Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Y Rhan Fwyaf Nerthol O’ch Corff 2: Hel Clecs, Neu Fod Yn Straegar

gan Stuart Kerner

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Meddwl pa mor hawdd yw hi i siarad am bobl y tu ôl i’w cefnau, a pha mor niweidiol y gallai hynny fod.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch am ddau i’ch helpu. Rhowch blât a thiwb o bast dannedd i un. Rhowch fanana i’r llall. Gofynnwch i’r cyntaf wasgu dogn helaeth o’r past dannedd o’r tiwb, ar y plât. Gofynnwch i’r ail dynnu croen y fanana’n ofalus. Nawr, rhowch lwy i’r cyntaf, a  rholyn o dâp gludiog i’r ail, gan ddweud wrthyn nhw fod ganddyn nhw 30 eiliad i roi’r past dannedd yn ôl yn y tiwb â’r llwy, a’r fanana’n ôl yn ei chroen gan ddefnyddio’r tâp gludiog..
  2. Fe ddylai hyn fod yn ddifyr i’r rhai sy’n gwylio! Efallai y gallech chi annog y gynulleidfa i gyfrif i lawr o 10 i 0 yn ystod y 10 eiliad olaf.
  3. Pan fydd y 30 eiliad ar ben, dangoswch ganlyniad ymdrechion y ddau wirfoddolwr - a fydd, o bosib yn dipyn o lanast! Diolchwch i’r ddau a gofynnwch i bawb roi cymeradwyaeth iddyn nhw.
  4. Dywedwch wrth y gynulleidfa fod geiriau yn debyg iawn i’r past dannedd a’r fanana - unwaith y maen nhw allan, mae’n anodd iawn eu tynnu’n ôl. (Os gwnaethoch chi ddefnyddio’r gwasanaeth cyntaf yn y gyfres yma, sef Y Rhan fwyaf nerthol o’ch corff 1: Geiriau Cas, efallai yr hoffech chi atgoffa’ch cynulleidfa o’r modd y mae geiriau cas yn gallu brifo.)
  5. Holwch faint o ddisgyblion sydd wedi clywed fod rhywun wedi bod yn siarad amdanyn nhw y tu ôl i’w cefnau? Sut roedd hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo? Yn drist? Yn unig? Yn ddig?  
  6. Holwch faint o ddisgyblion sydd ryw dro wedi dweud rhywbeth am rywrai y tu ôl i’w cefnau? Fe ddylech chi fod â thua’r un nifer eto. Gofynnwch iddyn nhw ystyried pam fod pawb bron ohonom, ryw dro, wedi hel straeon am rywun neu’i gilydd.
  7. Dywedwch fod sawl cyfeiriad yn y Beibl at fod yn straegar, er enghraifft:

    ‘Y mae’r straegar yn bradychu cyfrinach, ond y mae’r teyrngar yn ei chadw’ (Diarhebion 11.13).

    ‘Y mae rhywun croes yn creu cynnen, a’r straegar yn gwahanu cyfeillion’ (Diarhebion 16.28).

    ‘Y mae geiriau’r straegar fel danteithion sy’n mynd i lawr i’r cylla’ (Diarhebion 18.8).

    ‘Y mae’r straegar yn bradychu cyfrinach; paid â chyfeillachu â’r llac ei dafod’ (Diarhebion 20.19).

    ‘Heb goed fe ddiffydd tân, a heb y straegar fe dderfydd am gynnen’ (Diarhebion 26.20).

    Mae’n amlwg felly nad rhywbeth newydd yw hel clecs!
  8. Mae’n hawdd iawn i bob un ohonom fod yn straegar ac rydyn ni’n euog yn aml iawn o hel clecs. Ond fe allwn ni ddysgu cymryd camau i geisio peidio gwneud hyn.
  9. Holwch y gynulleidfa a oes rhywun wedi clywed am y grwp Cristnogol o’r enw ‘Y Crynwyr’ - ‘Quakers’ yn Saesneg, neu i roi’r enw iawn ar y grwp, ‘The Society of Friends’. Sefydlwyd mudiad y Crynwyr yn ôl yn yr ail ganrif ar bymtheg, gan bregethwr o’r enw George Fox. Mae’r Crynwyr yn bobl heddychlon iawn, ac yn gwrthwynebu rhyfel a gwrthdaro o unrhyw fath.

    Ac wrth siarad â’i gilydd, mae’r Crynwyr yn credu bod tri chwestiwn  y mae’n rhaid i ni eu gofyn i ni’n hunain cyn dweud unrhyw beth wrth unrhyw un:
      • Ydi’r geiriau a ddefnyddiwn yn eiriau caredig?
      • Ydi’r geiriau a ddefnyddiwn yn eiriau angenrheidiol?
      • Ydi’r geiriau a ddefnyddiwn yn eiriau sy’n mynd i helpu rhywun?
  10. Os ydyn ni’n methu dilyn y rheolau hyn, gall ein geiriau droi’n bethau straegar, ac mae hel clecs yn debyg i fwmerang – fel rheol mae bwmerang yn dod yn ei ôl at yr un sy’n ei daflu.
  11. Os ydych chi’n meddwl fod pobl yn dod atoch chi’n aml i ddweud pethau am bobl eraill, ceisiwch ystyried pam y maen nhw’n gwneud hynny. Os ydych chi’n barod iawn i wrando ar bobl yn hel clecs a straeon, fe fyddan nhw’n eich gweld chi fel un sy’n awyddus i chwarae’r gêm faleisus o hel clecs.
  12. Os ydych chi’n awyddus i dorri’r mowld a newid eich ffordd, ceisiwch ddweud rhywbeth fel yma, er mwyn annog y lleill i beidio â hel cymaint o straeon gyda chi: ‘Dwi ddim yn meddwl y byddai ef neu hi yn hapus pe byddai’n gwybod ein bod ni’n trafod ei fywyd neu ei bywyd personol fel hyn. Fe fyddai’n well i ni roi’r gorau i sgwrsio am hyn.’ Neu, efallai, ‘Wna i ddim credu’r hyn sy’n cael ei ddweud nes byddaf yn ei glywed ganddo ef, neu hi, ei hun.’
  13. Mae’n bosib i ni i gyd gael ein temtio i hel straeon. Ystyriwch y cwestiynau yma cyn rhannu unrhyw wybodaeth am rywun arall. Ydi’r wybodaeth hon yn mynd i helpu’r un rydyn ni’n siarad amdano, neu yn mynd i’w dynnu i lawr? Oes gen i reswm da dros rannu’r wybodaeth hon? A ddylwn i ofalu bod y wybodaeth yn gywir cyn i mi ei hailadrodd? Fyddai gen i gywilydd pe byddai’r un rydw i’n siarad amdano, neu amdani, yn gwybod beth rydw i’n ei ddweud?
  14. Weithiau, efallai mai cadw rhyw wybodaeth neilltuol i chi eich hun yw’r gorau, yn enwedig os nad ydych chi’n hollol bendant a yw’r wybodaeth yn gywir ai peidio. Yn aml iawn, fe fydd hyn yn rhoi stop ar unwaith ar y straeon cas. Yn wir, mae’n dweud yn y Beibl, yn Llyfr y Diarhebion 10.19, ‘Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo, ond y mae’r deallus yn atal ei eiriau.’

Amser i feddwl

Gweddi:

O Dduw,

Cadw drefn ar yr hyn y byddwn ni’n ei ddweud,

fel na fyddwn ni’n siarad

unrhyw air o ddicter,

unrhyw air o falais,

nac unrhyw air o anwiredd.

Helpa ni i osgoi defnyddio unrhyw eiriau  

fyddai wedyn yn peri i ni gywilyddio.

Amen.

Myfyrdod:

Gadewch i ni gadw trefn ar y geiriau y byddwn ni’n eu dweud,

fel na fyddwn ni’n siarad

unrhyw air o ddicter,

unrhyw air o falais,

nac unrhyw air o anwiredd.

Gadewch i ni osgoi defnyddio unrhyw eiriau  

fyddai wedyn yn peri i ni gywilyddio.

Gweithgaredd dilynol

Os bydd cyfle i chi gael mynediad i’r rhyngrwyd gyda’ch disgyblion, efallai yr hoffech chi drefnu eu bod yn cymryd rhan yn y cwis ‘Are you a Gossip?’ sydd i’w weld ar: http://www.beliefnet.com/section/quiz/index.asp?sectionID=&surveyID=54

Neu, fel arall, fe allech chi ei addasu a’i gyflwyno i’r disgyblion wedi’i argraffu’n barod.

Emyn

Cerddoriaeth

‘I heard a rumour’ gan Bananarama
‘Shut up’ gan The Black Eyed Peas
‘Sweet dream my LA ex’ gan Rachel Stevens
‘Rabbit’ gan Chas and Dave

 


Gwasanaethau Uwchradd >>