Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Y Rhan Fwyaf Nerthol O ’ch Corff 1: Geiriau Cas

gan Stuart Kerner

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod


Ystyried sut mae pethau y byddwn ni’n eu dweud, a’r ffordd y byddwn ni’n dweud pethau, yn gallu amharu ar fywydau pobl eraill.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ofyn a oes rhywun yn gallu enwi’r cyhyr cryfaf yn eu corff. Fe allech chi gael amrywiaeth o atebion, cyhyrau cryfion y coesau neu’r breichiau, mae’n debyg. Ond er bod cryfder nerthol iawn yn y rhain, yr ateb rydych chi’n chwilio amdano yw’r tafod.
  2. Mae geiriau’n bethau nerthol iawn. Yn y Beibl, mae’n dweud fod Duw wedi creu pob peth sy’n bod, trwy ei air creadigol.
  3. Dywedwch wrth eich cynulleidfa fod y geiriau y mae rhywun yn eu defnyddio, a’r ffordd y maen nhw’n cael eu dweud, yn gallu cael effaith fawr ar yr un sy’n eu clywed, naill ai er gwell neu er gwaeth. I ddarlunio, hyn dywedwch wrth rywun sy’n eistedd yn weddol agos i’r blaen pa mor smart y mae’n edrych heddiw, gan bwysleisio hynny yn y modd mwyaf clên posib. Yna, trowch at y gwirfoddolwr sydd wedi cytuno i’ch helpu chi, sydd hefyd yn eistedd yn y tu blaen. Tynnwch bob math o ystumiau â’ch wyneb wrth wneud sylwadau ynghylch y ffordd y mae ef neu hi yn edrych - gan ei feirniadu am yr olwg sydd arno ef neu hi. Eto, gallwch orwneud hyn gymaint ag a feiddiwch chi. (Cofiwch ddiolch ar y diwedd i’r un fu’n eich helpu, gan egluro ar yr un pryd i bawb arall nad oeddech chi o ddifrif yn meddwl yr hyn roeddech chi’n ei ddweud amdano neu amdani. Anogwch bawb i roi cymeradwyaeth iawn iddo neu iddi wedyn hefyd.)
  4. Adroddwch y stori yma i ddarlunio’r pwynt rydych chi’n ceisio’i egluro:

    Aeth dyn ar daith weddol hir ar drên. Daeth o hyd i le i eistedd mewn rhan o’r trên a oedd heb fod yn rhy llawn, ac fe eisteddodd gyferbyn â gwraig ifanc oedd yn dal babi bach yn ei breichiau.

    Wrth i’r trên deithio, darllenai’r dyn ei bapur newydd. Ond yn sydyn fe sylwodd ar y babi. Heb feddwl, fe ddechreuodd chwerthin. Chwerthin bach i ddechrau, wrtho’i hun, ond yna dechreuodd chwerthin yn uchel, a chwerthin a chwerthin wedyn nes roedd dagrau’n powlio ganddo.

    Roedd y wraig yn methu deall pam roedd y dyn yn chwerthin fel hyn. Ond fe stopiodd y dyn chwerthin o'r diwedd i egluro, gan ddweud wrth y wrthi: ‘O! Wyddoch chi be? Dyna’r creadur HYLLAF a welais erioed yn fy mywyd!’

    Wrth gwrs, roedd y wraig yn anhapus iawn pan glywodd hyn, ac roedd yr hyn yr oedd y dyn wedi’i ddweud wedi ei brifo gymaint nes iddi ddechrau crio o ddifrif. Pan welodd y dyn hyn, dechreuodd deimlo’n edifar, ac ymddiheurodd gan geisio gwneud i’r wraig deimlo’n well. Aeth i chwilio am y bar bwffe oedd ar y trên, a daeth yn ei ôl ymhen ychydig funudau. Erbyn hynny, roedd y wraig wedi peidio crio ac wedi dod ati ei hun yn weddol. Roedd y babi’n cysgu’n braf yn ei breichiau. Estynnodd y dyn gwpanaid o goffi iddi a rhywbeth mewn bag papur.

    ‘Mae’n ddrwg gen i am wneud i chi grio,’ ymddiheurodd. ‘Roeddwn i’n ddifeddwl iawn. Ddylwn i ddim bod wedi dweud beth wnes i. Cymerwch y rhain fel arwydd o ymddiheuriad gen i.’  Wrth glywed hyn, gwenodd y wraig. Roedd hi’n falch bod ei chyd deithiwr wedi bod yn ddigon cwrtais i ymddiheuro wedyn beth bynnag, a’i fod wedi gwneud ymdrech i ddangos ei bod hi’n ddrwg ganddo ei fod wedi dweud yr hyn a wnaeth.

    ’Cymerwch y rhain,’ meddai’r dyn. Efallai y byddan nhw’n gwneud i chi deimlo’n well.’ Agorodd y bag, ac ynddo roedd banana.

    ‘Diolch am y coffi,’ meddai, ‘ond dydw i ddim yn hoffi bananas.’

    ‘O, nid i chi mae’r fanana,’ meddai’r dyn. ‘Mae’r coffi i chi, a’r fanana i’ch mwnci chi.’ Dechreuodd y wraig grio eto, yn aflywodraethus.
  5. Mae’r  Beibl yn dweud wrthym ni, ‘Y mae geiriau’r straegar fel brath cleddyf, ond mae tafod y doeth yn iachau.’ (Diarhebion 12.18).
  6. Eglurwch fod geiriau’r dyn wedi brifo mwy ar y wraig nag unrhyw beth yr oedd wedi’i wneud. Mae’r geiriau rydyn ni’n eu dewis, a’r ffordd rydyn ni’n defnyddio’r geiriau rheini, yn gallu bod yn niweidiol iawn i eraill. Ac yn fwy na dim, rhaid i ni gofio mai dim ond mewn geiriadur y mae’r gair dweud yn dod o flaen y gair meddwl!

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r disgyblion gau eu llygaid a meddwl am yr holl adegau y maen nhw wedi:

- dweud geiriau cas a chreulon wrth eraill
- defnyddio geiriau’n fwriadol i frifo teimladau rhywun arall
- siarad yn ddifeddwl
- dangos diffyg parch at eraill trwy ddweud rhywbeth neu’i gilydd mewn ffordd neilltuol.

Oedwch am foment cyn gweddïo (os yw hynny’n briodol):

Bydded geiriau fy ngenau’n dderbyniol gennyt,
a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti.
O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr
.
Amen.
(geiriau o Salm 19)


Emyn

Cerddoriaeth

‘Happy talk’ o’r  sioe gerdd South Pacific
‘Wordy rappinghood’ gan Tom Tom Club

 


Gwasanaethau Uwchradd >>