe fyddai peth o’r cynnyrch yn mynd i’r archfarchnadoedd lleol, ac efallai y byddai peth o’r cynnyrch yn cael ei fwyta ganddyn nhw gartref wedyn. Pan ddaeth hi’n amser i Ali a Selina ymadael â’r fferm fe roddodd Mr a Mrs Jones fasgedaid o ffrwythau a llysiau i’r ddau ohonyn nhw i gofio am eu hamser prysur ar y fferm. Roedd y ddau wedi cael amser da iawn ac roedd y ddau wedi dysgu llawer iawn.

Amser i feddwl

Cyn bod y ffrwythau a’r llysiau yn cyrraedd yr archfarchnadoedd, gadewch i ni gofio bod llawer iawn o bobl wedi gweithio’n galed i’w cael yno.

Gadewch i ni ddweud diolch am yr holl bobl sydd wedi bod yn ymwneud â hyn, a diolch yn enwedig i Dduw am ei addewid y bydd cynhaeaf bob blwyddyn fel y gallwn ni i gyd gael bwyd i’w fwyta.

Emyn

 

 


Gwasanaethau Cynradd >>